Cartrefi gofal: A fydd profion LFT yn parhau am ddim?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf llif unfforddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes sicrwydd am ddyfodol profion llif unffordd yn y sector gofal wedi mis Mehefin eleni

Mewn cyfweliadau i raglen Newyddion S4C, mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i egluro'u cynlluniau ynglŷn â phrofion llif unffordd Covid o fewn y sector gofal.

Mae gweinidogion wedi rhoi addewid y bydd profion o'r fath ar gael am ddim tan ddiwedd Mehefin, ond mae cwestiynau'n parhau am beth fydd yn digwydd y tu hwnt i hynny.

Fe ddaw wrth i'r pleidiau gwleidyddol honni mai eu polisïau nhw fydd â'r gallu i drawsnewid y sector gofal cyn etholiadau lleol 2022.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fydd unrhyw newid i'r canllawiau yn unol â'r sefyllfa iechyd cyhoeddus.

'Yr her fwyaf ydi staffio'

Mae cartref preswyl Dolwar yn Llanbedrog wedi llwyddo i osgoi Covid-19 tan yn lled ddiweddar, a diolch i'r brechlyn fuodd neb yn sâl.

Gyda 17 o wlâu a 27 aelod o staff, mae 'na dal i fod rhestr hir o breswylwyr sydd angen gofal.

Disgrifiad o’r llun,

Wendi Wynn a Ceri Ann Roberts o gartref Dolwar yn Llanbedrog

Wrth i restrau aros barhau i gynyddu mae'r nifer sy'n dewis gweithio yn y sector gofal yn gostwng, ac mae yna bryder y gallai hynny arwain at drafferthion pellach o fewn y maes.

Yn ôl Ceri Ann Roberts, rheolwr Dolwar, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dod ag heriau enfawr i staff.

"Yr her fwyaf ydi staffio a sicrhau bod y preswylwyr yn aros mor saff ag sy'n bosib.

"Mae Covid, mae o ym mhob man 'di bod a mae o wedi bod yn straen enfawr ar staff. Mae gan bobl deuluoedd adra a 'dy nhw ddim isho cario fo."

Yn ôl Ceri mae'r heriau hyn, yn ogystal â phrofiadau'r ddwy flynedd ddiwethaf, yn golygu y gallai pobl "feddwl ddwywaith cyn dŵad i'r maes gofal".

'Oedd y staff ofn'

Mi fuodd Wendi Wynn, is-reolwr y cartref, yn gweithio gydol y pandemig yn ceisio cadw'r preswylwyr yn ddiddan.

"Pan darodd hyn gynta' dwi'n cofio oedd y staff ofn.... yr ofn oedd y peth mwyaf a neb yn gwybod llawer amdano."

Disgrifiad o’r llun,

Cartref Dolwar, Llanbedrog

"Dwi'n gwybod bod nhw wedi bod 'dan sialens staffio mawr mewn rhai cartrefi ac sy'n bechod. Mae rhaid imi ategu, dwi yn meddwl fod 'na lot o bobl yn ailfeddwl derbyn swydd mewn maes gofal," meddai.

Tra bod Cartref Dolwar yn dweud nad ydyn nhw wedi cael trafferthion staffio, gan ddiolch i'w staff, mae 'na boeni y gallai cartrefi gofal orfod wynebu costau profion llif unffordd wedi mis Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru, sy'n darparu profion o'r fath am ddim i sefydliadau gofal, eto i gadarnhau beth fydd y drefn ar ôl Mehefin.

"Mae o yn bryder - yn amlwg os oes 'na gostau yn dod i mewn 'da ni am gael ein heffeithio," ychwanegodd Ceri Ann.

"Da ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni yn profi a bod ni'n saff.

"Da ni'n gobeithio allwn ni gario mlaen a chael stoc mewn lle neu mi fydd yn boen meddwl eto - ddim yn gwybod beth 'da ni'n ei drin."

'Rhaid i'r llywodraeth dalu'

Dywed Fforwm Gofal Cymru eu bod wrthi'n trafod gyda Llywodraeth Cymru am yr hyn all ddigwydd tu hwnt i fis Mehefin.

Ond mae'r Prif Weithredwr yn glir, petai gofyn i gartrefi gofal i barhau i brofi, fe ddylai Llywodraeth Cymru ariannu'r gost.

Disgrifiad o’r llun,

Mary Wimbury: 'Di o ddim yn deg ar gartrefi gofal i dalu'

"Os oes rhaid i gartref gofal barhau i ddefnyddio LFTs yna mae'n rhaid i'r llywodraeth dalu amdanyn nhw," dywedodd Mary Wimbury.

"Di o ddim yn deg ar gartrefi gofal i dalu ac mae'n bwysig bod pobl sy'n gweithio yn y sector yn teimlo'n saff."

Sefyllfa'r pleidiau

Wrth ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd unrhyw newidiadau "tu hwnt i fis Medi yn cael eu gwneud yn unol â'r sefyllfa iechyd gofal ar y pryd".

Ar drothwy etholiadau lleol Cymru ddydd Iau mae'r pleidiau gwleidyddol wedi bod yn cyflwyno eu polisïau er mwyn trawsnewid maes gofal Cymru.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig maen nhw wedi bod yn lobïo i gynyddu isafswm tâl gofalwyr i £10 yr awr.

Maen nhw wedi galw am fuddsoddiad teg i awdurdodau lleol ac yn dweud eu bod am gefnogi gofalwyr drwy ddarparu cymorth iechyd meddwl.

Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod nhw am sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol o dan arweiniad llywodraeth leol, a byddai gofal o'r fath am ddim.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn dweud eu bod am weld un gwasanaeth cenedlaethol i ddiwallu anghenion gofal pobl Cymru. Maen nhw hefyd am weld cysondeb cyflogau ar draws y sector.

Dywed Llafur Cymru eu bod eisoes wedi cyflwyno Cyflog Byw Real i ofalwyr a bydd taliad arall o fil o bunnoedd ar y ffordd. Ychwanegodd llefarydd eu bod yn sefydlu comisiwn i edrych ar sefydlu gwasanaeth gofal am ddim.