Heriau'r banciau bwyd yng nghanol pandemig
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy'r Nadolig, cynyddu mae'r pwysau ar fanciau bwyd gydag elusennau'n pwysleisio taw teuluoedd â phlant yw'r mwyaf anghenus ar hyn o bryd.
Cafodd 55,114 o becynnau bwyd eu dosbarth trwy fanciau bwyd yng Nghymru yn y chwe mis hyd at fis Medi eleni.
Yn ôl elusen Trussell Group, sy'n cynnig cefnogaeth i fanciau bwyd, mae cynnydd aruthrol yn y parseli bwyd i blant.
"Yn y pythefnos d'wetha, ni 'di rhoi mas digon o fwyd i 38 person, yn oedolion, yn blant a phobl ifanc yn eu harddegau," meddai Sian ap Gwynfor o Bwyllgor Banc Bwyd Llandysul.
Mae'r galw a'r heriau eleni yn y Banc Bwyd yn ne Ceredigion yn fwy nag erioed.
Dros dair blynedd ers ei sefydlu yn Festri Capel Seion, mae'r Dolig hwn yn gyfnod prysur arall gyda'r gwirfoddolwyr yn rhuthro i'r siopau lleol i gasglu rhagor o nwyddau.
"Mae 'na ryw 60 bocs wedi mynd mas yn y chwe wythnos dd'wetha, a ma' hynny'n dipyn mewn ardal fel Llandysul. Mae e 'chydig yn fwy na'r llynedd yn yr amser byr yna," ychwanegodd Sian ap Gwynfor.
Oherwydd y pandemig, mae strwythur ymarferol y banc bwyd wedi newid.
"Yr asiantaethau sydd gan amla' yn cysylltu â ni, ond oherwydd bod yr asiantaethau i gyd wedi bod yn gweithio o gatre', ma' hynny'n bendant wedi newid y strwythur, ac ry'n i wedi cael mwy o bobol leol yn cysylltu, sy'n gwybod am bobol eraill sydd ar eu cythlwng," medd Sian ap Gwynfor.
"A phan dwi'n dweud 'ar eu cythlwng' dwi'n gwybod fod rhai bobol yn dweud 'does neb ar eu cythlwng', ond ma' nhw ar eu cythlwng os nad yden nhw'n gallu fforddio byw o fewn yr un wythnos benodedig yna am nad yw'r arian wedi dod trwyddo iddyn nhw.
"A dyna sy'n anodd i ni ddirnad. Ma' pobol allan yna sy'n gorfod byw o wythnos i wythnos, o fis i fis, ac yn gorfod aros am arian i ddod mewn iddyn nhw."
Mae cyfyngiadau Covid-19 yn sicr wedi effeithio ar yr ymdrechion codi arian, yn ôl Owenna Davies, sy'n gwirfoddoli ym Manc Bwyd Llandysul.
"Dydy'r ysgolion ddim wedi bod yn cynnal gwasanaethau diolchgarwch a ddim wedi bod yn gwneud cyngherddau Nadolig arferol.
"O'n i'n arfer cael llwyth o nwyddau yn dod trwyddo, ac o gapeli hefyd, ond dyw nifer ddim wedi bod yn cwrdd, a dyw digwyddiade ddim wedi bod yn cael eu cynnal.
"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i'r cymunede sydd wrthi ar hyn o bryd yn cynnal boreau coffi ac yn dod â'u bocsys draw i ni fan hyn. Hebddon nhw, mi fydden ni mewn bach o strach eleni."
'Ry'n ni'n rhedeg mas o fwyd'
Cymysglyd fu'r flwyddyn hon, yn ôl Owenna Davies: "Dechreuodd y flwyddyn yn dawel tu hwnt, a doedden ni ddim yn deall pam.
"Ro'n ni'n meddwl falle, nad oedd asiantaethau yn gallu mynd i gartrefi , ac felly ddim yn gweld yr angen. Ac mae 'na rai pobol yn gyndyn i ddod 'mlaen a gofyn am help. Ond erbyn hyn, ry'n ni mor brysur, ry'n ni'n rhedeg mas o fwyd."
Mae pryder hefyd fod teuluoedd yn gyndyn i ofyn am gymorth.
"Lle gwledig y'n ni, 'sdim gwaith yma. Ac mae e yn ofid i ni bod yna dipyn o bobol allan yna nad yden ni'n gwybod amdanyn nhw eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2021