Bwyd a fyddai'n mynd i wastraff yn helpu 680 o bobl Powys
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect ym Mhowys sy'n dosbarthu bwydydd dros ben o archfarchnadoedd wedi helpu i fwydo o leiaf 680 o bobl mewn deufis.
Dechreuodd Prosiect Bwyd Dros Ben Y Drenewydd ddiwedd mis Hydref ac hyd at y Nadolig, roedd wedi arbed 8.5 tunnell o fwyd rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Nawr, mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y prosiect yn dweud eu bod yn gobeithio ehangu yn 2022 gyda chymorth grant gan y loteri.
Ym mis Rhagfyr clywodd y prosiect ei fod wedi'i gymeradwyo ar gyfer o £100,000 o gyllid a fydd yn ei alluogi i gyflogi staff.
Cafodd y prosiect ei ddechrau gan Vicky Rowe ar ôl iddi dreulio cyfnod yn gweithio ar gynllun tebyg yn Aberystwyth.
Dywedodd y bydd cyllid y loteri yn gwneud gwahaniaeth enfawr. "Mae'n cymryd llawer o oriau i redeg y math hwn o brosiect, felly mae angen rhai aelodau staff cyflogedig - trefnydd ar gyfer y gwirfoddolwyr a chogydd hefyd.
"Mae llawer o fwyd sy'n dod i mewn yn hwyr yn y nos yn agos at y dyddiad 'defnyddio erbyn' ac mae angen i ni ei goginio, a'i gael i mewn i'r rhewgelloedd," ychwanegodd.
"Ond bydd angen i ni [hefyd] ehangu i adeiladau mwy o faint. Mae yna oergell fawr ar gael ac ry'n ni am gael hwnnw ar waith. Bydd hynny'n newid y gêm i ni oherwydd gellir storio llawer o'r cynnyrch ffres yno."
Mae gan y prosiect drefniant gydag archfarchnadoedd yn Y Drenewydd a'r Trallwng, gyda gwirfoddolwyr yn mynd i'r siopau yn agos at yr amser cau i gasglu bwyd dros ben.
Mae'r prosiect yn didoli'r bwyd ac yn gwneud pecynnau i'w casglu ar ddydd Llun a dydd Gwener.
Yn ôl rheolwr y prosiect, Vicky Rowe, rheswm cychwynnol y fenter oedd lleihau gwastraff bwyd.
Ond, ers dechrau, mae'r tîm o wirfoddolwyr wedi gweld sut mae'r parseli bwyd yn ateb angen y gymuned.
Dywedodd: "Rhywbeth sydd wedi fy synnu'n fawr yw faint o bobl sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.
"Maen nhw ar garreg eich drws - pobl sy'n gweithio hefyd. Maen nhw'n gorfod dewis rhwng rhoi tanwydd yn y car a rhoi'r gwres ymlaen a rhoi bwyd ar y bwrdd. Mae'n frawychus."
Mae'r prosiect yn wahanol i fanc bwyd yn yr ystyr nad oes angen cael eich cyfeirio ato, does dim cyfyngiad ar faint o weithiau y gallwch ymweld chwaith.
Ffoadur o Syria yw Seba sydd wedi byw yn Y Drenewydd ers pum mlynedd.
Dywedodd fod casglu bwyd o'r prosiect wedi gwneud iddi deimlo'n rhan o'r gymuned. "Mae'n brosiect newydd, mae'n ddefnyddiol iawn," meddai, "jyst am eu bod nhw'n edrych ar ein holau.
"Ffoaduriaid ydyn ni, ac ry'n ni'n teimlo bod rhywun yn poeni amdanon ni, dim ond i ddweud 'Dewch i mewn i gasglu bwyd, beth y'ch chi'n hoffi? Beth sydd ei angen arnoch chi?'.
"Mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus yn fwy na'r bwyd. Mae gen i'r ffrindiau hyn i gyd, ffrindiau hyfryd. Rwy'n cymryd ychydig o datws, rhai afalau, rhai mefus - mae'n braf iawn."
Pensiynwr yw Arfon Williams sydd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.
Mae'n dweud ei fod yn casglu bwyd o'r prosiect er mwyn bod yn ddiogel ac osgoi llefydd prysur.
"Dw i newydd ddod allan o'r ysbyty felly dwi ddim eisiau cymysgu gormod â phobl yn y siopau.
"Hefyd, rydw i ar bensiwn felly mae hyn yn helpu llawer, mae'n ymddangos bod bwyd yn mynd yn ddrytach bob dydd."
Mae'r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cultivate, cwmni cydweithredol sy'n anelu at gryfhau yr economi bwyd leol yn Y Drenewydd. Mae Cultivate yn darparu adeilad ar gyfer y prosiect.
Dywedodd Richard Edwards o'r cwmni fod y prosiect wedi esblygu'n gyflym. "Yn y bôn, rydym yn cymryd problem amgylcheddol sef gwastraff bwyd a'i droi'n ddatrysiad cymdeithasol, sy'n sicrhau ei fod ar gael i unrhyw un yn y gymuned," meddai.
"Efallai mai dim ond ychwanegiad ydyw at y bwyd sydd yn y tŷ, efallai ei fod yn darparu llawer o'r hyn sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd, ond gall unrhyw un dipio i mewn a chymryd yr hyn sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt."
Yn ogystal â'i roi i unigolion mae'r bwyd dros ben hefyd yn mynd i brydau bwyd sy'n cael eu coginio gan Gaffi Cymunedol Y Drenewydd.
Dywedodd Rhiain Selby, un o'r gwirfoddolwyr sy'n dosbarthu'r bwyd: "Dw i mor falch i fod yn rhan o'r prosiect yma. 'Da ni'n safio gymaint o fwyd fyddai fel arall yn cael ei wastraffu, fyddai'n cael ei daflu i ffwrdd.
"Ac maen nhw'n coginio bwyd iachus iawn i'r bobl yma sydd ar ben eu hunain, yn unig ac yn gwerthfawrogi'r bwyd yn ofnadwy.
"Maen nhw'n cael tri chwrs - cawl ac wedyn cinio a phwdin, a weithiau mae na ryw fisgedi neu gacennau gan ddibynnu beth sy wedi cael ei roi gan yr archfarchnadoedd."
Dywedodd y rheolwr, Vicky Rowe, ei bod yn gobeithio y bydd y prosiect yn tyfu yn 2022. "Fe allwn ni bob amser wneud gyda mwy o wirfoddolwyr," meddai.
"Mae angen gyrwyr arnom. Mae natur bwyd dros ben yn golygu ei fod yn cael ei gasglu yn y nos. Mae'r oriau bach yn wrthgymdeithasol.
"Hefyd ar gyfer y dosbarthu bwyd, mae angen i ni staffio hynny ac adnewyddu'r cynnyrch. Mae yna ddigon o gyfleoedd i wirfoddoli!"
Gyda'r arian ychwanegol yng ngrant y Loteri hefyd, mae Vicky'n obeithiol y bydd y prosiect yn mynd o nerth i nerth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2021