Nation.Cymru: Twf yn arwain at ragor o dwf

  • Cyhoeddwyd
Ifan Morgan JonesFfynhonnell y llun, Ifan Morgan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Morgan Jones

Yn 2017 fe lansiodd Dr Ifan Morgan Jones, arweinydd y cwrs newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor, wefan newyddion Nation.Cymru. Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi tyfu gan ddenu cynulleidfa o tua miliwn o ddarllenwyr y mis.

Yma mae Dr Jones yn esbonio pam mae'n credu fod Nation.Cymru mor bwysig i ddemocratiaeth yng Nghymru.

line

Dros y ddeufis diwethaf mae gwefan newyddion Nation.Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn bedair oed ac wedi denu dros 1,000 o gefnogwyr ariannol am y tro cyntaf.

Teg dweud bod y wefan wedi llwyddo y tu hwnt i'm disgwyl i pan lansiodd yn 2017. Ond rwy'n credu bod y llwyddiant hwnnw'n bennaf seiliedig ar yr egwyddorion a oedd yn sail i'r wefan pan y'i dechreuwyd, sef y byddai yn wasanaeth newyddion a oedd yn genedlaethol, yn annibynnol o unrhyw gwmni arall, a ddim-er-elw.

Democratiaeth

Ar y pryd doedd dim gwasanaeth newyddion cenedlaethol ar gael yn y Saesneg. Fy nghred i oedd bod hynny'n cael effaith andwyol ar ddemocratiaeth y genedl. Roedd gyda ni sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol - senedd a llywodraeth - ond yn y Saesneg roedd y gwasanaethau newyddion naill ai'n Brydeinig neu'n lleol.

O ganlyniad doedd ddim yr un fath o sgwrs genedlaethol yn mynd rhagddo yn y Saesneg o'i gymharu â'r Gymraeg, lle mae traddodiad yn mynd yn ôl dros 200 mlynedd o wasanaethau newyddion cenedlaethol, ac mae gyda ni heddiw BBC Cymru Fyw, Golwg360, Barn, O'r Pedwar Gwynt ac yn y blaen.

Doedd dim rhaid disgwyl i gwmni mawr gyda'i bencadlys yn Llundain neu dramor achub y dydd.
Ifan Morgan Jones

Yn y bôn rwy'n credu mai etholiad Seneddol a phleidlais Brexit 2016 oedd y sbardun ar gyfer dechrau'r wefan, a'r teimlad cyffredinol ar y pryd nad oedd gan Gymru ei sgwrs genedlaethol ei hun ar wahân i weddill y DU.

'Oes aur'

Ond er mai penderfyniad digon ffwrdd-â-hi oedd lansio roedd y strategaeth busnes a golygyddol yn ffrwyth blynyddoedd o ymchwil, nid yn unig wrth gynnal gwasanaeth Golwg360 yn flaenorol ond hefyd wrth astudio'r diwydiant newyddiaduraeth gyfoes yng Nghymru ac 'oes aur' y wasg Gymraeg cenedlaethol yn yr 19eg o safbwynt academaidd hefyd.

Ar sail yr ymchwil hwnnw, penderfynais y byddai Nation.Cymru yn wasanaeth newyddion annibynnol a ddim-er-elw. Fe fyddai hynny yn sicrhau y byddai'r wefan yn rhydd i gynrychioli buddion pobol Cymru heb unrhyw ddylanwad masnachol allanol nag ymyrraeth gan berchnogion.

Seiliau cadarn

Fe fyddai'r egwyddor ddim-er-elw yn sicrhau bod y wefan yn sefyll ar seiliau ariannol cadarnach ac yn tyfu'n gynt, oherwydd fe fyddai pob ceiniog a godwyd yn mynd yn syth yn ôl i mewn i'r gwasanaeth yn hytrach na bod cyfran o'r elw yn mynd i berchennog neu gyfranddalwyr.

Ond er bod gen i syniad eithaf da beth oeddwn i'n anelu i'w wneud, ac yn credu yn gryf nad oedd dim rhwystr gwirioneddol i lwyddiant gwasanaeth newyddion o'r fath, rhaid cyfaddef fod cyflymder twf a datblygiad y wefan wedi fy synnu braidd. Pam ein bod ni wedi gweld y fath dwf cyflym?

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Nation.Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Nation.Cymru

Wel, mae wedi bod yn bedair blynedd hynod o ansefydlog yn wleidyddol, gan sicrhau fod digon i adrodd arno! Dw i'n meddwl hefyd mai un o'r ychydig bethau da sydd wedi dod allan o'r pandemig Covid-19 yw bod rhagor o bwyslais wedi bod ar faterion cyfoes yng Nghymru. Dw i'n credu bod gwasanaethau newyddion ar draws y genedl wedi gweld twf yn eu cynulleidfaoedd. Roedd amseru lansio'r wefan yn ffafriol iawn yn hynny o beth.

Twf

Ond roedd y ffaith fod y busnes ddim-er-elw hefyd yn hollbwysig. Oherwydd ein bod ni'n gwmni ddim-er-elw mae unrhyw dwf yn cael ei fuddsoddi'n syth yn ôl i mewn i'r cwmni, sy'n arwain at ragor o dwf.

Cyn gynted ag y cyrhaeddon ni'r pwynt lle'r oedd modd cyflogi golygydd llawn amser ar y wefan - yn hytrach na fy mod i yn ei golygu yn fy amser sbâr - tyfodd y wefan yn llawer cyflymach.

Roedd rhagor o gynnwys, ac fe arweiniodd hynny at dwf mawr mewn darllenwyr, ac wrth i ragor o ddarllenwyr gyrraedd gwelwyd twf yn yr hysbysebion a'r cefnogwyr ariannol. O fewn y mis diwethaf rydan ni wedi ychwanegu ail aelod o staff newyddiadurol llawn amser felly mae'r ddarpariaeth wedi ehangu eto, a bydd yn parhau i ehangu wrth i'r patrwm ailadrodd!

Rwy'n credu fod llwyddiant Nation.Cymru hyd yma wedi dangos nad oes unrhyw rwystr gwirioneddol i Gymru, a ni'r Cymry, feddu ar eu cyfryngau cenedlaethol ein hunain.

Gobaith

Doedd dim rhaid disgwyl i gwmni mawr gyda'i bencadlys yn Llundain neu dramor achub y dydd. Yn oes y rhyngrwyd, os oes ychydig gannoedd neu filoedd o bobol yn fodlon rhoi ychydig bach iawn yn unigol, gallant gyda'i gilydd gyfrannu mwy na digon i gadw gwasanaeth newyddion i fynd. Ac rwy'n gwybod bod degau o filoedd o bobol felly yng Nghymru - does dim ond angen i ni eu cyrraedd nhw!

Y gobaith ar gyfer y dyfodol yw parhau i ehangu. Gydag ychydig filoedd eto o gefnogwyr misol fe fyddai gan Gymru wasanaeth newyddion cenedlaethol hynod o ffyniannus.

Does dim i'n hatal ni rhag cael ein cyfryngau annibynnol, cenedlaethol ein hunain, ond ein parodrwydd ni, y Cymry, i roi ychydig bunnoedd bob mis tua'r achos.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig