Cartrefi gofal: Pryder am ffioedd ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Kim Ombler rheolwraig cartref Glan Rhos, Brynsiencyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kim Ombler, rheolwr cartref Glan Rhos, Brynsiencyn, bod y cartref yn ceisio osgoi gorfod codi gormod o ffioedd ychwanegol

Mae darparwyr cartrefi gofal wedi cael eu beirniadu am godi "ffioedd ychwanegol" ar breswylwyr am bethau fel apwyntiadau meddygol.

Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fe ddylai pawb ddweud yn agored ac o flaen llaw am bob ffi sy'n cael ei hawlio.

Maen nhw'n galw am gyflwyno gofal cymdeithasol am ddim yng Nghymru cyn gynted â phosib.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi ymrwymo i greu "Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol" ac y byddan nhw'n sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi'r syniad.

Dywed Fforwm Gofal Cymru nad oes gan gartrefi ddewis ond codi ffioedd ychwanegol os nad yw'r ffioedd presennol yn ddigon.

'Codi ffi am fynd allan'

Ar hyn o bryd mae ffioedd gofal yn cael eu talu trwy gyfuniad o gyllid cenedlaethol, awdurdodau lleol neu unigolion.

Mae cyllidebau'r cynghorau dan bwysau, ac mae faint maen nhw'n gallu cyfrannu at ofal cymdeithasol wedi gostwng o'r herwydd.

Ar ôl cyfnod anodd i'r sector gofal ac wrth i gostau byw barhau i gynyddu, mae pryder nad ydy'r ffioedd presennol yn ddigon.

Yn ôl Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn, mae nifer wedi cysylltu â nhw'n poeni am ffioedd ychwanegol - gan gynnwys am bethau fel mynd â phreswylwyr allan i'r ardd.

Meddai George Jones, eu Harweinydd Gwasanaethau Cymunedol a Chynhwysiant: "'Da ni'm yn siŵr os ydy hyn yn digwydd ledled Cymru eto, 'da ni'n dal yn ymchwilio.

"Mae'r Comisiynydd yn bryderus ofnadwy oherwydd os oes 'na gostau ychwanegol, nad ydy'r teulu na'r person sy'n byw yn y cartref wedi meddwl amdano, efallai fydd y person yna'n dal yn ôl rhag gofyn am fynd allan neu peidio mynd i'r ardd, er enghraifft, a felly yn gwneud dim lles iddyn nhw'u hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Rhan o erddi Cartref Glan Rhos, Brynsiencyn

Yng nghartref gofal Glan Rhos ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, maen nhw'n ceisio osgoi gorfod codi gormod o ffioedd ychwanegol. Ond mae'n her, yn ôl y rheolwr Kim Ombler.

"Mae'n anodd - mae costau 'di dwblu yn y flwyddyn ddiwetha'," meddai.

"Mi ydan ni wedi dechrau rhoi top-ups ar y ffioedd oherwydd dydy'r ffi 'da ni'n cael ddim yn medru gwneud i gyfro be ydy'r costau 'da ni'n rhedeg ar.

"'Da ni yn gofyn i deuluoedd os ydy o'n bosib iddyn nhw fynd â'r cleifion i'r ysbyty neu fynd efo nhw yn yr ambiwlans. Ond dydy o ddim bob tro'n bosib felly mi wnawn ni yrru staff."

'Mae'n rhan o'r gofal'

Mae Kim yn anghytuno â'r egwyddor o godi tâl am fynd â phreswylwyr allan i'r ardd, er enghraifft.

"Faswn i ddim yn codi i neb fynd allan i'r ardd," meddai.

"Mae'n rhan o'r gofal, dydy o ddim yn extra."

Mae hi'n credu bod angen ailystyried y ffordd mae ffioedd yn cael eu gosod yn llwyr.

Ychwanegodd: "Os fasa ni'n cael ffi sy'n dderbyniol fasa ni ddim yn gorfod gwneud y top-ups. Ma' pobl 'di talu mewn i'r system, pam ddylia nhw dalu extra?

"Ond mae'n rhaid i'r Cynulliad, yr awdurdodau lleol ac iechyd sbïo ar y taliadau maen nhw'n gwneud."

Disgrifiad o’r llun,

Cartref Glan Rhos Brynsiencyn

Mae Mary Wimbury, o Fforwm Gofal Cymru, yn dweud bod angen sgwrs onest am wir gost gofal 24 awr y dydd.

Meddai: "Y gost i rywun aros mewn gwesty, bwyd a golchi dillad - hefyd y gost am staff i weithio efo rhywun i roi help i wisgo neu fynd i'r tŷ bach.

"Rhaid i ni weld be' sy'n digwydd efo ffioedd gan llywodraeth leol a'r byrddau iechyd. Rhaid cael digon o ffioedd i gyfro'r costau.

"Mae'n well cael ffioedd cyffredinol sy'n ddigon. Ond os ydy o ddim yn ddigon, mae'n rhaid i gartrefi gofal godi ffioedd ychwanegol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid cael digon o ffioedd i gyfro'r costau, meddai Mary Wimbury o Fforwm Gofal Cymru

Fe gododd cyfraniadau Yswiriant Gwladol eleni, sy'n golygu bod mwy o arian ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol erbyn hyn.

Yn 2021, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn oedd yn cynnwys opsiwn ar y cyd â Phlaid Cymru i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol am ddim, pryd a lle bynnag y bo'i angen, yn debyg i'r ffordd mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio.

Ond yn ôl George Jones o'r Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn, mae angen gweithredu ar frys.

"'Ma' galw ar Lywodraeth Cymru i rhoi tân 'dani ar yr adolygiad maen nhw wedi addo gwneud ar ofal cymdeithasol fel bod ni'n medru cyrraedd y pwynt lle bod ein gofal cymdeithasol ar gael am ddim, a bod dim angen cecru am arian ychwanegol fel hyn," meddai.

'Cynghorau'n wynebu brwydr'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi'r syniad o Wasanaeth Gofal Cenedlaethol.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn disgwyl i ddarparwyr cartrefi gofal fod yn glir a dweud o flaen llaw am y ffioedd maen nhw'n codi ar unigolion am ofal preswyl.

"Mae gofyn iddyn nhw'n gyfreithiol i osod y wybodaeth yma allan yn eu canllaw ysgrifenedig yn ogystal â chytundeb yr unigolyn."

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r "argyfwng costau byw yn mynd i waethygu'r pwysau presennol" ar wasanaethau.

"Heb gyllid digonol," ychwanegon nhw, "bydd rhai cynghorau'n wynebu brwydr i gydbwyso cyllidebau."