Dyn ag 'obsesiwn Covid' yn euog o anfon pecyn amheus i ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ag "obsesiwn" â Covid-19 wedi'i gael yn euog o drosedd wedi iddo anfon pecyn amheus i ffatri frechlyn yn Wrecsam.
Cafwyd Anthony Collins yn euog o anfon eitem yn y post gyda'r bwriad o wneud i bobl feddwl ei fod yn debygol y byddai'r eitem yn ffrwydro neu'n tanio.
Anfonodd y dyn 54 oed o Chatham, Caint, y pecyn i'r ffatri yn Wrecsam ym mis Ionawr.
Bu'n rhaid stopio cynhyrchu brechlyn Rhydychen AstraZeneca yno am gyfnod a bu'n rhaid i 120 o bobl adael yr adeilad.
Roedd y pecyn yn cynnwys cyfrifiannell, maneg ardd, pedwar batri, "bar biohazard melyn", weip a swm o bapur, dywedwyd wrth y rheithgor.
Dim ond ar ôl i arbenigwyr gwaredu bomiau'r fyddin sefydlu cordon 100m a ffrwydro'r ddyfais y gallent fod yn sicr nad oedd yn cynnwys unrhyw ddeunydd ffrwydrol.
Parseli i Wuhan a Kim Jong-un
Roedd Wockhardt, cwmni fferyllol a biotechnoleg byd-eang, yn gyfrifol am gam olaf y broses o roi'r brechlyn AstraZeneca mewn ffiolau.
Clywodd Llys y Goron Maidstone fod Collins hefyd wedi anfon parseli tebyg i 10 Downing Street a labordy yn Wuhan yn China ac arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un.
Dywedodd yr erlynydd Alan Gardner: "Dywedodd Mr Collins wrth yr heddlu yn fyr mai ei fwriad wrth anfon y pecyn i Wockhardt oedd helpu gwyddonwyr a'r llywodraeth i ddelio â Covid-19.
"Dywed yr erlyniad ei bod yn ymddangos bod Mr Collins wedi datblygu, am ba bynnag reswm, rywfaint o obsesiwn â materion yn ymwneud â'r feirws Covid a'r brechlynnau cysylltiedig."
Bydd Collins yn cael ei ddedfrydu ar 24 Tachwedd. Mae ar fechnïaeth tan hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021