HIV: Rhwydwaith i roi mwy o gefnogaeth ac addysgu

  • Cyhoeddwyd
Mercy Shibemba
Disgrifiad o’r llun,

Mercy Shibemba: 'Doedd neb yn trafod y pwnc'

Tra'n blentyn yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd roedd Mercy Shibemba yn credu bod angen iddi gadw'r ffaith bod ganddi HIV yn gyfrinach.

Roedd diffyg gwasanaethau cymorth er mwyn iddi rannu ei theimladau ynglŷn â byw gyda'r feirws wedi cyfrannu at hyn, meddai.

Erbyn hyn mae rhwydwaith eiriolaeth newydd ar fin cael ei sefydlu er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth i bobl sy'n byw gyda HIV yng Nghymru.

Prif nod Wales HIV Advocacy Matters (WHAM) yw addysgu cymunedau penodol sy'n wynebu'r risg mwyaf o drosglwyddiad HIV ac i godi ymwybyddiaeth am brofion HIV a'r driniaeth sydd ar gael.

Mae gwelliannau meddygol wedi gwneud HIV yn feirws mae modd ei reoli gyda meddyginiaeth.

Cafodd Miss Shibemba, 23, ei geni gyda HIV ond mae hi'n byw "bywyd hapus ac iach".

Mae hi wedi teithio'r byd i rannu ei phrofiadau o fyw gyda HIV ac mae hi o hyd yn ymgyrchu am welliannau mewn profi, triniaeth a chymorth HIV.

"Roedd tyfu i fyny yng Nghaerdydd a thrafod HIV yn ddau beth nad oedd yn ffitio gyda'i gilydd ar y pryd," meddai.

"Doedd neb yn trafod y pwnc. Roedd yn teimlo fel pe bai hwn yn rhywbeth byddai'n rhaid i fi gadw'n gyfrinachol," meddai.

"Does 'na ddim gwasanaethau cymorth, arbenigol wedi bodoli yng Nghymru ar gyfer pobl sydd â HIV fel sydd yn bodoli dros y ffin yn Lloegr.

"Yn fy marn i, mae'r syniad o greu rhwydwaith eirioli yn rhywbeth gall ddod â nifer o bobl ddylanwadol at ei gilydd ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod strategaeth gydlynol yn cael ei datblygu ar gyfer y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrch am godi ymwybyddiaeth am brofion HIV

Cafodd y ffigyrau diwethaf ar gyfer nifer y bobl yn profi'n bositif ar gyfer HIV yng Nghymru eu cyhoeddi yn Ebrill 2019.

Ar y pryd, roedd yna gynnydd bach wedi bod yn nifer y menywod a phobl ifanc rhwng 18 a 24 oed.

Roedd gostyngiad yn nifer y dynion a wnaeth brofi'n bositif yn ogystal â dynion sy'n cael rhyw gyda dynion eraill.

Er hyn, y gred yw mai dynion sy'n cael rhyw gyda dynion eraill yw'r grŵp mwyaf tebygol o gael HIV.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn aelod o gynllun rhyngwladol Fast Track Cities sy'n ceisio mynd i'r afael â'r stigma am HIV ac sy'n ceisio gwella iechyd pobl sy'n byw gyda'r feirws.

Mae Lisa Power, gwirfoddolwr y rhaglen yng Nghaerdydd, wedi llwyddo i sicrhau arian i redeg prosiect WHAM am ddwy flynedd.

'Gwella amseroedd diagnosis'

Gobaith y cynllun yw gostwng nifer y trosglwyddiadau newydd i sero erbyn 2030.

"Rydyn ni eisiau defnyddio'r gwasanaeth newydd i sicrhau bod pobl yn cael diagnosis cynnar er mwyn elwa o'r triniaethau arbennig sydd ar gael erbyn hyn," meddai.

Ychwanegodd: "Does dim elusennau HIV yng Nghymru ac felly rydyn ni eisiau creu rhwydwaith i alluogi pobl sydd â HIV i ddod at ei gilydd i sicrhau bod safon gwasanaethau gofal iechyd rhywiol yn gwella a bod cyfleoedd i drefnu ymgyrchoedd yn y dyfodol i godi mwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â phrofi ar gyfer y feirws."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddatblygu Cynllun Gweithredu HIV a fydd yn cynnwys mesurau i wella amseroedd diagnosis a chynyddu triniaethau a'r gofal sydd ar gael.

"Fe fydd y cynllun hefyd yn gwella mynediad at wasanaethau, mwy o addysg ac ymwybyddiaeth."

Pynciau cysylltiedig