'Astudio'r Gymraeg yn gwbl allweddol i fi'

  • Cyhoeddwyd
Esyllt SearsFfynhonnell y llun, Esyllt Sears

"Mae astudio'r Gymraeg wedi bod yn gwbl allweddol i bopeth dwi wedi neud, boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg."

Yn sgil y newyddion fod cwymp "sylweddol" wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg mewn prifysgolion, mae'r gomedïwraig Esyllt Sears wedi rhannu ei phrofiad hi o'r budd personol a gyrfaol mae hi wedi profi wrth astudio gradd yn y Gymraeg.

Pan o'n i yn yr ysgol yn y 90au, os o't ti'n mwynhau'r pynciau Cymraeg, Hanes a Saesneg, yr unig opsiwn fyddai'n cael ei gynnig i ti gan y swyddog gyrfaoedd oedd dysgu...

Ond do'n i ddim moyn bod yn athro. Ac fe wnaeth dysgu o adref yn ystod y cyfnod clo dawelu fy meddwl bod 'y ngreddf i wedi bod yn hollol gywir.

Serch hyn, Cymraeg, Hanes a Saesneg oedd fy hoff bynciau yn yr ysgol, felly pan ddaeth yr amser i ddewis cwrs gradd yn y brifysgol, ro'n i bendant am astudio o leiaf un o'r rhain.

Cymraeg, hanes Cymru ac un flwyddyn o newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyna ddewisais yn y pen draw, a hynny heb unrhyw end game. Treuliais i'r rhan fwyaf o 'nghyfnod i yn coleg yn byw gyda ffrindiau oedd yn astudio pynciau gwyddonol ac yn gwybod pa yrfa roedden nhw am ddilyn wedi graddio.

Felly, tra ro'n i'n cael darllen nofelau a sgwennu creadigol a chael wythnosau cymharol rydd o ran darlithoedd, roedden nhw i gyd ar y campws drwy'r dydd, bob dydd ac yn ymgymryd â phrofiadau gwaith oedd yn senarios llythrennol "byw neu farw".

Wi'n difaru dim, ac ro'n i'n wirioneddol drist o glywed yn ddiweddar bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn y nifer o fyfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears
Disgrifiad o’r llun,

Esyllt yn neuadd myfyrwyr Senghennydd, Caerdydd yn 1999/2000

Tasen i'n graddio nawr, basen i siŵr o fod yn meddwl - wrth gwrs. Mae'n rhaid bod myfyrwyr yn gweld mwy o werth mewn cyrsiau galwedigaethol neu yn dewis opsiynau y tu hwnt i brifysgol fel prentisiaethau neu gychwyn cwmnïau eu hunain (rhywbeth oedd llawer anoddach pan y graddiais i - doedden ni prin yn gwybod shwt i ddefnyddio Word yn 2022).

Nawr? Ar ôl gweithio am 20 mlynedd - gyntaf yn y maes cysylltiadau cyhoeddus a nawr yn y byd comedi - mae'n agwedd i'n hollol wahanol. Mae astudio'r Gymraeg wedi bod yn gwbl allweddol i bopeth dwi wedi neud, boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Heb law am y ffaith fod pawb di-Gymraeg yn dy drin di fel cyfieithydd gogoneddus, mae cael storfa o gyfeiriadau diwylliannol, llenyddol a ieithyddol unigryw yn fy mhen yn golygu bod 'da fi fewnwelediad cwbl wahanol i sialensau a thasgau a phrosiectau.

Wythnos dwetha, ro'n i'n trafod sioe dwi'n sgwennu gyda chyfarwyddwr o Loegr a dyma fi'n crybwyll agweddau ar ddiwylliant Cymraeg a llenyddiaeth, a hynny mewn sylw eitha ffwrdd â hi a dyma fe'n fy stopio a dweud, "that's really funny, you know that's funny and really inetersting, right?"

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears

Os wyt ti'n mwynhau ieithyddiaeth ar lefel dechnegol neu greadigol, yn hoffi ymgolli mewn llenyddiaeth yn ogystal â'i datgymalu'n llwyr, neu yn cymryd diddordeb mewn ysgrifenwyr cyffrous newydd, yna dylet ti wir ystyried astudio'r Gymraeg.

Ac os dim arall, gei di dair blynedd o fod yn geeky am sosioieithyddiaeth a dysgu pam bod gogs fel ma' nhw, gei di sgwennu traethawd hir ar bynciau cwbl random (fel y gwnes i am Y Dyn Hysbys, oedd yn cynnwys llawer gormod o ddeunydd am sataniaeth a olygodd bo' fi dim ond yn teimlo'n gyfforddus yn sgwennu am y peth yng ngolau dydd), ac fe gei di arbrofi gyda dy sgwennu dy hun (sgriptio oedd fy hoff fodiwl o bell ffordd).

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears

Dwi ddim yn gwybod llawer am y cwricwlwm Cymraeg y dyddiau hyn ond dwi'n credu'n gryf y dylid ei ddiweddaru'n flynyddol gan fod diwylliant a llenyddiaeth a iaith yn bethau mor symudol ac yn gallu newid mor gyflym.

Ac os yw hyn yn digwydd yn barod yna dwi ddim yn deall pam nad yw gradd yn y Gymraeg yn opsiwn posibl i fwy o fyfyrwyr.

Pynciau cysylltiedig