Byw bywyd normal efo HIV

  • Cyhoeddwyd
Antony Lloyd BrookesFfynhonnell y llun, Antony Lloyd Brookes

"Mae fy stori HIV i'n un fydd yn swnio'n gyfarwydd i rai o'r rhai sy'n darllen hwn. Dwi ddim yn gwybod pryd cefais fy heintio â'r feirws na pwy oedd o wnaeth heintio fi, ond mae'n rhywbeth dwi'n ymchwilio iddo."

Cafodd Antony Lloyd Brookes o Harlech ddiagnosis o HIV ym Mehefin 2015 pan oedd o'n 35 oed.

A hithau'n fis dathlu hanes LGBT+, mae Antony, sy' bellach yn byw yn Awstralia, wedi rhannu ei stori.

'Nes i gael diagnosis HIV yn 2015. O'n i mewn cymaint o boen cyn y diagnosis, yn cymryd nurofen i stopio'r poen ond doedd dim byd yn gweithio. Un diwrnod o'n i ar y llawr yn y gwaith yn crio mewn cymaint o boen yn fy nghefn, yn methu symud.

Felly ddaru nhw alw ambiwlans a cymryd fi i'r uned argyfwng.

Prawf ar ôl prawf a dim clem beth oedd yn digwydd.

Ond yn y prynhawn 'nath doctor gofyn i fi: 'do you have sex with other male partners?' Oedd rhaid i fi ddweud 'ie'.

Felly ddaru nhw ofyn i fi os allen nhw brofi am HIV.

Canlyniadau

Daeth canlyniadau'r prawf yn ôl fel rhai positif-negyddol - gallai hyn fod naill ai'n bositif ffug neu'n arwydd fod angen profion pellach.

Gofynnodd y staff a hoffwn i aros yn yr ysbyty dros nos i gael fy arsylwi neu mynd adref. Penderfynais fynd adref gan fy mod eisiau bod yn fy amgylchedd fy hun a gwely fy hun i gael cysur.

Dywedais i ddim wrth lawer o bobl ar y pryd beth oedd yn digwydd, dim hyd yn oed fy nheulu.

Iechyd yn dirywio

O fewn wythnos o'n i nôl yn yr ysbyty. Dirywiodd fy iechyd yn gyflym yno a syrthiais i yn yr ystafell aros. Dwi ddim yn cofio unrhyw beth nes i mi ddeffro mewn ward ychydig oriau wedyn.

O'n i yn yr ysbyty am wythnos. Doedd gen i ddim awydd bwyd, a'r unig ffordd gallwn i fwyta oedd dod o hyd i'r bwyd mwyaf meddal, diflasaf. Dwi'n cofio un pryd o datws stwnsh gwyn, pysgod wedi'i botsio ac fe ddaeth ar blât gwyn.

Byddai'r nyrsys yn dod i gymryd fy ngwaed pedair gwaith y dydd, ac erbyn diwedd yr wythnos roedd fy nghorff yn gwrthod rhoi mwy o waed.

Diagnosis

Ddydd Mercher, 24 Mehefin daeth y meddyg o'r adran afiechydon heintus i'm gweld. Aeth â fi i ystafell dawel i drafod beth oedd yn digwydd.

Er bod canlyniadau gwaed pob prawf yn dod nôl yn bositif-negyddol, dywedodd fod ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth i ddweud bod siawns uchel 'mod i'n HIV positive.

Erbyn hyn ro'n i wedi colli 10 kg mewn pwysau oherwydd diffyg bwyta.

Gadawais yr ysbyty ar ddydd Iau, 25 Mehefin. Roedd fy mhen-blwydd yn 35 oed y diwrnod wedyn.

Antony Lloyd Brookes
Rydym wedi dod yn bell yn yr 20 mlynedd diwethaf..."

Bythefnos yn ddiweddarach o'n i mewn clinig clefydau heintus yn ysbyty St Vincents (yn Awstralia) a chefais fy rhoi ar dabledi gwrth-firaol ar unwaith.

Mae llwyth firaol pobl ar gyfartaledd rhwng 25,000 i 200,000. Roedd fy un i yn 1.1 miliwn a dyna pam o'n i mor sâl.

Y feirws hwn oedd wedi ymosod yn ddifrifol ar fy system imiwnedd, ac fel canlyniad roedd meningitis wedi setio mewn a dyna arweiniodd at fy nghyfnod yn yr ysbyty.

Cymerodd chwe mis i llwyth firaol fi i ddod yn undetectable, ac mae wedi bod yn undetectable ers hynny.

Dewrder

Mae wedi cymryd amser hir i fi deimlo'n ddigon dewr i ddweud wrth y pobl o'm cwmpas. Er bod gen i ffrindiau sy' wedi bod trwy hyn, doedd gen i ddim yr hyder i fod yn agored ac yn onest. Dywedais wrth y rhai agosaf ata'i ac roedden nhw'n deall ac yn gefnogol.

Er roedd o'n gwneud i fi chwerthin pan oedd pobl o hyd yn dweud: 'dydi o ddim yn death sentence fel oedd o arfer bod'. Mae hynny'n wir.

Derbyn

Dwi'n cofio tyfu i fyny yn yr 80au a'r 90au a gweld yr hysbysebion am HIV ac AIDS. Doeddwn i erioed wedi adnabod unrhyw un â HIV yn tyfu i fyny. Rŵan mae llawer mwy o addysg, ymwybyddiaeth ac mae pobl yn fwy derbyniol o'r peth.

Ym mis Rhagfyr 2015, postiais yn gyhoeddus ar Facebook ynglŷn â fy nhaith bersonol fy hun. O'n i eisiau dweud mai'r rheswm o'n i wedi bod mor emosiynol a blin, oedd y ffaith mod i methu derbyn y ffaith mod i'n HIV positive.

Gwnaeth o lethu fi... ges i gymaint o gariad a chefnogaeth trwy negeseuon ac yn bersonol gan bobl yma yn Awstralia a ledled y byd. Ers hynny dw i bob tro yn rhoi fy llaw allan at bobl sy'n mynd trwy'r un sefyllfa a dweud 'dw i wedi bod trwy hyn'.

Gobaith

Dydi HIV ddim bellach yn tabŵ yn y gymuned LGBTQIA+. Gyda [meddyginiaeth] PrEP a pep ar gael yn hawdd, ynghyd â chyffuriau gwrthfeirws, mae llai o bobl yn cael eu diagnosio gyda HIV.

Ond yn anffodus mae cynnydd wedi bod o achosion HIV yn y gymuned heterorywiol. Dros y blynyddoedd mae'r ffocws wedi bod ar hysbysebu a marchnata ar gyfer y gymuned hoyw, gan anghofio am y gweddill.

Ond dwi'n meddwl fod hynny'n newid rŵan. Rydyn ni rŵan yn gweld hysbysfyrddau mewn mannau cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Antony Lloyd Brookes
Disgrifiad o’r llun,

Antony'n perfformio

Rydym wedi dod yn bell yn yr 20 mlynedd diwethaf, ers i Queer as Folk fod ar ein sgriniau, neu hyd yn oed gymeriadau Simon a Tony ar EastEnders.

Mae 'na ffordd bell i fynd eto, mae'n dda fod rhaglenni fel It's a Sin yn addysgu ac agor llygaid y rhai oedd ddim o gwmpas yn ystod epidemig AIDS yr 1980au a'r 1990au.

Byddaf yn dechrau sgyrsiau unwaith eto, ac yn annog pobl i gael eu profi'n rheolaidd.

Byw bywyd

Diolch i'r holl waith gan bobl yn y maes meddygol, y rhai sy'n gweithio i elusennau HIV, a'r rhai sy' wedi ymgyrchu yn y gorffennol, dwi bellach yn gallu byw bywyd normal.

Dwi'n cymryd tabled y dydd, dwi'n cael fy mhrofi yn rheolaidd, a dydi fy nisgwyliad oes i rŵan ddim yn wahanol i unrhyw berson arall.

Gwrandewch ar Antony'n siarad am ei brofiad ar Dros Ginio ar Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig