Gohirio hanner marathon yn 'anodd' i elusennau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Hanner Marathon CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu i fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf o'i fath yn y DU

Mae elusennau'n rhybuddio fod y penderfyniad i ohirio Hanner Marathon Caerdydd eleni yn ergyd arall iddyn nhw.

Dywed y trefnwyr, Run 4 Wales, eu bod wedi penderfynu canslo'r digwyddiad am y trydydd tro oherwydd ansicrwydd ynghylch rheolau pellter cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd cyfarwyddwr elusen Calon Hearts, Sharon Owen, fod y sefyllfa'n "eithaf anodd," a bod elusennau fel petaent yn cael eu hesgeuluso "drwy'r amser".

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn "cefnogi" penderfyniad Run 4 Wales.

Ers ei sefydlu yn 2003, mae Hanner Marathon Caerdydd wedi dod yn drydedd ras fwyaf y DU ar ôl Marathon Llundain a Great North Run.

Mae elusennau wedi elwa o filiynau o bunnau dros y cyfnod hwnnw drwy gynnig lle yn y ras i redwyr, ar yr amod eu bod yn codi arian dros yr elusen.

Dywedodd Ms Owen fod Calon Hearts - elusen fach sy'n darparu diffibrilwyr a hyfforddiant i'w defnyddio - wedi rhoi'r gorau i'w swyddfa y llynedd am nad oedden nhw'n gallu fforddio ei chadw ar agor.

Dywedodd mai hi ei hun ac un person arall bellach sy'n rhedeg yr elusen o'i garej hi, gyda chefnogaeth "gwirfoddolwyr anhygoel".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed cyfarwyddwr Calon Hearts, Sharon Owen, bod y pandemig wedi bod yn ddinistriol i elusennau

"Yn ystod y penwythnos cyn y cyfnod clo cyntaf, fe gollon ni gryn dipyn o arian mewn digwyddiadau roedd pobl yn eu trefnu ar ein cyfer," meddai Ms Owen wrth BBC Radio Wales, "a synhwyrais mai fel hyn oedd pethau'n mynd i fod.

"Mae'n gwneud i chi stopio a meddwl: 'Beth sy'n mynd i ddigwydd?' Cefais ofn mawr wrth feddwl: 'O ble mae'r arian hwn yn mynd i ddod?'

"Mae'r mwyafrif yn digwydd yn yr awyr agored, ac wedyn chi'n gweld beth sydd wedi bod yn digwydd yn Wembley: 60,000 o gefnogwyr, ac yna Ascot a Wimbledon; ni allwn gynnal digwyddiadau yma yng Nghymru y tu allan."

Dywedodd Phae Jones, o hosbis Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg, y byddai "effaith ariannol" yn sgil canslo'r ras.

"Mae'n ein hatgoffa ein bod ni'n dibynnu'n fawr ar incwm gwirfoddol a godir," meddai.

"Ar y ddau achlysur diwethaf, pan ddylai'r hanner marathon fod wedi digwydd, byddai ein cefnogwyr a oedd yn rhedeg wedi cynhyrchu mwy na £100,000, felly mae'n swm anhygoel o arian."

Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd o bobl yn rhedeg hanner marathon Caerdydd bob blwyddyn dros gwahanol elusennau

Cafodd penderfyniad i ganslo'r digwyddiad ei wneud ar ôl trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Y gobaith nawr yw y bydd dau ddigwyddiad yn cael eu cynnal yn 2022, gyda'r ail ras ym mis Hydref.

Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman, ddydd Iau: "Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i lacio'r rheolau pellhau cymdeithasol dau fetr, sy'n darparu heriau gweithredol sylweddol i drefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol".

Mae rhedwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn digwyddiad "rhithwir" yn lle hynny

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n wedi bod mewn trafodaethau gydol y pandemig gyda Run 4 Wales.

"Mae digwyddiadau mawr yn rhan allweddol o economi ymwelwyr Cymru a dyna pam ein bod wedi cefnogi'r sector drwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol."

Pynciau cysylltiedig