'Amau dilysrwydd' neges apwyntiad brechu Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffôn symudolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau bod y negeseuon yn rhai go iawn

Mae pobl yng Nghaerdydd wedi dweud iddynt "amau dilysrwydd" eu hapwyntiad brechu ar ôl cael neges destun gan eu bwrdd iechyd.

Dywedodd sawl un eu bod yn ansicr os oedd y neges yn dwyll am iddo ddod o rif ffôn anhysbys, yn hytrach na rhif o dan enw'r gwasanaeth iechyd.

"Roedd llawer o fy ffrindiau wedi derbyn y neges ar union yr un pryd, a phawb wedi drysu," meddai un ddynes o Gaerdydd.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau bod y negeseuon yn rhai go iawn ac y dylai pobl fynychu'r apwyntiadau.

Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn cais am sylw.

Neges Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

'Teimlo'n answyddogol'

Fe wnaeth Annie Scourfield, 25, dderbyn y neges fore Llun.

Dywedodd iddi gyffroi ar gael cynnig brechlyn atgyfnerthu.

"Ond pan edrychais yn iawn ar y neges dechreuais amau ei dilysrwydd.

"Roedd yn od fy mod wedi derbyn neges fel hyn mewn ffordd oedd yn teimlo mor answyddogol."

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Freyja Elsy ❄

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Freyja Elsy ❄

Ychwanegodd un arall ei bod yn ansicr "achos doedd y rhif ddim yn edrych fel rhif GIG swyddogol, tra bod negeseuon blaenorol wedi dod o rif swyddogol".

"Ond gan nad oedd linc na chwestiynau am fanylion personol, doeddwn i ddim yn poeni'n ormodol," meddai Nia Fenn.

Roedd Carys Lewis, myfyrwraig o Fro Morgannwg, hefyd yn ansicr.

Dyn yn cael brechiad mewn canolfan frechu yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cynnig apwyntiad i bawb dros 18 oed erbyn diwedd y mis.

"Roeddwn i'n falch i dderbyn neges am y brechlyn atgyfnerthu, gan fy mod i mor awyddus i'w gael.

"Ond ar ôl trafod â ffrindiau roedd gen i bach o bryder. 'Dw i wastad ychydig yn nerfus yn derbyn tecst wrth rifau anhysbys.

Dywedodd Ms Lewis, 22, y dylai fod yn fwy clir mai negeseuon o'r bwrdd iechyd yw rhain.