'Stigma HIV heb wella mewn 30 mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dyw HIV ddim yn perchnogi fi', meddai Mark Lewis

Dyw'r stigma ynghylch HIV heb wella mewn 30 mlynedd ac mae angen i'r llywodraeth weithio ar frys i addysgu pobl Cymru am y feirws.

Mewn cyfweliadau â rhaglen Newyddion S4C, dyna'r alwad plaen gan gleifion, ymgyrchwyr a meddyg blaenllaw ym maes iechyd rhyw.

Yn ôl un meddyg ymgynghorol sy'n arbenigo mewn iechyd rhyw, mae'n "ofidus" nad yw pethau wedi symud ymlaen ers iddi ddechrau gweithio yn y maes yng Nghymru yn 1992.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio ar gynllun gweithredu newydd er mwyn gwella diagnosis, triniaeth a gofal HIV gan leihau stigma hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Olwen Williams yn poeni bod stigma ynghylch y feirws yn dal i fodoli

Yn ôl Dr Olwen Williams, sydd hefyd yn is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, dyw pobl dal "ddim yn siarad" am feirws HIV.

"Mae'n poeni fi bod y stigma dal mor wael rŵan a beth oedd o pan ddes i yma gyntaf ym 1992. Achos bod pobl ddim eisiau siarad.

"Yn y gymdeithas feddygol, dydy pobl ddim eisiau rhoi profion achos bod nhw'n meddwl bod llai o risg o gael eu heintio yng Nghymru.

"Ac hefyd, mae pobl yn cadw pethau at eu hunain. Mae rhai o'r cleifion sydd gyda ni yng Nghymru heb ddweud wrth eu meddyg teulu ac maen nhw'n byw hefo secret."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gymerodd bedair blynedd ers diagnosis Mark Lewis i ddweud wrth ei rieni ei fod yn byw â HIV

Yn 40 oed, mae Mark Lewis o Benygroes ger Rhydaman wedi cyhoeddi ar Twitter ei fod yn byw gyda HIV.

Fe gymerodd hi bron i bedair blynedd i Mark ei hun i ddweud wrth ei rieni, ac mae'n cyfaddef iddo fod yn benderfyniad anodd i'w wneud.

"O'n i just yn meddwl beth mae pobl gartref yn mynd i feddwl? Beth mae pobl gwaith yn mynd i ddweud? Do'n i ddim eisiau dweud wrth teulu oherwydd yr internalised stigma oedd gyda fi a poeni sut fydden nhw'n ymateb."

'Fel tunnell o frics'

Dechreuodd deimlo'n dost ym mis Ionawr 2018, gydag wlserau yn datblygu yn ei geg. Mae'n dweud iddo golli 8kg (un stôn a thri phwys) mewn wythnos.

Aeth at y meddyg, a chael prawf. Cafodd alwad ffon i ddweud ei fod wedi profi'n bositif am HIV.

"Roedd e wedi pwno fi'n galed. Fel tonne o frics yn pwno fi a dweud y gwir."

Mae Mark yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhagor i dorri'r stigma sydd yn gysylltiedig a'r feirws ac addysgu pobl am HIV.

"Does dim public health campaigns [ynghylch HIV] yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd yr un diwethaf yn 2012. Mae eisiau mwy," dywedodd.

Er bod cynlluniau da wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn ôl Mark, gan gynnwys cynnig prawf HIV i'r cartref i bawb yn y wlad a chynnig meddyginiaeth PrEP - sy'n rhwystro pobl rhag cael eu heintio pan yn cael rhyw - mae'n teimlo nad oes digon yn cael ei wneud i hyrwyddo'r cynlluniau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Lewis eisiau gweld rhagor o ymgyrchu er mwyn torri stigma ynghylch HIV

Er ei fod yn byw gyda'r feirws, mae'n pwysleisio ei fod yn byw bywyd cwbl arferol ar ôl cael prawf positif a rheoli'r cyflwr. Ond, mae'n dweud bod yn rhaid addysgu eraill bod hynny'n bosibl.

"Mae eisiau mwy o addysg am PrEP achos mae hwnna'n stopio pobl rhag gael HIV drwy ryw," dywedodd.

"Mae eisiau i bobl wybod bod profion ar gael. Os chi'n gwybod eich statws, chi'n cadw eich hunain yn saff a chi'n cadw pobl eraill yn saff."

Beth ydy HIV?

Feirws yw HIV sydd yn gwanhau'r system imiwnedd. Os yw'n cael ei adael heb ei drin, gall arwain at AIDS - enw sy'n cael ei roi ar sawl salwch all gael eu hachosi gan y feirws.

Yn y 1980au, pan ddaeth y feirws i amlygrwydd, roedd ofn mawr yn ei gylch.

Ond erbyn heddiw, gall gael ei drin gyda meddyginiaeth sy'n golygu bod modd byw gyda'r feirws yn hir ac yn iach - a golygu, yn ei dro, nad oes modd heintio rhywun arall chwaith.

Ond yn ôl Mark, does dim digon o bobl yn sylweddoli bod hynny'n wir.

"Mae lot o bobl still yn meddwl allwch chi ddal HIV drwy gusanu neu rannu pethau.

"Dyw hynny ddim yn wir."

'Stigma sy'n stopio pobl'

Drwy godi ymwybyddiaeth, meddai Mark, byddai modd cadw eraill yn ddiogel.

"Stigma sy'n stopio pobl rhag mynd i gael eu testio, stigma sy'n stopio pobl rhag siarad amdano fe, stigma sy'n stopio pobl rhag byw yn iach gyda fe.

"Trwy siarad gyda pobl, ni'n gallu torri'r stigma lawr. Dyw HIV ddim yn perchnogi fi, fi'n perchnogi HIV."

Mae'n galw nawr ar Lywodraeth Cymru hefyd i berchnogi'r sgwrs am y feirws.

Dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i greu ddatblygu Cynllun Gweithredu HIV.

Ychwanegodd y bydd y cynllun yn "cynnwys gweithrediadau cymesur i gynyddu ataliad, diagnosis, triniaeth a gofal HIV gan leihau stigma.

"Bydd gwella mynediad i wasanaethau, addysg ac ymwybyddiaeth yn rhan o'r cynllun gweithredu."

Ychwanegon y bydd mwy o wersi gorfodol am addysg rhyw yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru yn 2022, gyda chyfle i ddysgu am "achosion, symptomau ac effeithiau cyflyrau sy'n ymwneud âi iechyd rhyw, gan gynnwys HIV".

Pynciau cysylltiedig