'Cartrefi gofal i gau heb gymorth yswiriant Covid'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd rhai o fewn y sector bod hi'n "slap yn yr wyneb" bod gan ddigwyddiadau byw gymorth yswiriant ond nid cartrefi gofal

Fe allai rhai cartrefi gofal yng Nghymru gau oherwydd prinder yswiriant i amddiffyn darparwyr rhag sgil effeithiau Covid-19, yn ôl Fforwm Gofal Cymru.

Mae arweinwyr y sector hefyd wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ddarparu cynllun yswiriant i gefnogi digwyddiadau byw, tra bod dim cymorth tebyg i'r sector gofal.

Mae 'na bryder hefyd fod rhai cwmnïau yswiriant un ai wedi cau yn gyfan gwbl neu wedi cynyddu eu prisiau bron i deirgwaith yn fwy dros gyfnod y pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydweithio â llywodraethau eraill y DU i ganfod datrysiad. Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Pam bod angen yswiriant?

Dan gyfraith gwlad mae'n rhaid i gartrefi gofal fod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, neu wynebu costau enfawr pe bai nhw'n cael eu herlyn.

Ond oherwydd bod costau cwmnïau yswiriant wedi cynyddu gymaint dros gyfnod y pandemig mae 'na bryder fod nifer yn methu cael polisi.

Mae hynny'n golygu, tra bod rheolau'n llacio yn y gymuned, mae cartrefi gofal yn parhau i ddilyn cyfyngiadau llym wrth i reolwyr geisio osgoi unrhyw risg di-angen.

Fis Awst 2021 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa £750m fyddai'n digolledu digwyddiadau byw, fel gwyliau cerddorol, petai angen iddyn nhw ganslo ar fyr rybudd oherwydd Covid.

Mae 'na alwadau rŵan am gronfa debyg i helpu gwasanaethau gofal wrth ddelio ag achosion sy'n ymwneud â Covid-19.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ers Mawrth eleni mae ymwelwyr wedi cael mynd i gartref The Old Vicarage

Mae cartref gofal The Old Vicarage yn Llangollen wedi llwyddo i osgoi Covid-19 ers mis Mawrth 2020, ond mae hynny wedi golygu nifer o reolau llym.

Maen nhw'n poeni rŵan fod diffyg yswiriant yn golygu y bydd y 14 o breswylwyr yn wynebu misoedd o reolau llym tra bod gweddill cymdeithas yn llacio.

"Cyn y pandemig roedd rhai yn mynd i'r dref i siopa ac yn mynd i'r caffi neu 'oedd rhai yn aelodau o'r WI ond ddaeth bob dim i stop", meddai Fiona Collins sy'n gydlynydd gweithgareddau yn y cartref.

"Dim ond ers bach mae teuluoedd wedi dechrau gallu dod i ymweld yn yr ardd ond 'dio ddim bob tro yn ddelfrydol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o drigolion y cartref yn teimlo "ar goll" heb ymwelwyr, meddai'r cydlynydd gweithgareddau Fiona Collins

"Da ni methu trefnu pethau a 'da ni eisiau bod yn groesawgar i aelodau'r teulu, ond 'da ni'n petruso wrth ofyn oherwydd hyd yn oed os 'da chi'n ofalus mae'r feirws 'ma mor heintus", meddai.

"Os ydy o'n dod mewn - pwy sy'n gwybod beth all ddigwydd.

"Dydy'r bobl sy'n darparu yswiriant ddim yn deall, i bobl sy'n fregus, pa mor bwysig ydy just cael y pethau bychain a chadw cyswllt.

"Mae rhai yn teimlo ar goll."

Disgrifiad o’r llun,

I Bill Gosson, mae cael ymwelwyr yn hollbwysig i drigolion cartrefi gofal

Un sydd wedi bod yn byw yn y cartref gofal ers dros ddwy flynedd ydy Bill Gosson sy'n 90 oed.

Ers dod i'r cartref gofal mae ei ferch Sandra yn ymweld ag o yn gyson, a hynny'n eithriadol o bwysig meddai.

"Mae'n cadw'r cysylltiad o hyd, ac os 'swn i ddim dwi'n meddwl 'swn i'n recluse!

"Mae'n cadw fi fynd ac mae'n hanfodol i bobl.

"Wrth i chi fynd yn hyn - 'da chi'n colli gafael fel erioed o'r blaen, ac mae pobl yma'n rhoi fi'n iawn! Rŵan dwi'n dibynnu lot ar bobl."

'Slap yn yr wyneb'

Wrth i gartrefi gofal barhau â'u rheolau llym mae Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury yn poeni fod rhai yn y sector yn teimlo bod y "system wedi eu gadael nhw lawr" a bod eu gwaith yn cael ei "danseilio" o gofio'r hyn sy'n cael ei gynnig i'r sector digwyddiadau byw.

"Mae cwmnïau yswiriant yn gweld y sector gofal fel un risg uchel ac mae costau yswiriant wedi codi, ond y broblem fwyaf ydy does dim yswiriant public liability ar gael o gwbl", meddai.

"Os oes rhywun yn mynd i'r llys... mae'n debyg y byddan nhw'n gorfod cau ac maen nhw'n nerfus iawn am agor i ymwelwyr."

Yn ôl Mary Wimbury mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi dweud eu bod nhw'n ceisio gwneud eu gorau i ddatrys y sefyllfa, a thrafod gyda phartneriaid ond mae hi'n mynnu fod hyn rhy araf.

Mae hi hefyd yn disgrifio cynllun yswiriant digwyddiadau byw fel "slap yn yr wyneb" gan ddweud fod hynny'n cael ei flaenoriaethu dros gartrefi gofal.

Beth ydy'r ymateb?

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y broblem yn effeithio'r DU gyfan, a'i bod yn cydweithio â llywodraethau eraill y DU i ganfod datrysiad.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae ymdrechion sylweddol y sector gofal wrth ymateb i'r pandemig wedi bod yn gostus.

"I helpu gyda'r costau rydym wedi darparu dros £185m i'r sector drwy'r Gronfa Galedi i Lywodraeth Leol a'r byrddau iechyd, a byddwn yn rhoi cefnogaeth bellach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol."

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Mae'r ABI, yr asiantaeth sy'n cynrychioli broceriaid yswiriant, yn dweud fod y sector yn gweithio'n agos gyda maes gofal er mwyn delio â risgiau mewn cartrefi gofal a sicrhau fod modd cael yswiriant.

"Fe ddylai rheolwyr cartrefi ac awdurdodau lleol drafod gyda'u brocer yswiriant i ddod o hyd i atebion."

Pynciau cysylltiedig