Adran Dau: Casnewydd 0-2 Salford City
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gêm ei chwarae heb gefnogwyr oherwydd cyfyngiadau coronafeirws Cymru
Methodd Casnewydd y cyfle i gau'r bwlch ar dri uchaf yr Ail Adran wrth i'r ymwelwyr Salford City ennill 2-0 yn Rodney Parade.
Aeth Salford ar y blaen funud cyn hanner amser pan sgoriodd Finn Azaz foli anffodus i'w rwyd ei hun.
Ar 52 munud cafodd yr ymwelwyr eu hail, Brandon Thomas-Asante yn gorffen yn bwyllog gyda'i droed chwith ar ôl gwaith da gan Jordan Turnbull.
Mae'r golled yn golygu bod Casnewydd yn aros yn seithfed yn y gynghrair.