Yr Eidal yn cyflwyno cwarantin i deithwyr o Brydain

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bydd teithwyr o Brydain yn wynebu cyfnod cwarantin o bum diwrnodFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd teithwyr o Brydain yn wynebu cyfnod cwarantin o bum diwrnod

Mae'r Eidal wedi cyflwyno cyfnod cwarantin o bum diwrnod a phrofion gorfodol i unrhyw deithiwr o Brydain sy'n ymweld â'r wlad.

Yn y cyhoeddiad gwreiddiol, roedd y mesurau newydd yn dod i rym ddydd Sadwrn - ddiwrnod cyn i Gymru wynebu'r Eidal yn rowndiau terfynol Euro 2020 yn Rhufain.

Byddai hynny wedi golygu fod cefnogwyr Cymru oedd yn cyrraedd yr Eidal ar ôl hanner nos ddim yn gallu mynd i weld y gêm nos Sul.

Ond yn gyflym iawn fe gafodd y cyhoeddiad ei newid, a bydd y mesurau nawr ddim yn dod i rym tan ddydd Llun.

Mae rhai ffynonellau wedi awgrymu bod awdurdodau'r Eidal wedi ailystyried ar ôl ystyried yr effaith ar gefnogwyr pêl-droed o Gymru.

Ddydd Gwener dywedodd Gweinidog Iechyd Yr Eidal, Roberto Speranza, bod y mesurau yn cael eu cyflwyno yn sgil pryderon am gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o amrywiolyn Delta.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn wynebu'r Eidal yn y stadiwm Olimpico yn Rhufain ddydd Sul am 17:00

Ddydd Gwener nodwyd bod yna gynnydd o 79% o achosion wythnosol ar draws Prydain. Mae ffigyrau diweddaraf Cymru yn dangos bod bron i 490 achos o amrywiolyn Delta yng Nghymru.

Fe fydd yr Eidal yn codi'r cyfyngiadau ar deithwyr o'r Unol Daleithiau, Canada, Japan a gweddill taleithiau yr UE os oes gan deithwyr gerdyn gwyrdd yn nodi eu bod wedi'u brechu ac wedi cael prawf Covid negyddol yn ddiweddar.

Bydd y gwaharddiad ar deithwyr o India, Bangladesh a Sri Lanka yn parhau.

Mae'r Eidal yn dilyn Ffrainc, Awstria a'r Almaen sydd eisoes wedi cyflwyno amrywiol reolau i deithwyr o Brydain.

Ddydd Gwener fe ddywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod 91% o achosion Covid yn amrywolion Delta.