Cyngor i osgoi teithio ar drên ar ddyddiau streic

  • Cyhoeddwyd
TrênFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Trafnidiaeth Cymru'n cynghori pobl i osgoi teithio ar drenau yn ystod tri diwrnod o weithredu diwydiannol, ac i ddisgwyl tarfu yn gyffredinol am wythnos gyfan.

Bydd aelodau undeb yr RMT ar streic ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn yn sgil anghydfod gyda Network Rail.

Fe wnaeth trafodaethau munud olaf i geisio datrys yr anghydfod fethu ddydd Llun, meddai'r RMT.

Mae'n golygu na fydd unrhyw wasanaethau o gwbl ar y dyddiau hynny ar draws gogledd Cymru nag yn ardal Abertawe.

Ond mae yna rybudd y bydd yna darfu hefyd ar y dyddiau cyn ac ar ôl y tri diwrnod o weithredu diwydiannol, yn arbennig ben bore, ac y bydd trenau fod "yn hynod o brysur drwy gydol yr wythnos".

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles wedi galw ar Lywodraeth y DU i "gymryd pob cam" i atal y streiciau.

Mae gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Grant Shapps, wedi cyhuddo'r undebau o "ymateb yn rhy fuan".

Pa wasanaethau fydd yn rhedeg?

Mae Trafnidiaeth Cymru yn "cynghori cwsmeriaid i ddim ond defnyddio'r trên os yw hi'n hanfodol eu bod yn gwneud hynny ar 20, 22, 24 a 26 Mehefin, ac i beidio â theithio o gwbl ar y trên ar 21, 23 a 25 Mehefin".

Er nad oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r RMT, mae'r gweithredu diwydiannol yn golygu na fydd modd rhedeg gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.

Mae disgwyl mai dim ond tua 4,500 o bobl fydd yn gallu teithio ar draws Prydain, yn hytrach na'r 20,000 arferol.

  • Ni fydd Avanti West Coast yn cynnal unrhyw wasanaethau ar draws gogledd Cymru ar ddiwrnodau'r streic;

  • Yr unig wasanaethau a fydd yn rhedeg ar 21 a 23 Mehefin fydd gwasanaeth llai rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, a bydd bysiau yn lle trên rhwng Radur a Chaerdydd Canolog;

  • Ar 25 Mehefin, bydd yna lai fyth o wasanaethau rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Phontypridd, gyda bysiau yn lle trenau rhwng Radur a Chaerdydd Canolog, a rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful. Mae hynny yn sgil gwaith sy'n parhau ar gyfer cynllun Metro De Cymru;

  • Bydd cwsmeriaid sydd â thocynnau, nad sy'n docynnau tymor, ar gyfer teithio rhwng 21 a 25 Mehefin yn gallu eu defnyddio rhwng 20 a 27 Mehefin.

Mae'r cwmnïau trên yn dal yn cadarnhau eu hamserlenni ar gyfer y cyfnod dan sylw, ac yn cynghori teithwyr i gynllunio o flaen llaw.

Mae Avanti West Coast yn rhagweld mai ond tua 25% o'r gwasanaethau arferol fydd yn rhedeg ddydd Mawrth a dydd Iau, a tua 33% o amserlen arferol dyddiau Sadwrn ar 25 Mehefin.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Phil Whittingham bod y penderfyniad "siomedig" i fynd ar streic "yn gynamserol" a "bydd yn achosi gofid mawr i'n cwsmeriaid".

Mae'n rhybuddio bod trenau'n debygol o fod yn brysur iawn, gyda threnau'n stopio'n "llai aml, os o gwbl" mewn gorsafoedd, gan annog pobl i deithio ar ddyddiau gwahanol "neu hawlio ad-daliad llawn".

Ychwanegodd bod y cwmni'n "erfyn ar yr RMT i beidio â pharhau gyda'r gweithredu diwydiannol ac i weithio gyda ni i ddiogelu dyfodol hirdymor i'r gwasanaeth rheilffordd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie a Colin wedi gorfod addasu eu cynlluniau yn sgil y streic ar y rheilffyrdd

Mae Colin Dayan yn gweithio mewn ysbyty, gan deithio ar y trên o Fryste fel arfer.

"Fe fydd yn fy effeithio i dros y pedwar diwrnod nesa' felly bydd rhaid i mi yrru am ddau ddiwrnod a gweithio o gartre', os yw hynny'n bosib."

Penderfynodd Katie Vanstone deithio i'r gwaith ddydd Llun, gan obeithio osgoi'r streic yn ddiweddarach yn yr wythnos.

"Oedi ac anghyfleustra" fydd prif effaith y gweithredu iddi hi.

"Mae'r cwmni'n hoffi bod ni yn y swyddfa unwaith yr wythnos felly 'nes i feddwl gwneud hynny heddiw cyn bod gweddill y streics yn digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond dau lwybr trên fydd yn weithredol yng Nghymru ar ddiwrnodau'r streic sef 21, 23 a 25 Mehefin

Dywedodd yr arbenigwr trafnidiaeth, yr Athro Stuart Cole o Brifysgol De Cymru: "Mae llwyth o bobl yn trafeili mewn i lefydd fel Caerdydd bob dydd - cymudwyr wrth gwrs. Fe fyddan nhw yn cael tipyn o drafferth os ydyn nhw yn gweithio mewn siop er enghraifft.

"Ond y lot o bobl sydd yn gweithio mewn swyddfeydd, maen nhw wedi bod yn gweithio o'r tŷ am ryw dair blynedd dros Covid, felly rwy'n rhagweld y bydd llwyth o gwmnïau yn symud 'nôl at hwnna dros yr wythnosau nesaf.

"Mae'r cwmnïau rheilffordd nawr yn 'neud mwy o arian a mwy o gwsmeriaid yn mynd fel twristiaid, ac nid cymudwyr. "Achos hynny bydd pobl sydd wedi bwcio, wedi penderfynu 'awn ni ar y trên' nawr yn troi 'nôl i'w ceir nhw yn lle.

"Llefydd fel Sir Benfro, Yr Wyddfa, Eryri fydd yn cael yr effaith os yw pobl wedi bwcio ar y trên."

'Mae'r cwmnïau yn nwylo'r llywodraeth'

Ychwanegodd yr Athro Cole ei fod yn credu bod lle gan Lywodraeth y DU i atal y streiciau, er eu bod nhw yn dweud mai rhwng cyflogwyr a'r undebau y mae angen trafodaethau.

"Os yw hyn yn mynd i ddigwydd mis ar ôl mis tan y Nadolig, fel maen nhw yn siarad am, mae hynny really yn mynd i gael effaith ar y rheilffyrdd.

"Wrth gwrs, mae Mr Shapps yn dweud ei fod lan i gwmnïau, ond mae'r cwmnïau nawr yn nwylo'r llywodraeth ers Covid.

"Mae'r llywodraeth yn y peth yma yn gyfan gwbl ac mae lan iddyn nhw, y cwmnïau a'r undebau i ddod i ryw fath o deal newydd."

Pynciau cysylltiedig