Honiad o ddiwylliant 'bwlian' yn y Gwasanaeth Ambiwlans
- Cyhoeddwyd
"Mae'n torri calon rhywun." Geiriau un parafeddyg am ei swydd.
Wrth i amseroedd aros am ambiwlans dyfu a thyfu yn ystod y pandemig roedd yr effaith yn glir ar gleifion, ond beth am yr unigolion ar y rheng flaen?
Mae gweithwyr y Gwasanaeth Ambiwlans wedi cysylltu gyda BBC Cymru yn rhybuddio eu bod wedi bod dan straen aruthrol, eu bod yn dioddef o orbryder, a bod y gwasanaeth "ar fin torri lawr".
'Dwi ar antidepressants'
Doedd un parafeddyg ddim am i ni ddatgelu ei enw gan ei fod yn poeni y byddai'n colli ei swydd.
Rydym am ei alw yn Mark er mwyn amddiffyn ei breifatrwydd.
Disgrifiodd Mark y pwysau o weithio shifft gyda'i radio yn ailadrodd y neges: "Red calls waiting, red calls waiting."
"Bywyd rhywun 'di hynna - a dwyt ti ddim yn mynd i allu cyrraedd, ma'n torri calon rhywun.
"Fysan ni ddim yn trin anifeiliaid fel hyn - felly pam 'da ni'n ei dderbyn o efo pobl?" meddai Mark.
Mae'n cyfaddef bod pwysau a gorbryder yn rhan o'r swydd erioed.
Ond yn ystod y pandemig, mae'n dweud bod hynny wedi gwaethygu, ac nad ydy o erioed wedi gweld "gymaint o bobl yn chwilio am swyddi eraill fel maen nhw ar hyn o bryd".
Mae'r pwysau gymaint ei fod ar feddyginiaeth gwrth-iselder.
Cymorth y fyddin
Er mwyn lleihau'r pwysau ychwanegol, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ofyn am help y fyddin sawl gwaith yn ystod y pandemig.
Y tro diwethaf oedd fis Hydref 2021 - ac mi fydd y cymorth yna'n dod i ben ddiwedd y mis.
Ond mae rôl y fyddin wedi bod yn ddadleuol.
Fel arfer mae parafeddygon yn gweithio gyda phartner sydd hefyd yn barafeddyg pan maen nhw'n cael eu hanfon at gleifion sydd angen triniaeth.
Pan ddaeth y fyddin, mae un parafeddyg ac un milwr yn mynd allan ar alwadau.
Ond dydi'r lluoedd arfog ddim wedi cael hyfforddiant i yrru ar gyflymderau uchel neu "ar olau glas".
Dydi'r rhan fwyaf ddim wedi cael hyfforddiant clinigol 'chwaith.
Mae rhai parafeddygon yn dweud bod hynny wedi ychwanegu at y gwaith mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud - ac wedi gwneud eu gwaith yn fwy heriol.
"Rwy'n cydnabod bod dod â'r lluoedd arfog yn ôl y trydydd tro er mwyn ein helpu ni drwy'r gaeaf a'r drydedd don wedi bod yn amhoblogaidd i rai o'n pobl, ar gydbwysedd, dwi'n credu mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud," meddai Jason Killens, pennaeth y gwasanaeth ambiwlans.
"Roedd yn rhaid i ni ddarparu'r gofal gorau posib, i gymaint o gleifion ac sy'n bosib, mewn cyfnod prysur iawn."
'Chwarae roulette gyda bywydau'
Dywedodd Mark nad oedd y milwyr wedi cael hyfforddiant addas.
"Dydi soldiwrs ddim yn gallu gyrru ambiwlans gola' glas mewn argyfwng," meddai.
"'Dan ni'n cyrraedd cleifion sy' wir angen triniaeth ar frys, a 'dan ni un ai'n eistedd mewn traffig yn mynd r'un speed â phawb arall - gyda rhywun sy'n ddifrifol wael - neu dwi'n gorfod eistedd yna tan bod rhywun yn gallu dod i'n hebrwng i ar y goleuada' glas".
Dywedodd parafeddyg arall, sydd eisiau i ni ei alw yn John, fod ei gydweithwyr i ffwrdd o'r gwaith gan "nad ydyn nhw eisiau gweithio gyda phobl sydd heb unrhyw hyfforddiant clinigol".
Mewn arolwg o aelodau gan undeb y GMB, mae 'na rhywfaint o gytuno ymhlith parafeddygon am y safbwynt yna.
Dywedodd un bod y "pwysau ychwanegol" o weithio gyda'r fyddin yn eu gwneud yn "fwy blinedig ac yn fwy tebygol o wneud camgymeriad".
Disgrifiodd un arall y sefyllfa fel "chwarae roulette gyda bywydau pobl".
Dywedodd un arall ei bod hi "fel disgwyl am ddamwain".
Ond roedd yna enghreifftiau eraill o arolwg y GMB oedd yn fwy cadarnhaol am weithio gyda'r lluoedd arfog.
Dywedodd un bod "y milwyr wnes i weithio gyda nhw i gyd yn broffesiynol ac yn gweithio hyd at eu gallu".
Dim ond 32% o aelodau'r undeb wnaeth ymateb, felly mae'n rhaid cydnabod ei bod yn bosib mai dim ond y rhai mwyaf anfodlon wnaeth anfon eu sylwadau at eu hundeb.
Ofn codi pryderon
I'r staff sydd wedi siarad gyda BBC Cymru, nid gweithio gyda'r lluoedd arfog oedd y broblem - poeni oedden nhw oedd am yr hyn y gallai fod wedi digwydd i unigolion oedd yn mynegi pryderon.
Fe wnaeth Mark ei ddisgrifio fel "bwlian".
"Os 'da chi'n codi pryderon, fel ma' staff wedi gwneud am weithio gyda'r fyddin, ma' nhw'n mynd â chi am wrandawiadau - rhai disgyblu a rhai capability," meddai.
Mae hynny'n rhywbeth sy'n amlwg yn arolwg y GMB, gyda nifer o staff yn dweud eu bod nhw wedi cael eu "bygwth gyda chamau disgyblu".
Dywedodd y parafeddyg John ei fod yn teimlo hynny'n glir.
"Dwi'n teimlo os dwi'n codi consyrn, dylai rheolwyr ddim bod yn bygwth ein cyfeirio ni at y cyrff cofrestru - mi ddylen nhw gael sgwrs broffesiynol," meddai.
'Dim lle' ar gyfer bwlian
Mewn cyfweliad gyda phennaeth y Gwasanaeth Ambiwlans, Jason Killens, gofynnwyd iddo a oedd 'na ddiwylliant o fwlian o fewn yr ymddiriedolaeth.
Dywedodd bod enghreifftiau wedi dod i'r amlwg, mewn "ymgyrch wrando" drwy'r sefydliad o bobl "oedd yn teimlo eu bod wedi cael profiad o fwlian yn y gweithle".
"Does dim lle ar gyfer hynny o fewn ein sefydliad, ac os ydyn ni'n gweld tystiolaeth o hynny, tystiolaeth fwriadol, mi fyddan ni'n taclo hynny," meddai.
Recordiad cudd
Mae BBC Cymru wedi clywed recordiad cudd o gyfarfod rheolwyr yn y Gwasanaeth Ambiwlans ddiwedd y llynedd.
Daeth y cyfweliad i law'r BBC wedi'r cyfweliad gyda Jason Killens.
"Os oes ganddyn nhw ddiffyg hyder mewn unrhyw beth, 'dan ni'n eu cefnogi nhw drwy'r polisi cymhwysedd. Os ydyn nhw yn gwrthod, wel mi fydd yn rhaid dweud 'diolch yn fawr, cer adra, ac mi welwn ni ti mewn saith diwrnod am dy gyfarfod disgyblu'," meddai un yn y recordiad.
"Yn amlwg mi fydd yn rhaid dweud yn well na hynna, ond mae gofyn i chi gael y sgyrsiau anodd yma ac os ydy unrhyw un yn gwrthod, bwydwch yr enwau yna at eich rheolwyr llinell."
Y bygythiad yna sydd wedi arwain at staff i ddweud bod ganddyn nhw ofn godi pryderon.
"Os ydy o am ddigwydd neu ddim, y ffaith ydy bod y bygythiad yn ddigon," meddai Nathan Holman, swyddog gydag undeb y GMB.
"Mae yna ddiwylliant clir o fwlian. 'Os nad ydych chi'n cydymffurfio gyda'r hyn yr ydym yn ei ddweud, mi fyddwn ni yn eich cosbi chi'."
Mewn cyfweliad, dywedodd pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens, nad oedd yn ymwybodol o achosion o staff yn wynebu camau disgyblu am wrthod gweithio gyda'r fyddin.
Dywedodd ei fod yn meddwl bod rhai staff wedi camddeall oherwydd pwysau'r pandemig.
"Mae 'na lot o orbryder o ganlyniad i'r pandemig a bu'n rhaid i ni newid lot o bethau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf," meddai.
"Mae'r pethau yna a phethau eraill yn dod at ei gilydd i greu awyrgylch i rai o'n pobl sy'n anodd i rai ei resymoli."
Symud i Loegr 'y peth olaf dwi eisiau ei wneud'
Mi fydd cymorth y lluoedd arfog i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dod i ben, felly a fydd pethau yn mynd yn ôl fel yr oedden nhw?
Dydi'r unigolion wnaeth siarad gyda BBC Cymru ddim yn credu hynny.
Dywedodd John fod y sefyllfa wedi ei arwain at benderfynu nad oes ganddo ddyfodol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Er iddo gael ei eni a'i fagu yn y gogledd, mae wedi bod yn chwilio am swyddi dros y ffin yng ngogledd-orllewin a gorllewin canolbarth Lloegr.
"Dyna'r peth ola' dwi isio'i neud - ond, ti'n gw'bod, needs must," meddai.
Mae Mark wedi ystyried gadael hefyd ond dywedodd y "byddai hynny'n golygu bod yn rhaid symud fy nheulu hefyd, a fedra i ddim gwneud hynny i fy mhlant".
Dywedodd nad yw'n gweld sut y bydd y diwylliant pan fydd y fyddin yn mynd, ond does ganddo ddim dewis ond aros am y tro.
Mewn datganiad ynglŷn â'r recordiad o gyfarfod rheolwyr, ychwanegodd Mr Killens: "Nid oedd unrhyw fwriad i ddisgyblu cydweithwyr am wrthod gweithio ag aelodau'r lluoedd arfog, safiad a nodwyd gen i yn bersonol mewn ymrwymiad ysgrifenedig i bartneriaid Undeb Llafur ym mis Tachwedd 2021.
"Nid oedd ac nid yw unrhyw awgrymiadau sy'n awgrymu fel arall yn cynrychioli sefyllfa'r sefydliad.
"Yn wir, nid ydym wedi gorfodi unrhyw un i weithio ag aelodau'r lluoedd arfog os ydynt yn gwrthwynebu hynny, gan gydnabod mai cymharol fychan yw nifer yr aelodau staff hyn.
"Trwy broses y cytunwyd arni gyda chydweithwyr Undeb Llafur rydym ni wedi cadarnhau cynlluniau gwaith unigol ar gyfer oddeutu 100 o staff sydd wedi mynegi pryderon rhesymol.
"Mae'n parhau i fod yn wir heddiw nad oes unrhyw aelod o staff wedi wynebu camau disgyblu nau cyfeirio at y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal am ddewis peidio â gweithio ag aelodau'r lluoedd arfog, a thra ein bod yn cydnabod bod peth pryder ymhlith cydweithwyr wrth ofyn i'r lluoedd arfog ein cynorthwyo eto, aethom y filltir ychwanegol gyda staff a phartneriaid Undeb Llafur i ddeall a lleddfu unrhyw bryderon.
"Rydym ni'n parhau'n falch ac yn ddiolchgar am gefnogaeth y lluoedd arfog trwy un o'r cyfnodau anoddaf yn ein hanes, ac er gwaetha'r pryderon a godwyd gan ein pobl, rydym yn parhau o'r farn mai dyma'r dewis cywir er budd y cleifion.
"Y realiti ydy, heb gymorth ein cydweithwyr milwrol, byddai'r gwasanaeth y byddem wedi medru ei ddarparu i bobl Cymru yn arwyddocaol waeth nag yr oedd yn yr amgylchedd heriol a oedd yn ein hwynebu.
"Rydym ni'n ddiolchgar hefyd i'n timau ymroddgar, proffesiynol ein hunain sydd wedi gweithio'n galed a pharhau i ddarparu gwasanaethau y gorau y medrant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021