AS yn ôl yn Nhŷ'r Cyffredin er galwad i 'gadw draw'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Delyn, a gafodd ei wahardd am aflonyddu rhywiol, wedi dychwelyd i San Steffan er gwaethaf galwadau arno i gadw draw.
Cafodd Rob Roberts ei atal o Dŷ'r Cyffredin ym mis Mai am chwe wythnos wedi i banel annibynnol ganfod ei fod wedi torri'r cod ymddygiad gan aflonyddu aelod o'i staff.
Daeth ei waharddiad i ben ar 8 Gorffennaf, ond mae sawl aelod o'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur wedi dweud wrtho i gadw draw o Dŷ'r Cyffredin.
Nid yw'r Aelod Seneddol wedi ymateb i gais BBC Cymru am sylw.
Aelodaeth yn 'destun adolygiad'
Mae Mr Roberts wedi colli'r chwip Geidwadol, felly mae'n dychwelyd fel AS annibynnol, ond mae'n parhau'n aelod o'r Blaid Geidwadol.
Yn ôl y blaid, mae hyn yn "destun adolygiad".
Mae Mr Roberts hefyd yn dal i rannu swyddfa gyda'r Aelod o Senedd Cymru, Mark Isherwood.
Dywedodd y blaid mai "trefniant cytundebol" ydy'r rheswm, ac nad yw Mr Isherwood yn esgusodi ymddygiad Mr Roberts.
Siaradodd Mr Roberts yn Nhŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf ers ei waharddiad ddydd Mercher wrth drafod Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dywedodd yr AS Llafur, Thangam Debbonaire, ei bod yn pryderu am ei ddychweliad gan mai "un o arwyddion gorau risg y dyfodol yw ymddygiad yn y gorffennol".
Gofynnodd wrth Ddirprwy Lefarydd y Tŷ os oes cynllun rheoli risg mewn lle, ac a oes yna ganllawiau wedi'u darparu ar gyfer staff er mwyn lleddfu pryderon.
Dywedodd y dirprwy lefarydd er nad oedd yn "briodol" rhoi sylwadau ar achosion unigol, "nid oes gan y cadeirydd awdurdod i atal aelod rhag mynychu'r ystâd".
'Ddim yn helpu ei hun'
Dywedodd ffynhonnell o fewn y Blaid Geidwadol nad yw Mr Roberts yn "helpu ei hun" drwy fod yn San Steffan gydag ond wythnos o'r tymor ar ôl.
Ychwanegodd y dylid Mr Roberts ddangos "ychydig o edifeirwch a sensitifrwydd".
Gan mai panel annibynnol wnaeth wahardd Mr Roberts, ni wnaeth olygu dechrau deiseb ad-alw, fel byddai wedi digwydd petai pwyllgor seneddol wedi ei wahardd.
Mae gweinidogion llywodraeth ac ASau trawsbleidiol wedi galw ar Mr Roberts i ymddiswyddo yn y gorffennol.
Ni wnaeth Mr Roberts ymateb i gais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021