Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.
Cafodd pedwar categori yn y Gymraeg a'r Saesneg - Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc - eu cyhoeddi ar raglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru nos Lun.
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae'r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul BBC Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Llên Cymru, Siwan Rosser; a'r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.
Dywedodd Melanie Owen ei bod hi'n "fraint enfawr i gael bod yn aelod o'r panel" a bod y trafodaethau wedi bod yn "fywiog ac angerddol".
Yn ôl Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru, mae'r wobr yn "gyfle i ni ddangos gwerthfawrogiad i'n awduron talentog - i ddiolch iddynt am ein diddanu, ac am greu dihangfa i ni rhwng cloriau eu llyfrau".
"Mae hyn yn fwy gwir nac erioed yn dilyn dwy flynedd heriol, ac am hynny mae ein diolch yn fwy nag erioed," meddai.
Rhestr Fer Gymraeg 2022
Gwobr Farddoniaeth
Cawod Lwch, Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch)
merch y llyn, Grug Muse (Cyhoeddiadau'r Stamp)
Stafelloedd Amhenodol, Iestyn Tyne (Cyhoeddiadau'r Stamp)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Dod 'Nôl at fy Nghoed, Carys Eleri (Y Lolfa)
Paid â Bod Ofn , Non Parry (Y Lolfa)
Eigra: Hogan Fach o'r Blaena, Eigra Lewis Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor
Mori, Ffion Dafis (Y Lolfa)
Hela, Aled Hughes (Y Lolfa)
Hannah-Jane, Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
Pam?, Luned Aaron a Huw Aaron (Y Lolfa)
Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Y Pump - awduron amrywiol (Y Lolfa)
Bydd Rhestr Fer y gwobrau Saesneg yn cael ei gyhoeddi ar The Arts Show ar BBC Radio Wales nos Wener 1 Gorffennaf.
Bydd enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru rhwng 19-21 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021