Adran Dau: Casnewydd 1-1 Forest Green Rovers
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Finn Azaz i'r tîm cartref gyda ond tri munud ar y cloc
Mae'r Alltudion wedi dringo i chweched yn dilyn pwynt yn erbyn y tîm sydd ar frig yr Ail Adran.
Rhoddodd Finn Azaz Casnewydd ar y blaen wedi ond tri munud o chwarae - ei ail mewn dwy gêm - yn dilyn croesiad Rob Street.
Dim ond arbediad safonol McGee stopiodd y tîm cartref rhag dyblu'i mantais.
Ond daeth Forest Green yn gyfartal wedi 55 munud diolch i Jack Aitchinson, yr Albanwr sydd ar fenthyg o Barnsley.
Er i amddiffynnwr yr Alltudion, James Clarke, ei anfon o'r maes wedi 88 munud, daliodd y tîm cartref ymlaen i sicrhau pwynt haeddiannol.