BBC a Cymru Greadigol yn lansio partneriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC a Cymru Greadigol wedi lansio partneriaeth sy'n "anelu i roi'r diwydiant teledu yng Nghymru ar y llwyfan byd-eang".
Gwnaed y cyhoeddiad ddydd Mercher gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS.
Wrth siarad yng nghanolfan ddarlledu'r BBC yn Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol bod y fenter - sy'n anelu i hybu'r diwydiant teledu yng Nghymru drwy gefnogi "drama o'r radd flaenaf, comedi arloesol a chynnwys ffeithiol gwych" - yn ddechrau partneriaeth hirdymor gyffrous rhwng y BBC a Cymru Greadigol.
Mae'r cytundeb ffurfiol yn caniatáu i'r ddau sefydliad gydweithio i "adeiladu ar lwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru a'r partneriaethau cyfredol a sefydlwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf," yn ôl datganiad i'r wasg.
Mae'n cynnwys 'The Pact', y gyfres boblogaidd ddiweddar gyda'r actorion Julie Hesmondhalgh, Laura Fraser a Rakie Ayola ddarlledwyd ar BBC One ym mis Mehefin, a dderbyniodd gefnogaeth ariannol gan Cymru Greadigol.
Cyhoeddodd Tim Davie hefyd gyd-gomisiwn newydd ar gyfer BBC Three a BBC Cymru - cyfres o'r enw 'Hot Cakes' sy'n deillio o bartneriaeth a lansiwyd ym mis Tachwedd 2020 ar y cyd â Cymru Greadigol.
Mae'r gyfres yn dilyn tîm ifanc tu ôl i un o boptai mwyaf ysbrydoledig y DU - sydd yng Nghaerdydd - a'n dilyn bywydau'r entrepreneuriaid sy'n pobi yna.
Dywedodd Mr Davie: "Mae'n holl bwysig fod y BBC yn adlewyrchu'r cenhedloedd mae'n ei gwasanaethu. Yn gynharach eleni fe nodais yn glir fod hwn yn flaenoriaeth allweddol i'r BBC a bydd gweithio gyda phartneriaid fel Cymru Greadigol yn ein cynorthwyo i wireddu'r uchelgais honno.
"Mae Cymru yn ganolbwynt i egni creadigol. Rwyf am weld hynny'n ffynnu a thyfu. Mae'r BBC am gefnogi drama gorau'r byd, comedi blaengar a chynnwys ffeithiol o'r radd flaenaf. Mae heddiw'n nodi dechrau partneriaeth gyffrous, hir-dymor rhwng y BBC a Chymru Greadigol."
'Cyfle gwych i ddarganfod... talent Cymreig newydd'
Yn ôl y datganiad i'r wasg, mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sydd wedi cael ei lofnodi gan y BBC a Cymru Greadigol yn amlinellu sut bydd y ddau sefydliad yn "adeiladu ar y gefnogaeth a'r hyfforddiant sy'n bodoli'n barod ar gyfer y diwydiant."
Yn ogystal, mae hefyd yn amlinellu "sut y byddant yn cydweithio yn ystod y tair blynedd nesaf gyda'r bwriad o sefydlu partneriaeth weithio hirdymor sy'n canolbwyntio ar adeiladu sector teledu cynaliadwy yng Nghymru."
Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn nodi ein gweledigaeth gyffredin i gefnogi sector diwydiannau creadigol yng Nghymru sy'n llewyrchus, yn amrywiol ac o safon fyd-eang ac sy'n rhagori ar gynhyrchu amrywiaeth eang o gynnwys.
"Rwy'n falch iawn ein bod hefyd yn gallu cefnogi'r cyd-gomisiwn newydd ac yn edrych ymlaen at weld y gyfres newydd. Mae'r bartneriaeth hon felly'n gyfle gwych i ddarganfod a chael mynediad at dalent Cymreig newydd o bob cwr o Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021