Pàs Covid yn dod i rym ar gyfer digwyddiadau a chlybiau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Pasys Covid: "Problematig" neu "syniad eithriadol o dda"?

O ddydd Llun ymlaen bydd yn rhaid dangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau mawr neu glybiau yng Nghymru.

Fe bleidleisiodd Llywodraeth Cymru'r wythnos ddiwethaf i gyflwyno'r mesur newydd er mwyn ceisio lleihau ymlediad Covid-19.

Bydd yn rhaid cyflwyno un ai prawf eich bod wedi eich brechu'n llawn neu brawf negatif llif unffordd diweddar er mwyn bod yn gymwys i gael pàs.

Tra bod 'na groeso gofalus gan rai sectorau mae perchenogion clybiau nos yn dweud eu bod nhw'n teimlo fod y maes yn cael ei dargedu.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod 333,000 o basys Covid eisoes wedi eu lawrlwytho ond fe all y rhain gynnwys mwy nag un cais gan un person.

Mae modd i un rhywun dros 16 oed sydd wedi eu brechu'n llawn yng Nghymru gael pàs, meddai'r Llywodraeth.

Lle mae angen pàs?

Yn ôl Llywodraeth Cymru, os ydych yn bwriadu cyflwyno prawf negatif llif unffordd yna mi fyddwch yn gorfod ei awdurdodi eich hun.

Mae yna bryderon ynglŷn â phobl yn creu pasys ffug neu'n twyllo ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y bydd hynny'n drosedd.

Fe ddatgelodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddydd Gwener na fydd yn rhaid i ddigwyddiadau mawr wirio pob pàs - bydd modd eu gwirio ar hap.

Sut mae cael pàs?

Mae'r pàs Covid-19 GIG ar gael yn ddigidol lle fydd yn rhaid cofrestru ar gyfer cyfrif Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Bydd yn rhaid uwchlwytho llun ohonoch ac fe allai hyn fod yn basbort, trwydded yrru lawn DU neu drwydded yrru lawn Ewropeaidd.

Bydd hynny'n golygu wedyn bod modd lawrlwytho cod QR yn ddigidol ar eich ffôn neu ei argraffu ar bapur.

Does dim ap GIG yng Nghymru lle mae modd lawrlwytho pàs - dim ond yn Lloegr.

Disgrifiad,

Pàs Covid: Beth sy'n rhaid i chi wybod?

Nid Cymru yw'r unig wlad i gyflwyno pàs Covid. Fe gyflwynodd yr Arlywydd Macron pàs Covid yn Ffrainc ym mis Awst.

Mae'r pàs yno yn llawer fwy llym - mae'n rhaid ei ddefnyddio mewn llyfrgelloedd, caffis, bwytai, sinemâu a digwyddiadau mawr a chlybiau nos.

Mae hynny wedi arwain at o leiaf filiwn o bobl yn rhagor yn derbyn eu brechlyn medd adroddiadau o'r wasg yno.

Mae cynllun pasbort Covid Yr Alban mewn grym ers 1 Hydref.

Sut ymateb sydd wedi bod?

Fe ddangosodd pleidlais gwleidyddion ar lawr y siambr yr wythnos ddiwethaf pa mor rhanedig ydi'r polisi yma sydd wedi ei yrru gan y blaid lafur yng Nghymru.

Mae Prif Weithredwr Clwb nos Caerdydd, Clwb Ifor Bach, Guto Brychan, yn poeni fod y broses yn "fiwrocrataidd" ac yn targedu clybiau nos.

"Mae'r amseru yn broblematig," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r amseru'n broblematig," medd prif weithredwr Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd

"Dyma gyfnod prysura'r flwyddyn i lefydd fel 'Clwb', mae'r myfyrwyr newydd gyrraedd nôl a ti'n sôn am fyfyrwyr o tu allan i Gymru.

"Fydd rhai ddim yn ymwybodol fod angen y pàs felly mae 'na ddigon o waith i ni neud ar hyn o bryd o ran y rheoliadau ac mae hyn yn elfen arall o fiwrocratiaeth ar ben hynny."

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

Ond draw yn y gogledd mae clwb nos Academi yn teimlo'n wahanol. Yn rhan o Undeb Prifysgol Bangor fe benderfynodd y Clwb gyflwyno rheolau tebyg ar ddechrau'r tymor cyn bod rheidrwydd cyfreithiol.

Yn ôl Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Mabon Dafydd mae'r polisi "wedi bod yn gweithio".

"Mae diogelwch yn flaenoriaeth yma inni ym Mangor a dyna oedd pwrpas y polisi. Mae'n sicrhau fod myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel i ddod 'nôl i glybiau nos a bod nhw'n mwynhau.

"Mae o yn gweithio ac mae pobl yn barod i ddod gyda'u pas."

Mae Kirsty yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor ac mae hithau'n cytuno gyda'r newid.

"Mae'n neud imi deimlo yn fwy diogel yn sicr ac mae'n gam ymlaen i ni dderbyn bod ni'n byw mewn pandemig - 'di Covid ddim am fynd i nunlle.

"Mae'n bach o niwsans ond eto dwi ddim yn poeni achos bod o werth o."

'Angen cymorth gyda'r canllawiau'

Wrth i'r pàs ddod i rym, bydd Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei fod yn rhoi hyder i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos er mwyn osgoi rhagor o gyfyngiadau dros fisoedd y gaeaf.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Aeron Jones, rheolwr cyffredinol tafarn a chlwb nos yng Nghaernarfon nad yw'r canllawiau "mor eglur â hynny".

"'Da ni'm yn deall y cyfan, na, a 'da ni'n gorfod ailedrych ar y canllawiau.

"'Di'r canllawiau ddim mor eglur ag y mae pobl yn meddwl. Os 'da ni'n chwarae miwsig ar ôl hanner nos mae'r canllawiau'n cicio fewn, ond os 'da ni ddim yn chwarae miwsig 'da ni'n iawn."

Ychwanegodd fod y canllawiau newydd ar gyfer clybiau nos yn "ychwanegu at y baich".

"Mae o'n golygu ychwanegu staff, mae costau ni am fynd yn fwy, oherwydd bydd rhaid i ni gael rhywun 'ŵan i adolygu pan mae pobl yn dod mewn.

"Cymorth 'da ni angen hefo'r canllawiau newydd 'ma - 'da ni 'di bod ar gau am bron i flwyddyn hefo dim incwm yn dod i mewn... 'da ni angen cymorth gan y llywodraeth.