'Bydd pobl yn marw yn gynt' oherwydd pwysau ar ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Teleri Evans ei bod wedi gweld maint y pwysau ar wasanaethau iechyd pan oedd ei rhieni'n sâl

"Dwi yn poeni am bobl eraill sy'n sâl, sydd â chanser, a sydd ddim yn cael y driniaeth sydd ishe arno nhw."

Wrth i'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gynyddu, mae menyw a gollodd ddau riant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn meddwl am gleifion eraill y gaeaf hwn.

Adeg yma'r llynedd, roedd Teleri Evans, yn wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn, yn poeni am iechyd ei mam.

Roedd ail don Covid-19 yn taro gorllewin Cymru, a'i mam yn colli profion gwaed ac apwyntiadau doctor.

Cafodd y sefyllfa effaith ar iechyd ei mam, ag hithau'n byw gyda diabetes.

Erbyn cyfnod y Nadolig, gyda'i chyflwr yn gwaethygu, cafodd ei chludo i Ysbyty Glangwili.

Yno, daeth Teleri i weld â'i llygaid ei hunan, pa mor ddifrifol oedd y pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

'Newyddion gwahanol bob dydd'

"Roedd hi yn yr ysbyty dros y Nadolig, a do'dd dim ffordd i ni gysylltu â hi," meddai wrth Newyddion S4C.

"Do'dd dim modd mynd i ymweld. Do'dd y cyfathrebu gyda'r nyrsys ddim yn dda, yn arbennig wrth drial mynd trwy switchboard yr ysbyty.

"Roedd ganddi enw cyffredin oedd gan ambell i glaf arall oedd yno ar yr un pryd. Felly ro' ni'n siarad â nyrsys am bobl eraill.

"Ro'n i'n cael newyddion gwahanol bob dydd ynglŷn â'i sefyllfa."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mynd i'r ysbyty fel "mynd i garchar" i'w rhieni meddai Teleri, gan nad oedd yn gallu ymweld

Mae sefyllfa anodd ganwaith yn waeth, meddai Teleri, pan nad oes modd ymweld neu gysylltu gyda rhywun.

Bu farw ei mam ychydig ddyddiau ar ôl ddydd Nadolig 2020.

"Mewn ffordd, gethon ni ddim dweud hwyl fawr. Do'dd dim ffordd o gysylltu dros y ffôn.

"Roedd e'n anodd iawn cael gafael ar aelod o staff yn y wards achos bod llai o staff dros y Nadolig a do'dd dim consultants achos eu bod nhw ar wyliau Nadolig."

Dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio, Profiad ac Ansawdd Cleifion gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Mandy Rayani: "Hoffwn yn gyntaf gyfleu ein cydymdeimladau dwysaf i Ms Teleri Evans a'i theulu am eu colled.

"Tra nad oes modd i ni drafod gofal a phrofiadau cleifion unigol drwy'r cyfryngau, hoffwn ymddiheuro'n ddiffuant am sefyllfaoedd lle mae pobl yn teimlo bod y gofal sy'n cael ei roi yn is na'n safonau uchel.

"Mae pandemig Covid-19 yn parhau i gael effaith ofnadwy ar ein gallu i gynnig gofal yn yr un ffordd ag o'r blaen ac mae'n staff yn gweithio o dan bwysau enbyd, yn arbennig wrth i ni ymdrechu eto i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn eu brechlynnau ychwanegol."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tad Teleri Evans ddim y driniaeth mor fuan â'r disgwyl oherwydd pwysau ar y system

Wedi colli ei mam, roedd Teleri a'i chwaer iau nawr yn wynebu'r realiti bod eu tad, oedd yn byw â chanser y prostad, yn ddifrifol wael.

Roedd ei iechyd yntau'n gwaethygu, a gofal canser yn ôl Teleri yn dioddef yn sgil y pandemig.

"Cafodd pob un o'i apwyntiadau eu canslo, a'u rhoi ar y ffôn. Do'dd e ddim yn cael yr amser gyda consultants i drafod ei driniaeth."

"Gath ei driniaeth ei ohirio tan fod hynny'n ddiogel o dan y canllawiau ar y pryd. Felly gath e'i ohirio gan o leiaf chwe mis.

"Ac o fewn y chwe mis yna, wrth edrych 'nôl, o'dd y canser wedi lledu a roedd e'n rhy hwyr erbyn bod e'n dechrau ar ei driniaeth ym mis Ionawr."

Mae pennaeth elusen ganser Macmillan yng Nghymru yn gyfarwydd iawn â straeon trist fel hyn.

Dywedodd Richard Pugh: "Yn anffodus dyw canser ddim yn dod yn gyntaf ar hyn o bryd, a phethau gydag Omicron yn rhoi problemau enfawr yn y system.

"Roedd y system yn dod 'nôl i edrych ar ôl pobl fel oedd e cyn Covid, ond ry' ni yn clywed bod 'na bobl allan yna sydd ddim yn cael y cymorth maen nhw eisiau.

"Ni eisiau dod at gyfnod nawr pan ni yn edrych ar ôl cleifion canser a'u teuluoedd nhw hefyd. Peidiwch anghofio am canser. Ond yn anffodus mae Covid yn gwneud hynny."

Ysbyty 'fel mynd i garchar'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni allwn wneud sylw ar achosion unigol ond rydym yn deall pa mor anodd fu'r pandemig i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid.

"Rydym yn cydnabod bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i gleifion, eu teuluoedd a gwasanaethau'r GIG.

"Mae canser a thriniaethau brys eraill wedi'u darparu drwy gydol y pandemig, ond mae darpariaeth arferol y GIG wedi cael ei heffeithio'n sylweddol.

"Mae byrddau iechyd wedi gorfod gweithredu cynlluniau i atal y feirws rhag lledaenu a chadw cleifion, eu teuluoedd a'u staff yn ddiogel ac mae hyn wedi ei gwneud hi'n anodd i deuluoedd weld eu hanwyliaid tra yn yr ysbyty."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Gydag amrywiolyn Omicron yn arwain at ragor o gyfyngiadau'r gaeaf hwn, a phryder am gynnydd yn nifer achosion o fewn ein cymunedau, mae Teleri nawr yn poeni am ddiogelwch cleifion eraill.

"Dwi yn poeni am bobl sydd â salwch cronig, neu sy'n byw gyda chanser. Na fyddan nhw'n cael y driniaeth angenrheidiol.

"Dwi'n gwybod bydd eu hapwyntiadau nhw fwy na thebyg yn cael eu gohirio er mwyn rhyddhau staff i helpu'r gwasanaeth gyda chleifion Covid.

"Neu'r staff sydd ddim ar gael gan eu bod nhw'n sâl. Maen nhw dan y don oherwydd pwysau'r 18 mis diwethaf.

"Dwi'n gwybod y bydd nifer o bobl sy'n dioddef o ganser, fwy na thebyg yn marw'n gynt achos bo' nhw heb gael y driniaeth oedd ishe arnyn nhw."

'Ffaelu galaru'n iawn'

Mae Teleri yn edrych yn ôl dros flwyddyn erchyll. Wedi colli ei rhieni, un o'r gwirioneddau anoddaf, meddai, oedd methu bod yno ar eu cyfer.

"Chi ffaelu galaru'n iawn. Mae'n anodd, a dwi'n gwybod y bydd lot o bobl eraill yn cael y profiad 'ma dros yr wythnosau nesa'.

"Pan bod aelod o'r teulu yn mynd mewn i'r ysbyty, mae fel mynd i garchar. Chi methu mynd i'w gweld nhw. Chi'n gallu mynd i'r drws gyda pharsel neu fag, a dyna ni."

"Chi'n lwcus gyda'r dechnoleg. Ro' ni'n 'neud FaceTime, galwadau ffôn, negeseuon, ond dyw hwnna ddim yn agos at ddal llaw eich tad wrth ymyl ei wely."