Cymru'n arwyddo cytundeb i atal trwyddedau olew a nwy
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi ymuno a grŵp rhyngwladol o wledydd sydd wedi addo i daclo newid hinsawdd drwy roi'r gorau i drwyddedu cynhyrchu olew a nwy.
Costa Rica a Denmarc sydd yn arwain y cynllun, ac mae 10 o lywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol wedi ymaelodi.
Dywedodd y dirprwy weinidog ar newid hinsawdd fod y cytundeb yn dangos fod Cymru "ar y blaen" wrth fynd i'r afael â chynhesu byd eang.
Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain sydd yn rhan o'r grŵp, gyda llywodraethau'r DU a'r Alban ymhlith y rheiny oedd ddim yn rhan o'r cyhoeddiad.
'Gwell na'r system bresennol'
Dan y Datganiad Tu Hwnt i Olew a Nwy, mae'r llywodraethau'n dweud y byddan nhw'n ceisio "cael gwared yn raddol" ar eu defnydd o'r tanwyddau ffosil.
Mae'r aelodau eraill yn cynnwys Ffrainc, Yr Ynys Las (Greenland), Iwerddon, Quebec, California a Seland Newydd.
Fe fyddan nhw hefyd wedyn yn cymryd camau gan gynnwys ymrwymo i beidio â chytuno i drwyddedau a phrydlesau newydd.
Maen nhw hefyd wedi addo i roi'r gorau i gynhyrchu olew a nwy yn unol â'r targedau yng Nghytundeb Paris sy'n anelu i gadw cynnydd yn nhymheredd y blaned i lai na 2 gradd Selsiws.
Cafodd grymoedd dros drwyddedau i echdynnu olew a nwy eu datganoli i Gymru yn 2018, ond y gred yw mai ychydig iawn o'r adnoddau hynny sydd oddi ar arfordir Cymru mewn gwirionedd.
Ond dywedodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd, Lee Waters nad oedd "unrhyw drwyddedau newydd wedi eu rhoi, ac mae nifer o drwyddedau eraill wedi eu hildio neu ddiddymu".
Mae gan Gymru hanes hirach o echdynnu glo yn hytrach nag olew a nwy, ond mewn blynyddoedd diweddar mae cwmnïau wedi dangos diddordeb mewn echdynnu nwy siâl drwy broses ffracio.
Mae Sir Benfro hefyd yn un o'r porthladdoedd pwysicaf ym Mhrydain ar gyfer mewnforio olew, ac mae un o bwerdai nwy mwyaf Ewrop hefyd yno.
Cwmni RWE sy'n rhedeg hwnnw, ac maen nhw'n un o sawl cwmni sydd yn gobeithio datblygu ffermydd gwynt arnofiol oddi ar arfordir Cymru fel rhan o ymdrechion i symud tuag at opsiynau carbon isel yn y dyfodol.
Mae Stad y Goron, sy'n gyfrifol am wely'r môr ym Mhrydain, wedi dweud y byddan nhw'n helpu i ddatblygu ffermydd gwynt o'r fath yn y Môr Celtaidd allai bweru pedair miliwn o dai erbyn 2035.
"Rydyn ni'n falch iawn o ymuno â'r gynghrair newydd yma heddiw, sy'n dangos fod Cymru ar flaen y gad wrth daclo heriau byd eang newid hinsawdd," meddai Mr Waters.
Ychwanegodd y byddai profiadau'n cael eu rhannu gyda gwledydd eraill, gyda'r bwriad o leihau'r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil yn y dyfodol.
"Ein gweledigaeth ni yw cael system ynni ddi-garbon fydd yn darparu buddion economaidd a chymdeithasol ehangach i Gymru na'r system sydd gennym ni heddiw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021