Adran Dau: Crawley Town 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Ar bapur Casnewydd, yr ymwelwyr, oedd y tîm cryfaf yn Crawley nos Fawrth - Casnewydd yn nesu at le ymhlith y timau ail gyfle a Crawley yn hanner isaf y tabl.
Hanner cyntaf digon digyffro a gafwyd ac ychydig iawn o gyfleoedd oedd i'r naill dim na'r llall.
Ond wedi deg munud o'r ail hanner cafodd Crawley gic gosb, ac o honno daeth croesiad i'r blwch cosbi o droed Jack Powell a chafodd Kwesi Appiah ei ben i'r bêl a rhwydo ac roedd Crawley ar y blaen.
Byddai yn ddwy i ddim oni bai am arbediad da gan Day a rwystrodd George Francomb rhag sgorio.
Ond dyfal donc oedd hi ar ran yr Alltudion a chydag 83 munud ar y cloc llwyddodd Oliver Cooper i groesi'r bêl o'r dde at draed Dominic Telford a chyfeiriodd hwnnw y bêl i mewn i'r rhwyd.
Gêm gyfartal felly i Gasnewydd er iddynt gael y meddiant am ran fwyaf o'r gêm.
Mae Casnewydd bellach yn nawfed yn y tabl.