Dicter teulu o'r Barri am eu merch mewn carchar yn Kuwait

  • Cyhoeddwyd
Sara AssayedFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Assayed dal heb ei rhyddhau er iddi ennill ei hapêl

Mae teulu menyw o Fro Morgannwg sydd mewn carchar yn Kuwait er ei bod wedi ennill apêl yn erbyn ei dedfryd wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymyrryd yn ei hachos.

Cafodd Sara Assayed, 35 oed, ei charcharu am 10 mlynedd ym Mawrth 2019 ar ôl i'r heddlu ddweud iddynt ddod o hyd i gyffuriau yn ei char.

Roedd Ms Assayed yn athrawes gynradd ac wedi byw yn y wlad ers yn 17 oed.

Ym mis Mehefin eleni fe apeliodd yn llwyddiannus yn erbyn y cyhuddiad - ond mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod yn rhoi cymorth i berson o Brydain. Mae Llywodraeth Kuwait wedi cael cais am sylw.

'Effaith ofnadwy'

Dywedodd ei rhieni, Helen a Ziad sy'n byw yn Y Barri, fod yr awdurdodau wedi dweud mai eu bwriad yw ei hestraddodi, ond ei bod yn parhau yn y carchar.

Dywedodd ei mam fod y sefyllfa yn un torcalonnus a'i fod yn cael effaith ofnadwy ar iechyd meddwl ei merch.

"Mae hi'n poeni ac mae hi'n llefain ar ffôn", meddai.

Mae dros 300 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar Lywodraeth y DU i ymyrryd.

Mae Ms Assayed wedi mynnu ei bod yn ddieuog erioed, a dywed ei rhieni na chafodd yr hawl i siarad yn ystod yr achos llys gwreiddiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ei rhieni Ziad Assayed a Helen Conibear am iddi gael ei rhyddhau mor fuan â phosib

Dywed ei rheini eu bod yn siomedig gydag ymateb llysgenhadaeth Prydain yn Kuwait a hefyd y Swyddfa Dramor.

Maen nhw'n dweud eu bod eisoes wedi gwario £20,000 wrth dalu costau cyfreithiol

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn helpu person o Brydain sydd yn y ddalfa yn Kuwait, ac rydym mewn cysylltiad gyda'i theulu a'r awdurdodau lleol."

Mae tad Sara, Ziad, yn beiriannydd sy'n enedigol o Iorddonen a dreuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn y dwyrain canol.

Pan symudodd y teulu i Kuwait yn 2002 fe wnaeth Sara benderfynu parhau â'i haddysg a'i gyrfa yn y wlad honno, gyda'u rheini yn dychwelyd i'r Barri.

"Mae hi'n galw pan ma' hi'n gallu. Mae'n dorcalonnus," meddai Helen.

Mae Ziad wedi ymweld â Sara yn y carchar. Dywedodd ei fod yn bryderus am gyflwr y carchar, gan ddweud ei fod yn orlawn a bod y safonau yn annynol.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Sara Assayed fod eu merch yn anobeithio yn y carchar

"Rydym yn aros iddi gael ei hestraddodi. Mae'r gyfraith yn Kuwait yn dweud bod yn rhaid i unrhyw un sy'n rhan o achos llys, yn euog neu beidio, gael eu hestraddodi," meddai Ziad.

"Ers 15 Mehefin tan heddiw, mae hi dal yn y carchar.

"Rydym just eisiau iddynt gyflymu'r broses o'u hestraddodi.

"Y teimlad gwaethaf yw teimlad o fethu gwneud dim," meddai.

"Mae hi angen ein help a gallwn ni ddim eu helpu.

"Mae hi yno am y rhesymau anghywir. Mae'n anghyfiawn iddi fod mewn carchar pan ei bod yn ddieuog.

"Rydym ond angen gwybod y dyddiadau er mwyn iddi hi gael gobaith. Does ganddi ddim gobaith.

"Dwi ddim eisiau bod hi yna r'un diwrnod arall."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Kuwait am sylw ar yr achos.