Gwahardd prifathro yn dilyn ffugio presenoldeb disgyblion

  • Cyhoeddwyd
Peter SpencerFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Mr Spencer Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth yn y flwyddyn 2020 yn dilyn naw mlynedd fel y pennaeth

Mae pennaeth ysgol wedi'i wahardd o'r gofrestr addysgu yng Nghymru wedi iddo ddweud wrth staff i gofnodi bod disgyblion yn bresennol pan nad oedden nhw.

Clywodd panel o Gyngor y Gweithlu Addysg fod Peter Andrew Spencer yna wedi ceisio dylanwadu ar ymchwiliad swyddogol,

Roedd y twyll, dros gyfnod o bum mlynedd yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin, wedi cychwyn wedi i arolygiad Estyn argymell fod presenoldeb angen gwella.

Mae ysgolion yn gallu derbyn mwy o gyllid ac yn graddio'n well ar fesurau perfformiad cenedlaethol yn ddibynnol ar lefelau presenoldeb.

Clywodd y panel bod dros 28,000 o absenoldebau wedi'u newid i ddangos fod y disgybl yn bresennol rhwng 2014 a 2019.

Daeth y twyll ond i'r amlwg wedi i aelod o staff adrodd amdano.

'Gwe o dwyll'

Doedd Mr Spencer, sydd bellach yn bennaeth ar ysgol ryngwladol dramor, ddim yn bresennol yn y gwrandawiad.

Ond dywedodd tystion fod Mr Spencer, a adawodd yr ysgol 1,500 disgybl gyda setliad ariannol gan Gyngor Sir Gâr yn 2020 wedi naw mlynedd yn y swydd, wedi dweud wrth aelodau staff i ffugio data presenoldeb ar y System Rheoli Gwybodaeth Ysgolion.

Dywedodd Luke Lambourne, ar ran y Cyngor Gweithlu Addysg, bod un aelod o staff wedi'i dynnu i mewn i "we o dwyll" Mr Spencer oherwydd teyrngarwch, tra bod eraill yn teimlo "dan bwysau" i ymuno.

Ond yn ei ddatganiad gwadodd Mr Spencer iddo erioed gyfarwyddo unrhyw staff i newid y data absenoldeb.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin, sy'n ysgol ddwyieithog

Er yn rhoi'r bai ar "Berson D" am y newid yn y ffigurau, fe gyfaddefodd ei fod ef, fel y pennaeth, wedi methu â'i adrodd.

Dywedodd Mr Spencer ei fod yn cadw'n dawel am y twyll oherwydd ei fod yn deall y pwysau oedd ar staff o asiantaethau y tu allan i'r ysgol gan gynnwys Estyn, yr awdurdod addysg leol a chonsortia ysgolion.

"Nid wyf erioed wedi cyfarwyddo unrhyw weithiwr i chwyddo data presenoldeb ar gam," nodwyd yn natganiad ysgrifenedig Mr Spencer.

"Wnes i ddim cychwyn y rhaglen chwyddiant presenoldeb. Dechreuwyd y weithred gan fy nghydweithiwr (Person D) yn ddiarwybod i mi."

Ychwanegodd Mr Spencer fod ysgolion dan gymaint o bwysau ar y pryd "yn anecdotaidd y gred oedd bod trin data yn eang".

Ond cyfaddefodd: "Rwy'n derbyn yn llwyr fod fy ngweithredoedd yn is na'r safonau a ddisgwylir gan bennaeth".

'Graddfa edifeirwch yn gyfyngedig'

Wrth ei dynnu oddi ar y gofrestr addysgu yng Nghymru dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Peter Owen: "Ym marn y pwyllgor roedd hwn yn enghraifft hirfaith, ddifrifol o gamymddwyn dros nifer o flynyddoedd."

Dywedodd Mr Owen fod "graddfa edifeirwch Mr Spencer yn gyfyngedig ac nid lle y dylai fod."

Ychwanegodd pan ddaeth y twyll i'r amlwg bod y prifathro wedi ceisio dylanwadu, yn hytrach na derbyn yr ymchwiliad.

Dywedodd fod y pwyllgor wedi cymryd i ystyriaeth record ddi-fai Mr Spencer a thystiolaeth dda ei gyflogwr bresennol, sef yr ysgol dramor.

Ond ychwanegodd fod y materion mor ddifrifol, hirfaith ac anonest fel nad oedd unrhyw ddewis ond ei dynnu i ffwrdd o'r rhestr.

O ganlyniad ni chaiff Mr Spencer wneud cais i ail-ymuno am bum mlynedd.

Mae ganddo 28 diwrnod i lansio apêl gyda'r Uchel Lys.

Pynciau cysylltiedig