Apêl i sicrhau cyflenwad trydan Parc Ynni Baglan
- Cyhoeddwyd
Mae yna apêl i Lywodraeth y DU ymyrryd i sicrhau na fydd y cyflenwad trydan ar gyfer Parc Ynni Baglan, dolen allanol yn cael ei ddiffodd ddiwedd yr wythnos hon.
Mae yna gryn ansicrwydd ar hyn o bryd i fusnesau'r parc, yng nglannau Port Talbot, wedi i bwerdy Baglan Operations Limited - sydd wedi eu cyflenwi trwy linell breifat - fynd i'r wal ym mis Mawrth y llynedd.
Cytunodd Llywodraeth Cymru fis Medi diwethaf i ariannu cyflenwad trydan newydd, dan ofal Western Power Distribution, ac i'w gysylltu gyda'r Grid Cenedlaethol, ond ni fydd y cysylltiad hwnnw yn ei le am rai misoedd eto.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud popeth posib" i geisio datrys y sefyllfa. Mae BBC Cymru wedi gofyn i gwmni Western Power Distribution am sylw.
'Tridiau i osgoi canlyniadau catastroffig'
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, fe alwodd AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock ar Ysgrifennydd Diwydiant y DU, Lee Rowley i ddefnyddio rhan o'r Ddeddf Methdaliad i sicrhau nad yw'r cyflenwad yn cael ei ddiffodd ddydd Gwener.
Gofynnodd: "Pam na wnaiff y gweinidog weithredu ar frys a rhoi gorchymyn i'r derbynnydd swyddogol fel bod modd osgoi'r canlyniadau catastroffig posib hyn i'r busnesau, tai a chymunedau yma mewn cwta dri diwrnod?"
Atebodd Mr Rowley, sy'n weinidog o fewn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ei fod yn cydnabod bod y tenantiad yn mynd trwy "amser heriol".
Dywedodd bod y weinyddiaeth "wedi adolygu'r holl bwerau sydd ar gael i'r llywodraeth gan gynnwys adran 400 y Ddeddf Methdaliad" a dod i'r casgliad "nad [dyma] yw'r broses doethaf i'w dilyn ar hyn o bryd".
Ychwanegodd Mr Rowley bod BEIS wedi rhoi argymhellion i Lywodraeth Cymru sut y gellir lliniaru'r sefyllfa, a'i fod yn cyfarfod Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething ddydd Mercher.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi cydweithio'n agos gydag ystod o bartneriaid dros lawer o fisoedd i archwilio'r holl opsiynau posib" i atal amhariad ar y cyflenwad trydan i'r parc.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo a byddwn yn parhau i wneud popeth posib, gan gynnwys o fewn ein trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, i warchod iechyd, diogelwch a lles pawb a allai gael eu heffeithio."