'Teimlo fel bod llai o werth' ar blant ag anghenion dysgu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aliou a Mark

"Mae'n teimlo fel bod y llywodraeth yn rhoi llai o werth ar blant fel Aliou," meddai Mark, wrth drafod bywyd ysgol ei fab awtistig dros gyfnod y pandemig.

Mae Aliou, sy'n naw oed ac yn mynychu ysgol arbennig ger Castell-nedd, yn dal i wynebu tarfu mawr ar ei addysg.

Yn ôl ei dad, dydy plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ddim wedi cael eu trin yn gyfartal â'r rhai mewn addysg prif ffrwd.

Dywedodd yr aelod lleol yn Senedd Cymru ei bod yn teimlo bod "gwahaniaethu yn digwydd".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi sicrhau bod cyllid ar gael, sydd wedi'i "bwysoli tuag at ddysgwyr ag ADY".

'Gwahaniaeth fel nos a dydd'

Mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales BBC Cymru yng nghartref y teulu ym Margam, 15 milltir o ysgol Aliou, disgrifiodd Mark yr heriau unigryw y mae plant ag ADY wedi eu hwynebu yn ystod y pandemig.

Esboniodd na all Aliou wneud profion Covid cyffredin ac felly bob tro y mae'n dangos yr arwydd lleiaf o symptom - gan gynnwys ei drwyn yn rhedeg - mae'n rhaid ei dynnu allan o'r ysgol.

Dywedodd Mark hefyd fod diffyg athrawon arbenigol oherwydd salwch staff wedi golygu bod Aliou wedi gorfod aros gartref ar sawl achlysur.

Yn ogystal, dywedodd nad oes "cynllun dal i fyny" wedi bod ar gyfer ei fab, ac nad oedd unrhyw hyfforddiant wedi bod i rieni fel ef i ddysgu'r "technegau a dulliau" i ddysgu plant ag ADY.

Mae brawd 10 oed Aliou, Tahirou, yn mynychu ysgol gynradd prif ffrwd ac, yn ôl Mark, mae profiad ysgol y ddau frawd dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod fel "nos a dydd".

"Gyda fy mhlentyn arall, sydd yn yr ysgol gynradd, mae e'n cael gwaith cartref ychwanegol a gwersi i ddal i fyny. Does dim byd i Aliou.

"Yn syml, does dim digon o gynllunio wedi bod ar gyfer plant fel fy un i, a phe bai hyn yn digwydd mewn addysg prif ffrwd fe fyddai protestiadau yn digwydd.

"Ond gydag Aliou nid yw'n teimlo bod yr addysg y mae e wedi ei golli yr un mor bwysig."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Williams AS:

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru o Blaid Cymru, Sioned Williams wrth y rhaglen: "Rwy'n teimlo bod yna ychydig o wahaniaethu yn digwydd yma.

"Nid yw plant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn cael yr un math o adferiad yn eu haddysg ac felly nid ydynt yn cael eu trin yn gyfartal gyda'r plant hynny sydd mewn ysgolion prif ffrwd."

Cyfnod 'anodd a digynsail'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pa mor heriol y mae'r pandemig wedi bod i blant ag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd a byddwn yn parhau i gymryd camau i sicrhau bod y dysgwyr hyn yn cael eu cefnogi.

"Rydym wedi darparu dros £128m o gymorth ychwanegol i ysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda chyllid wedi'i bwysoli tuag at ddysgwyr ag ADY.

"Rydym hefyd wedi darparu £10m ychwanegol eleni yn benodol ar gyfer dysgwyr ag ADY sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig."

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod yr awdurdod lleol wedi "gweithio'n agos gyda'n hysgolion arbennig yn ystod cyfnod hynod anodd a digynsail o bandemig byd-eang" a'i fod yn "hynod ymwybodol o'r heriau y mae hyn wedi'u cyflwyno i'n pobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion".

"Mae'r holl adnoddau sydd ar gael wedi'u defnyddio i geisio lliniaru'r problemau y mae ein plant a'n pobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr yn eu hwynebu."

BBC Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 fore Sul ac yna ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig