Ffigyrau dyddiol: 163 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
covidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 163 yn rhagor o achosion positif o Covid-19 wedi'u cofnodi ar draws Cymru, yn ôl ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Iau.

Mae nifer y marwolaethau yn parhau i fod yn 5,572, yn ôl y dull yma o gofnodi, gyda chyfanswm o 214,545 o achosion yng Nghymru erbyn hyn.

Y nifer y bobl sydd wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn yw 2,228,532.

Mae 1,473,927 bellach wedi derbyn dau ddos.

Cyfradd heintio'n cynyddu eto

Mae'r gyfradd heintio dros gyfnod o saith diwrnod fesul bob 100,000 o'r boblogaeth wedi cynyddu eto i 23.6.

Mae'r gyfradd dros 50 mewn dwy sir - Conwy (82.8) a Sir Ddinbych (77.3) - ac mae canran y profion sy'n bositif hefyd wedi codi i 2.4%.

Yn y cyfamser, mae Covid-19 bellach wedi gostwng i'r 31ain prif achos marwolaeth yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Am chwech o'r 14 mis blaenorol, Covid-19 oedd achos marwolaeth mwyaf Cymru.

Roedd 15 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid ym mis Mai - 0.6% o'r holl farwolaethau.

Cyfradd marwolaethau Covid misol o 5.2 marwolaeth fesul 100,000 o bobl oedd yr isaf ers i'r pandemig ddechrau.

Ond Covid yw prif achos marwolaeth o hyd yn ystod y 15 mis diwethaf.

Pynciau cysylltiedig