Y ferch o Fynwy fu'n bragu cwrw yn Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Mary Jane InnesFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mary Jane Innes

Mae cymeriadau mawr hanes Cymru yn rhai amlwg - glowyr a chwarelwyr; ffermwyr a morwyr; beirdd a chantorion - a'u straeon nhw sydd gan amlaf, yn ennill lle amlwg yn ein llyfrau hanes.

Mae Papur Ddoe, cyfres newydd ar BBC Radio Cymru yn defnyddio pytiau o hen bapurau newydd er mwyn taflu goleuni ar fywydau rhai o ferched rhyfeddol Cymru gan gynnwys eu hymdrechion am gydnabyddiaeth ar yr aelwyd ac yn y gweithle, a sut yr oedd yn rhaid brwydro yn erbyn annhegwch cymdeithas beth bynnag oedd maint eu dawn.

Yma, mae'r cynhyrchydd a'r cyflwynydd, Elin Tomos, yn trafod bywyd Mary Jane Innes - un o'r merched sy'n cael sylw yn y gyfres newydd.

Y ferch o Sir Fynwy

Ganwyd Mary Jane ar fferm o'r enw Millbrook House yn Llanfaches, Sir Fynwy ar 18 Ebrill 1852. Yn dilyn marwolaeth annisgwyl ei rheini, fe benderfynodd ei brawd, Thomas Lewis, i werthu'r fferm, y tir a'r bythynnod gan ddefnyddio'r arian i fudo i Seland Newydd gyda'i wraig Hannah a'i chwaer, Mary Jane.

Ar 19 Gorffennaf 1870, hwyliodd y criw o Lundain ar fwrdd llong o'r enw'r Asterope. Wedi can diwrnod ar y môr, glaniwyd ym mhorthladd Auckland yn niwedd mis Hydref.

Ar y cyfan, bu'r fordaith yn un esmwyth er i bapur newydd yr Auckland Star ddatgan nad oedd unrhyw beth "calling for special mention" wedi digwydd, gan esbonio ar yr un gwynt bod "one of the seamen was drowned during a severe storm!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Harbwr Auckland yn 1893

Bywyd yn Seland Newydd

Wedi cyrraedd Auckland, ymsefydlodd Mary yng Ngaruawahia, tref yn rhanbarth Waikato ar Ynys y Gogledd.

Tra'n byw yma cyfarfu â'i darpar ŵr, Charles. Albanwr oedd Charles ac mi roedd dros ugain mlynedd yn hŷn na Mary. Pan briodwyd y pâr ym mis Ebrill 1874, roedd Charles yn rhedeg bragdy yn Waikato.

Ffynhonnell y llun, Hamilton City Libraries
Disgrifiad o’r llun,

Y bragdy yn Waikato

Bu blwyddyn gyntaf eu priodas yn un heriol. Ym 1875, aeth Charles Innes yn fethdalwr wrth i'w fenter busnes gyda'i fragdy fethu. Yn dilyn trafferthion ariannol Charles, bu'n rhaid i Mary gamu i'r adwy a defnyddio'r arian a etifeddodd yn dilyn gwerthiant y fferm yn Sir Fynwy er mwyn adfer y busnes.

Symudodd y pâr i dref Te Awamutu yn fuan wedyn ac agor bragdy newydd, ond y tro hwn fe benderfynwyd cofrestru'r safle a'r busnes yn enw Mary yn unig.

Bragu Cwrw

Mwyaf syndod, ym 1888 aeth Charles yn fethdalwr am yr eildro. Yn fuan wedyn cyhoeddodd Mary trwy hysbysiad cyhoeddus mai hi oedd bellach yn rheoli Bragdy Te Awamutu ac yn gyfrifol am fragu'r cwrw a chynhyrchu diodydd pefriog.

Y flwyddyn ganlynol fe gyhoeddodd ei bod yn rheoli Bragdy Waikato hefyd, sef cwmni a sefydlwyd yn nwyrain Hamilton ym 1873 gan ŵr o'r enw William Cumming. Tyfodd y bragdai yn fusnes llwyddiannus diolch i allu a dyfalbarhad Mary.

Yn ystod ei hoes, fe wynebodd Mary galedi difrifol. Yn 1897, dinistriwyd y bragdy yn Hamilton gan dân sylweddol a orfododd Mary i ddechrau ei busnes o'r newydd unwaith yn rhagor. Fel llawer o wragedd oes Fictoria, bu'n rhaid iddi hefyd ddygymod â'r galar o golli babanod a gweddwdod. O'r deg o blant a anwyd, dim ond chwech a oroesodd i fod yn oedolion ac ym 1899, darganfuwyd ei gŵr Charles, yn farw mewn baddon yn y bragdy.

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Mary a'i chwe mab

C. L. Innes and Company

Ym 1900, sefydlodd gwmni newydd o'r enw C. L. Innes and Company gyda'i mab hynaf, Charles. Dros y trigain mlynedd nesaf fe ddatblygodd y cwmni yn un o brif arloeswyr y diwydiant diodydd pefriog yn Seland Newydd. Ym 2013, i gydnabod a dathlu ei blaengaredd fel menyw fusnes Fictoraidd ychwanegwyd Mary i'r 'New Zealand Business Hall of Fame.'

Ffynhonnell y llun, Museum of New Zealand
Disgrifiad o’r llun,

Un o hysbysebion cwmni C.L Innes

Cymraes alltud oedd Mary Jane Innes. Fel miloedd o ferched ifanc eraill, fe benderfynodd adael Cymru yn y gobaith o fywyd gwell dramor. Yn sgil hynny, ychydig iawn o bobl sy'n gyfarwydd â hanes Mary erbyn heddiw, ond oni ddylem ni yma, yng Nghymru, ddathlu a chofio ei bywyd hi?

Gwrandewch ar Papur Ddoe ar BBC Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig