Llywodraeth Cymru yn 'amharod' i gyfyngu ar brofion Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae angen bod â ffordd i ymateb i amrywiolion Covid yn y dyfodol, medd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan

Mae Llywodraeth Cymru yn "amharod" i gyfyngu ar y rhaglen frechu dros y misoedd nesaf, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Ond fe fyddai hi'n "anodd iawn" i Lywodraeth Cymru ariannu'r lefel bresennol o brofi yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu profi am ddim yn Lloegr, medd Eluned Morgan.

Dywed mai un o'r "pryderon mawr" oedd y gallu i ailddechrau'r system pe tai amrywiolyn newydd yn achosi ton arall o achosion.

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, eisoes wedi dweud y byddai'n well defnyddio'r arian ar gyfer profi torfol mewn ffordd "fwy manwl".

Ychwanegodd Mr Hart: "Os ydy Llywodraeth Cymru'n dymuno parhau i ariannu profi torfol, mae hynny'n benderfyniad iddyn nhw. Mae digon o adnoddau ac arian ganddyn nhw i wneud hynny."

Ond dywedodd Eluned Morgan wrth raglen BBC Politics Wales nad oedd Llywodraeth Cymru'n gallu fforddio parhau i ariannu profion llif unffordd am ddim, "oherwydd, yn blaen, maen nhw'n torri'r arian i ni o Loegr".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yna gyfyngu ar y rhaglen brofi dros y misoedd nesaf

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd gofynion cyfreithiol ynglŷn â Covid sy'n weddill yn cael eu diddymu ddiwedd y mis, a bydd y rhaglen frechu'n cael ei chyfyngu dros y misoedd nesaf.

Yng Nghymru o 28 Mawrth:

  • Bydd y defnydd arferol o brofion PCR i'r cyhoedd yn dod i ben;

  • Bydd profion llif unffordd ar gael ar-lein am ddim i bobl sydd â symptomau.

O ddiwedd mis Mehefin:

  • Ni fydd profion llif unffordd ar gael i bobl sydd â symptomau.

Bydd profion PCR yn parhau ar gyfer grwpiau penodol, megis gweithwyr iechyd a gofal gyda symptomau a phreswylwyr mewn cartrefi gofal, a chleifion yn yr ysbyty.

Amrywiolyn newydd yn 'debygol iawn'

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei fod wedi cynghori GIG Cymru i barhau â'u gallu i brofi yn rhannol er mwyn iddyn nhw fedru ymateb i amrywiolion newydd.

Mae cyngor gwyddonol Llywodraeth y DU, meddai Dr Syr Frank Atherton, yn dweud fod amrywiolion "yn debygol iawn o ymddangos" ac y gallan nhw arwain at fwy o "niwed" na welwyd yn sgil Omicron.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bellach, nid yw'n ofynnol gwisgo mwgwd yn y mwyafrif o fannau cyhoeddus

Mewn ymateb i gwestiwn i ba raddau y byddai Cymru'n gallu darganfod amrywiolion newydd ar ôl i brofi torfol ddod i ben, atebodd Ms Morgan:

"Un o'r pryderon mawr sydd gennym ni yw ein bod ni angen bod yn barod i ailddechrau yn nhermau mesurau diogelwch os ydyn ni'n gweld amrywiolyn newydd yn y dyfodol.

"Mae'r gwyddonwyr i gyd yn awgrymu fod hynny'n debygol iawn, felly rydyn ni'n amharod i fod mewn sefyllfa lle nad ydyn ni'n gallu mesur beth sy'n dod mewn i'n cymunedau.

"Mae yna rai lefelau mesur fydd yn parhau - mae gyda ni'r arolwg ONS, y cynllun profi dŵr, ac wrth gwrs fydd profi'n parhau i bobl sy'n gweithio o fewn iechyd a gofal."

'Poblogaeth fwy sâl'

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn awyddus i Gymru fedru ymateb i amrywiolion newydd

Mae'r gyfradd farwolaeth gyda Covid drwy'r pandemig, sydd wedi'i chysoni o ran oedran, bron yr un peth ar gyfer Lloegr a Chymru - 145.5 a 145.6 o farwolaethau i bob 100,000, gyda'r Alban (126.2) a Gogledd Iwerddon (131.6) yn is ill dau yn y 23 mis hyd at ddiwedd Ionawr.

Mae'r gyfradd ar gyfer marwolaethau oherwydd Covid ychydig yn uwch yn Lloegr nag yng Nghymru.

Pan ofynnwyd a yw rhethreg y Llywodraeth ynghylch dilyn trywydd pwyllog yn cyd-fynd â'r realiti yn nhermau marwolaethau, atebodd y Gweinidog Iechyd: "Wrth gwrs. Dyw e ddim yn ymwneud ag oedran yn unig."

"Y ffaith yw bod gennyn ni boblogaeth yma yng Nghymru sy'n fwy sâl, oherwydd ein hanes diwydiannol a phethau eraill... a lefelau tlodi, wrth gwrs.

"Mae gan hynny oll effaith ar iechyd y boblogaeth yn gyffredinol. Fyddai hynny, felly, yn esbonio i ryw raddau pam nad yw'r ffigyrau hynny'n wahanol.

"'Dw i'n credu beth fyddai'n gwneud i mi boeni yw os nad oedden ni wedi bod yn ofalus - dychmygwch sut fyddai'r ffigyrau wedi edrych o dan yr amgylchiadau hynny."

'Osgoi archwiliad'

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i wrthod y syniad o ymchwiliad Covid arbennig i Gymru, er gwaethaf beirniadaeth gan ymgyrchwyr a gwrthbleidiau.

Mae'r AS Ceidwadol Tom Giffard wedi cyhuddo gweinidogion Cymraeg o fod yn "benderfynol o osgoi archwiliad".

"Yn lle cyfaddef bod camgymeriadau wedi bod a chaniatáu archwiliad llawn, mae gweinidogion Llafur yn dal i fod yn rhy ofnus i gael un ac yn cuddio tu ôl i ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd profion llif unffordd ar gael i bobl sydd â symptomau o ddiwedd mis Mehefin

Mae Plaid Cymru yn galw i'r grŵp ymgyrchu Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru fod yn rhan allweddol o'r ymchwiliad i'r DU gyfan, a'u caniatáu i gynorthwyo a chyfrannu ym mhob cam o'r ymchwiliad.

Mae llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth, wedi ysgrifennu at Gadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn gofyn iddyn nhw "sicrhau fod y llais Cymreig yn cael ei glywed yn glir" ac i edrych ar hwn fel "mater o frys".

Pan ofynnwyd a yw hi'n cefnogi'r alwad hon, dywedodd Ms Morgan: "'Dw i'n credu bod hi'n bwysig fod pobl sydd wedi colli anwyliaid - ac ni fydd e ond yn bobl sy'n rhan o'r grŵp hwnnw - fe fydd yna bobl ar draws Cymru nad ydyn nhw o reidrwydd yn rhan o'r grŵp yna a fydd hefyd yn dymuno gwrandawiad i'w lleisiau.

"Mae hi'n bwysig felly, rwy'n credu, ein bod ni'n rhoi system mewn lle i'r bobl hynny drwy Gymru."