'Fe gafodd fy niod ei sbeicio a doedd dim help ar gael'
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon bod sbeicio diodydd ar gynnydd a dywed rhai sydd wedi cael profiad ohono nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif.
Wythnos nesaf bydd ymgyrch yng Nghaerdydd a dinasoedd eraill yn Lloegr a'r Alban yn annog pobl i foicotio clybiau er mwyn creu gwell ymwybyddiaeth.
Dywed Sophie (nid ei henw iawn) - trefnydd 'Girls Night In' yng Nghaerdydd bod ei thudalen Instagram yn cael negeseuon dyddiol gan bobl sydd wedi cael profiad o ddiodydd yn cael eu sbeicio a bod llawer iawn o gefnogaeth i'r ymgyrch.
Roedd Robyn, 26 o Sir Gaerffili, allan yn ei thafarn leol pan gafodd ei diod ei sbeicio.
Mae'n dweud na chafodd fawr o gymorth gan yr heddlu a'u bod yn amau a oedd hi'n ei llawn bwyll wrth adrodd ei stori.
'Neb yn fy nghymryd o ddifrif'
"Doedd neb yn fy nghymryd o ddifrif wedi i mi sôn am yr hyn oedd wedi digwydd - ond fe aeth popeth yn dywyll wedi i mi ond cael ychydig o ddiodydd," meddai.
"Dwi'm yn cofio fy nyweddi yn mynd â fi adref ac fe ges wybod trannoeth fy mod yn llanast llwyr a fy mod yn chwydu ac yn cwympo ar y llawr.
"Roeddwn i'n gwybod fy mod wedi cael fy sbeicio," meddai, gan ychwanegu ei bod yn awyddus i gael prawf i ddangos hynny ond wedi iddi ffonio 101, 111 a mynd i'r adran frys cafodd wybod nad oedd hi'n bosib cael unrhyw brawf.
Dywed Heddlu Gwent bod eu swyddogion wedi eu hymrwymo i ddarparu y gwasanaeth gorau posib i unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â nhw.
Fe wnaeth Robyn gysylltu eto gyda'r heddlu gan ddweud ei bod wedi cael "ei thrin fel troseddwr".
Mae modd cael prawf i weld os oes olion cyffur yn system person ond rhaid iddo gael ei gynnal rhwng 12-72 awr.
Dywed Robyn nad oes unrhyw brosesau i ganiatáu prawf ac y byddai'n annhebygol o adrodd am ei phrofiad petai'n digwydd eto gan nad yw sbeicio yn cael ei gymryd yn ddigon difrifol.
Ychwanegodd: "Fe ddigwyddodd mewn lle doeddwn i ddim yn disgwyl iddo ddigwydd ac mae hynna'n codi ofn.
"Dwi'n poeni am ferched sy'n gorfod mynd trwy'r un profiad.
"Mae e ond yn cael ei gymryd o ddifrif os oes rhywbeth gwaeth yn digwydd wedyn - ond mae sbeicio diodydd yn erbyn ewyllys pobl yn ofnadwy. Rhaid atal y peth rhag ofn i rywbeth gwaeth ddigwydd."
'Gallwn i fod wedi marw'
Dywed Sophie bod nifer fawr o bobl wedi adrodd eu straeon ar ei thudalen Instagram er mwyn codi ymwybyddiaeth.
"Mae rhai yn sôn am ffrindiau yn mynd â nhw adref, eraill yn sôn am gael eu chwistrellu gan nodwyddau a rhai yn dweud bod rhywun wedi ymosod yn rhywiol arnynt," meddai.
"Rhaid cael hyfforddiant mewn bariau fel bod pobl yn gwybod beth i chwilio amdano ac yna gwybod beth i wneud ac yn y cyfamser dylai profion fod ar gael mewn bariau."
Mae Katie Snaith, 20, ar ei hail flwyddyn yn astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd ei bod wedi bod yn ddifrifol sâl un noson wedi i'w diod gael ei sbeicio. Roedd hi hefyd wedi colli pob rheolaeth ar ei chorff.
Fe wnaeth hi sôn am ei phrofiad y diwrnod canlynol wrth yr heddlu ac Undeb y Myfyrwyr ond cafodd wybod na ellid gwneud unrhyw beth am y peth gan nad oedd hi wedi cael prawf.
Mae Katie ar dabledi gwrth-iselder ac mae'n dweud y gallai pobl ar rai meddyginiaethau farw petai eu diodydd yn cael eu sbeicio.
"Dwi wastad mor ofalus pan yn mynd allan ac felly dwi'n meddwl bod fy ffrindiau wedi cael sioc o weld fy ymddygiad," meddai.
"Nid fy mai i yw fy mod i ar feddyginiaeth ond dwi'n teimlo y dylwn fod wedi 'neud mwy i'w atal rhag digwydd.
"Mae'r holl beth yn codi ofn - hyd yn oed ymhlith cyd-fyfyrwyr chi ddim yn saff. Mae'n anodd teimlo'n saff yn unrhyw le."
Be ddylwn i wneud os yw fy ffrind wedi'i sbeicio?
Aros gan barhau i siarad;
Galw'r ambiwlans os yw'n gwaethygu;
Peidio â chaniatáu iddo/iddi fynd adre ar ei b/phen ei hun;
Atal rhag yfed mwy o alcohol gan y gall hyn waethygu problemau;
Mae prawf gwaed/wrin yn ystod y 24 i 72 cyntaf yn gallu olrhain olion cyffur.
'Gall ddigwydd i unrhyw un'
Fe wnaeth ffigyrau a dderbyniwyd gan y BBC yn 2019 ddangos bod achosion o sbeicio diodydd ar gynnydd gyda dros 2,600 wedi'u hadrodd yng Nghymru a Lloegr ers 2015.
Dywed Helena Conibear o'r Alcohol Education Trust, sy'n helpu pobl ifanc 11-25 oed i wneud dewisiadau diogel tra'n yfed alcohol, bod y nifer yn debygol o fod yn uwch gan nad yw llawer yn sôn am eu profiadau.
"Yn aml mae sbeicio diodydd yn digwydd mewn gwyliau neu bartïon tŷ a rhaid bod yn wyliadwrus o bobl ar wahân i ddieithriaid," meddai.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth 800 o bobl ymateb i arolwg gan yr elusen mewn cyfnod o bum diwrnod.
Dywedodd 91% nad oeddynt wedi sôn am eu profiad wrth yr heddlu am fod ganddyn nhw gywilydd ac yn ofni na fyddai unrhyw un yn eu credu.
Ychwanegodd Ms Conibear y gall ddigwydd i unrhyw un ac y dylid sôn amdano cyn gynted â phosib fel nad yw'n digwydd i eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021