Angen grantiau i sicrhau dyfodol eisteddfodau lleol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tlysau eisteddfodau lleol

Mae yna alw am sefydlu grantiau neu becynnau nawdd i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r eisteddfodau lleol.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae nifer o eisteddfodau'n cael eu gohirio, ac mae yna bryder ynghylch goblygiadau hynny ar ddiwylliant a thraddodiad Cymru.

I'r rheiny sy'n mynd yn rhithiol, does dim incwm chwaith.

Ddydd Mawrth fe fydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru'n cynnal seiat i drafod gobeithion a phryderon wrth drefnu 'steddfodau a digwyddiadau cymunedol o'r newydd.

Disgrifiad,

"Does dim incwm wrth gynnal eisteddfod rithiol," meddai Rhian Davies o Eisteddfod Powys

Eisteddfod Powys yw'r eisteddfod hynaf yng Nghymru a'r unig eisteddfod taleithiol sydd ar ôl.

Mae hi'n cael ei chynnal yn rhithiol eleni, ac mae'r ymateb wedi bod yn "anhygoel", medd y trefnwyr, gydag oddeutu 1,200 o geisiadau wedi eu derbyn.

Ond mae cynnal digwyddiad digidol yn eu hatal rhag creu incwm.

"'Dan ni methu gwerthu tocynne, 'dan ni methu gwerthu rhaglenni, cynnal raffl na dim byd felly," meddai Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn.

"Mae'r gymrodoriaeth wedi ein noddi ni 'leni, ond i eisteddfodau llai dwi'n siŵr bysa grantiau neu nawdd gan y llywodraeth neu rywbeth felly yn helpu nhw i gynnal [eisteddfod].

"Dan ni 'di bod yn lwcus iawn eleni, mae ginnon ni arian yn y banc i gynnal [eisteddfod] ond... dydi o ddim yn bosib gwneud hynny'n hirdymor."

Disgrifiad o’r llun,

Aled Wyn Phillips yw swyddog datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

Ddydd Mawrth mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru'n cwrdd i baratoi i helpu trefnwyr ailafael ar eu digwyddiadau wedi'r pandemig.

"Mae yna oblygiadau technegol," medd swyddog datblygu'r gymdeithas, Aled Wyn Phillips.

"Oes 'na [gysylltiadau] 4G, 5G ar gael? Oes gyda nhw yr offer priodol? Oes gyda nhw'r amser a'r gallu i fedru gwneud?

"Ond ddim dyna ydi'r ateb, wrth gwrs. Be mae pobol eisiau gwneud ydi ymgynnull - cynnal eu digwyddiadau, cynnal eu cystadlaethau.

"Peth cymunedol ydi eisteddfod yn lleol, wrth gwrs, sy'n arwain maes o law i lwyfanna' ehangach i nifer o bobol hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin a Mari o Dregaron yn eisteddfodwyr lleol brwd

Mae dwy chwaer o Dregaron, Elin a Mari, yn cystadlu'n frwd yn yr eisteddfodau lleol ac yn awchu i gael perfformio eto o flaen cynulleidfa.

Mae'r ddwy'n cytuno bod methu cael gwneud hynny ers dechrau'r pandemig wedi cael effaith.

"Mae llais fi heb fod yn gweithio gymaint ag fel oedd e a rhai node bydden i'n ffili ymestyn nawr fel o'n i'n gallu, gwedwch, ddwy flynedd yn ôl," meddai Elin. "So ma fe wedi effeithio lot ar llais fi a lot ar hyder hefyd."

Dywedodd Mari: "Amser chi'n mynd i eisteddfod leol, ma fe'n bach o practis a chi'n ca'l mwy o hyder achos chi'n gw'bod bo' chi, fel, yn gallu neud e."