Cyn-bennaeth ysgol yn euog o ymddygiad annerbyniol

  • Cyhoeddwyd
Cwmcarn Primary SchoolFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nicholas Saunders yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Cwmcarn rhwng 2014 a 2019

Mae cyn-bennaeth ysgol gynradd yn Sir Caerffili wedi ei gael yn euog gan banel disgyblu o ymddygiad proffesiynol annerbyniol tuag at ddisgybl oedd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd Nicholas Saunders yn bennaeth Ysgol Gynradd Cwmcarn rhwng 2014 a 2019.

Clywodd aelodau o bwyllgor Cyngor y Gweithlu Addysg bod yna chwech o honiadau yn erbyn Mr Saunders yn ymwneud â digwyddiad ym mis Ionawr 2019, gan gynnwys ei fod wedi siarad gyda disgybl mewn modd ymosodol neu weiddi ar y plentyn, a cheisio ei atal yn gorfforol.

Fe benderfynodd y pwyllgor bod y chwe honiad yn ei erbyn wedi cael eu profi, ac fe gafodd ei wahardd rhag dysgu am ddwy flynedd.

'Dig ac allan o reolaeth'

Roedd Mr Saunders wedi dewis peidio bod yn bresennol yn y gwrandawiad, ac roedd wedi gwadu'r honiadau gan ddadlau ei fod yn ceisio amddiffyn y bachgen a'i gyd-ddisgyblion rhag niwed pellach.

Fe wnaeth tri aelod o staff wnaeth roi tystiolaeth i'r gwrandawiad ddisgrifio gweithredoedd Mr Saunders ar 31 Ionawr 2019 fel rhai "dig", "allan o reolaeth" a "diangen".

Clywodd y gwrandawiad bod y disgybl blwyddyn 3 neu 4 - oedd yn cael ei adnabod fel Disgybl A - ar gofrestr o blant oedd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn y broses o gael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD).

Ar y diwrnod dan sylw roedd y bachgen wedi cael trafferth setlo yn y dosbarth ar ôl cinio, ac er iddo gael ei gymryd i ardal arall o'r ysgol i geisio ei dawelu, roedd wedi dychwelyd i'r dosbarth gan barhau i weiddi a chrwydro.

Dywedodd cynorthwyydd dysgu, Helen Manning wrth y gwrandawiad bod y bachgen wedi mynd i guddio yn y coridor, ac iddi glywed Mr Saunders yn gweiddi arno - gweithred oedd ddim o gymorth, meddai hi, gan y byddai'n cynhyrfu'r plentyn ymhellach.

Fe ddywedodd cyn-athro, Peter de Snyder, oedd yn ddirprwy bennaeth dros-dro yn yr ysgol am ddwy flynedd, iddo glywed gweiddi yn y coridor, ac fe ddisgrifiodd y ddau aelod o staff sut y gwnaeth Mr Saunders geisio cydio yn llawes y bachgen a chydio ynddo gerfydd ei ysgwyddau neu freichiau, cyn i Ddisgybl A ddisgyn i'r llawr.

Fe ddisgrifion nhw hefyd yr hyn roedden nhw'n ei gredu oedd yn ymgais gan Mr Saunders i atal Disgybl A yn gorfforol, gyda gweithred yr oedd athrawon yn cael eu hyfforddi i'w chyflawni dim ond mewn achosion eithriadol os oedd disgybl yn debygol o beryglu eu hunain neu eraill.

'Colli popeth'

Mewn llythyr gafodd ei ddarllen i'r gwrandawiad, fe ddywedodd Mr Saunders ei fod yn edifarhau ei weithredoedd, a'i fod wedi "colli popeth bron mewn un digwyddiad".

Fe ddywedodd ei fod eisoes wedi colli ei swydd fel pennaeth, ac unrhyw fodd o ennill bywoliaeth yn y byd addysg.

Clywodd y gwrandawiad bod Mr Saunders, cyn Ionawr 2019 wedi cael sawl cyfnod i ffwrdd o'r ysgol, a bod y mater hwn wedi digwydd yn fuan wedi iddo ddychwelyd i'r ysgol.

Fe ddywedodd Mr Saunders, o edrych yn ôl, ei fod wedi dychwelyd i'r ysgol yn rhy fuan. Dywedodd ei fod yn "caru dysgu", ac roedd yn gwadu ceisio atal y disgybl yn gorfforol.

Penderfynodd y pwyllgor bod Mr Saunders wedi torri cod ymddygiad proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, a pholisïau'r ysgol.

Maen nhw wedi cyflwyno gorchymyn sy'n ei wahardd rhag bod ar y gofrestr o athrawon. Chaiff o ddim gwneud cais i ail-ymuno â'r gofrestr am o leiaf ddwy flynedd

Pynciau cysylltiedig