Menyw yn benderfynol o deithio i'r Swistir i farw

  • Cyhoeddwyd
Sharon JohnstonFfynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgynnodd Sharon Johnston i lawr y grisiau yn ei chartref dair blynedd yn ôl

Dywed menyw o Aberystwyth, sydd wedi cael gwybod na fydd hi'n cerdded fyth eto, ei bod hi'n benderfynol o deithio i'r Swistir i ddod â'i bywyd i ben.

Daw wrth i aelodau Tŷ'r Arglwyddi baratoi i drafod y mesur Cymorth i Farw.

Mae Sharon Johnston, 59 oed, wedi'i pharlysu ar ôl iddi syrthio i lawr y grisiau yn ei chartref dair blynedd yn ôl.

"Fe benderfynais i fynd lan llofft i olchi a newid i fy mhyjamas," meddai.

"Mae'n rhaid mod i wedi troi i fynd lawr y grisiau, ond fe fagles i a chwympo wysg fy mhen gan daro gwaelod y grisiau. A dyna fe - doeddwn i ddim yn gallu symud."

Dywed nad yw hi eisiau parhau i fyw'r bywyd sydd ganddi bellach, ac mae am ddod o hyd i ffordd i deithio i'r Swistir i ofyn i ddoctoriaid i'w cynorthwyo i farw.

Ond mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu newid y ddeddf yn poeni bydd rhai cleifion yn dod o dan bwysau i ganiatáu i'w bywydau ddod i ben.

'Ddim yn ffordd braf o fyw'

Mae stori Sharon yn un sy'n cael sylw yn rhaglen BBC Wales Investigates, sy'n trafod y cynlluniau i newid y ddeddf yng Nghymru a Lloegr.

Ar ôl treulio dwy flynedd yn cael triniaeth mewn unedau arbenigol, fe ddywedodd doctoriaid wrthi na fyddai hi fyth yn cerdded eto.

"Tasech chi yn fy sefyllfa i, os nad ydych chi wedi profi'r boen, wedi colli urddas - yn ddeublyg anghynnwys (doubly incontinent), dwi ddim yn gallu defnyddio fy nwylo, ddim yn gallu defnyddio fy nghoesau. Dyw e ddim yn ffordd braf i fyw."

Mae hi bellach yn byw mewn fflat sydd wedi'i addasu'n arbennig iddi, ac mae'n dweud nad yw hi'n teimlo'n isel, ac yn llawn canmoliaeth i'w gofalwyr.

"Dwi'n mynd mas i'r dre a dwi'n gallu mynd o le i le. Dwi ddim yn gaeth i fy ngwely o gwbl."

Ond mae hi'n dweud mai ei bwriad yn y pen draw yw i gael cymorth i farw - sy'n anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Sharon Johnston
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon yn gwybod na fyddai'r mesur yn berthnasol iddi hi, hyd yn oed pe bai'n dod yn ddeddf

Mae Sharon wedi ymuno â nifer o grwpiau sy'n ymgyrchu dros yr hawl i farw, ac mae'n bwriadu talu rhyw £14,000 i deithio i'r Swistir lle mae doctoriaid yn gallu rhoi cymorth i rai cleifion i farw.

Ond gall hi ddim teithio yno o'i chartref yng Ngheredigion ar ei phen ei hun, ac mae'n gwybod y gallai unrhyw un sy'n ei chynorthwyo i fynd i'r Swistir gael eu harestio a'u herlyn am roi cymorth iddi farw.

Ar 22 Hydref fe fydd y Mesur Cymorth i Farw yn cael ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Disgrifiad,

Mae rhai yn cefnogi hawl pobl i benderfynu pryd i ddod a'u bywyd i ben

O dan amodau'r mesur, dim ond cleifion sydd â salwch terfynol, sydd â gallu meddyliol llawn, ac sydd ddim yn debygol o fyw mwy na chwe mis fyddai'n gymwys i wneud cais i gael cymorth i farw.

Byddai'n rhaid i ddau ddoctor annibynnol a barnwr Uchel Lys ddyfarnu bod y claf wedi penderfynu gwneud hyn o'i gwirfodd, ac yna fyddai modd iddyn nhw gael meddyginiaeth marwol - ac fe fyddai'n rhaid iddyn nhw gymryd y meddyginiaeth eu hunain.

Mae 'na wrthwynebiad chwyrn i'r ddeddfwriaeth, ac mae pob ymgais blaenorol i gyflwyno deddfau tebyg wedi methu.

Y farn yn erbyn

Mae Nikki Kenward, sy'n byw ar y ffin rhwng Sir Amwythig a Chymru, yn ymgyrchydd yn erbyn rhoi cymorth i farw.

Cafodd ei pharlysu 30 mlynedd yn ôl gan syndrom Guillain-Barré - cyflwr sy'n effeithio ar y nerfau.

Fe gafodd driniaeth yn yr ysbyty, ond fe waethygodd ei chyflwr yn gyflym. Roedd ei mab yn flwydd oed ar y pryd.

"O fewn diwrnod roedd fy nghorff cyfan wedi stopio symud popeth. Dim ond fy llygaid dde oedd yn gweithio felly doeddwn i ddim yn gallu anadlu."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Nikki Kenward: Byddai gwneud yr hawl i farw'n gyfreithlon yn 'rhy beryglus'

Bu'n rhaid iddi gael triniaeth traceotomi i ddefnyddio peiriant i anadlu am bedwar mis a hanner.

"Roeddwn i'n bendant yn teimlo dwi eisiau bod yn fyw o hyd, mae'n rhaid i fi fod yma i fy mab a fy ngŵr.

"Doeddwn i ddim eisiau marw ac eto tasech chi wedi gofyn i fi cyn iddo ddigwydd, bydden i wedi dweud - tase rhywbeth fel yna'n digwydd i fi, dwi ddim eisiau byw."

Mae hi'n ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl ac yn erbyn rhoi cymorth i farw. Dyw hi ddim yn credu dylai doctoriaid gael yr hawl i helpu cleifion sy'n derfynol sâl i farw.

"Nid dim ond amdanat ti mae hwn," meddai. "Fe all agor y drws i bobl eraill sy'n cael eu hystyried yn llai teilwng. Mae'n rhy beryglus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Farwnes Finlay yn dweud nad ydi'r mesur yn cynnig digon o gefnogaeth i bobl a allai gael eu hannog i farw

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA bellach wedi symud i fod yn niwtral ynglŷn â'r mater.

Ond mae'r Farwnes Ilora Finlay o Landaf, sy'n athro mewn Meddygaeth Liniarol, wedi dweud y bydd hi'n pleidleisio yn erbyn y mesur.

"Dydw i ddim yn gweld unrhyw beth yn y mesur fyddai'n atal doctor drwg, fyddai'n ddigon hapus i gael gwared ar glaf rhywfaint yn gynnar.

"Dydw i ddim yn gweld unrhyw beth yn y mesur i sicrhau bod asesiadau'n cael eu gwneud yn iawn.

"Dydw i ddim yn gweld unrhyw beth fyddai'n atal rhywun rhag cael eu gorfodi y tu ôl i ddrysau caeedig i gymryd rhan."

BBC Wales Investigates, When would you want to die? ymlaen ddydd Mercher, 20 Hydref am 19:30 ar BBC One Wales ac yna ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig