Dargyfeirio tancer olew Rwsiaidd o Gymru

  • Cyhoeddwyd
LouieFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tancer olew Louie o Rwsia wedi ei ddargyfeirio o Aberdaugleddau i Antwerp

Mae tancer olew o Rwsia a oedd fod i ddocio yng Nghymru, yn groes i bolisi Llywodraeth y DU, wedi cael ei ddargyfeirio.

Yn gynharach yng nghyfarfod llawn y Senedd fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, dynnu sylw at y ffaith bod llongau sy'n cludo cargo o Rwsia yn dal i ddocio yng Nghymru, er gwaethaf galwadau gan Lywodraeth y DU i rwystro mynediad.

Dywedodd "na ddylai un diferyn o olew o Rwsia gael ei ddadlwytho i Gymru drwy borthladd yng Nghymru tra bod gwaed diniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin".

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod yn cytuno'n llwyr.

Ychwanegodd, "bydd angen i Lywodraeth y DU weithredu eto i wneud yn siŵr bod bwriad eu polisi, sef atal olew o Rwsia rhag cael ei ollwng ym mhorthladdoedd y DU, yn effeithiol.

"A phan fo bylchau neu ffyrdd o gwmpas y rheolau, ac mae'n anochel y bydd eraill yn ceisio gwneud hynny, bod Llywodraeth y DU yn cael y wybodaeth honno cyn gynted â phosibl ac yna'n gallu gweithredu arni yr un mor gyflym."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y tancer olew, Pluto, gyrraedd Aberdaugleddau ddydd Sadwrn yn cario olew o Rwsia

Mae un tancer olew eisoes wedi glanio yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Ond mae'n aneglur a ydy'r llong yn dod o dan y sancsiynau - mae'n cario cargo o Rwsia, ond nid yw'n hwylio dan faner y wlad.

Dywedodd y porthladd ei fod yn "awyddus i sicrhau fod sancsiynau Llywodraeth y DU yn cael eu gweithredu yma".

Ychwanegodd y bydd yn ceisio cael mwy o wybodaeth am bob llong fydd yn glanio yno er mwyn penderfynu a fydd angen gweithredu'r sancsiynau arnynt.

Dywedodd harbwrfeistr Porthladd Aberdaugleddau, Mike Ryan ei fod yn "deall ac yn rhannu'r cryfder teimlad ynglŷn â llongau sydd â chysylltiadau â Rwsia yn glanio yn y porthladd, yn enwedig gan fod gan ein tref gysylltiadau cryf gydag Wcráin trwy ei gefeillio â dinas Uman".

"Er hynny, nid oes gennym y pŵer i weithredu sancsiynau ar long sy'n dod i mewn i'n porthladd."

Ond fe wnaeth Mr Ryan gadarnhau na fyddai'r porthladd yn caniatáu mynediad i unrhyw long y mae lle i gredu sy'n cael ei rheoli, ei pherchnogi, neu ei gweithredu gan unrhyw berson sy'n gysylltiedig â Rwsia neu sy'n hedfan baner y wlad.

"Dydy penderfynu a yw llong yn dod o fewn y diffiniad yma ddim yn syml, ond rydym yn awyddus i sicrhau fod sancsiynau Llywodraeth y DU yn cael eu gweithredu yma yn Aberdaugleddau," meddai.

Ychwanegodd y bydd yr Adran Drafnidiaeth yn cefnogi porthladdoedd i adnabod llongau y dylid eu hatal.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Dylan Moore
Disgrifiad o’r llun,

Mae porthladd Aberdaugleddau yn gwasanaethu purfa Valero

Aberdaugleddau ydy porthladd ynni mwyaf y DU, ac mae'n gwasanaethu purfa Valero - un o'r gwneuthurwyr tanwydd mwyaf yng ngogledd orllewin Ewrop.

Fe wnaeth tancer olew o Rwsia - o'r enw Pluto - lanio yn Aberdaugleddau ddydd Sadwrn, cyn i'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps, ysgrifennu at y porthladdoedd.

Mae Mr Shapps wedi gofyn i borthladdoedd atal llongau sy'n hedfan fflag Rwsia, sydd wedi'u cofrestru yno, neu sy'n cael eu rheoli, eu perchnogi neu eu gweithredu gan unrhyw un o'r wlad.

Pynciau cysylltiedig