Cronfa newydd yn addo £600m i Gymru dros dair blynedd
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn dweud y byddan nhw'n "torri biwrocratiaeth ac yn rhoi rheolaeth i arweinwyr etholedig lleol" yng Nghymru wrth benderfynu sut i wario bron i £600m dros y tair blynedd nesaf.
Mae manylion wedi'u cyhoeddi o gynllun newydd i hybu economi Cymru yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Gyda gwariant o Frwsel yn dod i ben, mae Llywodraeth y DU bellach wedi lansio cronfa newydd - y Gronfa Ffyniant Gyffredin (Shared Prosperity Fund) - er mwyn llenwi'r bwlch.
Ond mae'r cynllun yn ddadleuol - mae Llywodraeth Cymru'n honni na fydd yr un symiau o arian ar gael, ac yn dweud bod oedi a dryswch wedi bod dros y manylion.
Bwriad yr arian yw helpu ardaloedd difreintiedig drwy brosiectau fel adfer strydoedd mawr, ac annog pobl yn ôl i'r gweithle
Yn wahanol i gynllun yr UE - a welodd tua £2bn yn cael ei wario yng Nghymru rhwng 2014 a 2020 - fe fydd rôl gan Aelodau Seneddol ac arweinwyr cynghorau lleol wrth benderfynu ble caiff yr arian ei wario.
'Clymu'r holl DU yn agosach'
Yn ôl Llywodraeth y DU bydd £585m ar gael dros y tair blynedd nesaf.
Mae gweinidogion yn San Steffan yn dadlau y bydd hyn yn hafal i'r arian a fyddai wedi bod ar gael o'r UE.
Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod Cymru "£1bn ar ei cholled yn y pecyn hwn" ac "y bydd pobl sydd ei angen fwyaf yn derbyn llai".
Y ffigwr hwnnw o £1bn yw'r swm ychwanegol y mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn dweud y byddai Cymru wedi'i dderbyn mewn cymorth gan yr UE erbyn 2025.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai gan Gymru "llai o arian nag y bydden ni wedi'i gael pe baen ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, llai o lais dros sut mae'r arian hwnnw yn cael ei wario".
Ond fe ddywedodd "o ganlyniad i drafodaethau dwys dros yr wythnosau diwethaf, o leiaf mwy o aliniad gyda'r ffordd rydyn ni'n ceisio gwneud pethau yma yng Nghymru".
Fe fyddai yna "bartneriaeth gydag awdurdodau lleol, [gyda] polisïau Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan ohono", meddai wrth BBC Cymru.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Mae hyn yn hwb sylweddol i bobl Cymru, all nawr ddefnyddio'r gronfa yma er mwyn gwella'u cymunedau a dewis eu blaenoriaethau gwariant.
"Bydd y Gronfa yn clymu'r holl DU yn agosach at ei gilydd, wrth fynd i'r afael â thlodi ar draws y pedair cenedl."
Mae'r gronfa ar gael i bob ardal o Gymru, ac fe fydd angen ystyried ffactorau fel poblogaeth, yr anghenion economaidd a lefelau incwm lleol wrth ddosrannu'r arian.
'Torri addewid'
Dywedodd Plaid Cymru y "dylai cyllid sy'n cael ei ddyrannu i Gymru gael ei wario gan Lywodraeth Cymru - nid gan San Steffan a'i gweinidogion Torïaidd sydd allan o gysylltiad".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Yn 2019 fe wnaeth y Torïaid addo disodli arian yr UE gyda rhaglen a oedd yn decach ac wedi'i theilwra'n well i economi Cymru.
"Maen nhw wedi torri'r addewid hwnnw."
Wrth siarad â'r BBC yn ddiweddarach ddydd Mercher, dywedodd Mr Hart fod honiadau bod Cymru mewn gwaeth sefyllfa yn ariannol ers gadael yr UE yn "amlwg yn anghywir" ac "mewn gwirionedd nid yw Cymru erioed wedi derbyn mwy o arian ers datganoli" yn 1999.
Cyhuddodd Lywodraeth Cymru o ganolbwyntio ar dde-ddwyrain Cymru, Caerdydd a Chasnewydd mewn trafodaethau ac "roedden ni'n synnu'n fawr nad oedden nhw wir eisiau gwybod am ogledd Cymru a chanolbarth Cymru o gwbl".
Dywedodd y byddai gogledd Cymru, canolbarth Cymru a gorllewin Cymru yn cael "mwy o damaid... nag erioed o'r blaen".
Roedd gweinidogion Cymru, meddai, hefyd yn "awyddus iawn, am resymau na allan nhw ond eu hateb, i ddiystyru natur wledig bron yn gyfan gwbl fel ffactor o ran y dyraniadau cyllid, ac roeddem yn meddwl bod hynny'n anghywir hefyd".
"Dydyn ni ddim yn gweld pam y dylai pobl sy'n byw mewn rhannau gwledig o Gymru fod dan anfantais oherwydd hyn."
Ond dywedodd Mr Drakeford nad oedd hyn "yn wir o gwbl".
"Byddai'r fformiwla rydyn ni'n ei rhoi i Lywodraeth y DU wedi arwain at fwy o arian yn mynd i Ben-y-bont ar Ogwr, mwy o arian yn mynd i Wrecsam, mwy o arian yn mynd i Ynys Môn nag [o dan] y fformiwla maen nhw wedi mynnu," meddai.
"Byddai ein fformiwla ni wedi bod yn decach, byddai ein fformiwla ni wedi gwneud yn siŵr bod yr arian yn mynd i'r mannau lle roedd ei angen fwyaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020