Llyfr y Flwyddyn: Enillwyr categorïau ffuglen a barddoniaeth

  • Cyhoeddwyd
Enillwyr categorïau Ffuglen a BarddoniaethFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Enillwyr categorïau Ffuglen a Barddoniaeth

Nofel am bobl ifanc a chyfrol o farddoniaeth am golled a galar sydd wedi ennill categorïau Ffuglen a Barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2021.

tu ôl i'r awyr (Y Lolfa) yw nofel gyntaf Megan Angharad Hunter a Mynd (Gwasg Carreg Gwalch) yw cyfrol farddoniaeth gyntaf Marged Tudur.

Mae'r ddwy yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a'i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Mae'r ddwy hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos Fercher.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nofel Megan Hunter a ddaeth i'r brig yn y categori ffuglen

Nofel ddoniol a thorcalonnus sy'n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc ydy tu ôl i'r awyr.

Mae Anest a Deian yn y chweched dosbarth a phan maen nhw'n cwrdd, mae byd y ddau yn newid am byth.

Daw Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O'r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe ysgrifennodd Marged Tudur ei chyfrol o farddoniaeth wedi iddi golli ei brawd Dafydd

Fe enillodd Marged Tudur Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2019 i weithio ar gyfrol i'w diweddar frawd - Dafydd.

Ceir ynddi golled a galar, ond yn fwy na dim cariad yw'r llinyn arian sy'n cysylltu'r cerddi.

Daw Marged Tudur yn wreiddiol o Forfa Nefyn ond bellach mae'n byw yng Nghaernarfon.

Wedi graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA Ysgrifennu Creadigol a derbyniodd PhD ar ganeuon Cymraeg poblogaidd y 50 mlynedd ddiwethaf fel llenyddiaeth. Mae'n gweithio fel golygydd.

'Dianc i fyd arall yn bleser pur'

Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni mae'r bardd a'r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a'r darlithydd Tomos Owen; a'r comedïwr a'r awdur, Esyllt Sears.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Ms Sears: "Mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd a rhyfedd i bawb mewn gwahanol ffyrdd, mae cael rhywbeth i ymgolli ynddo - i'ch tynnu allan o'r slafdod dyddiol - wedi bod yn gwbl amhrisiadwy. Yn sicr, dyna oedd fy mhrofiad i.

"Felly, yn ogystal â bod yn fraint enfawr i gael bod yn rhan o banel beirniadu Llyfr y Flwyddyn 2021, roedd cael dianc i fydoedd eraill am awr neu ddwy y dydd am reswm cwbl ddilys yn bleser pur a dwi'n teimlo'n gyffrous iawn i rannu ein ffefrynnau gyda'r genedl."

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Ychwanegodd Mr Dafydd ei fod yn "gegrwth wrth dderbyn y domen enfawr o lyfrau".

"Sut yn y byd allai blwyddyn mor lom â 2020 gynhyrchu'r fath gynhaeaf llenyddol toreithiog? A sut yn y byd y mae diwylliant lleiafrifol go fregus yn llwyddo i baffio cymaint uwchlaw ei bwysau?

"Mae cyfoeth yma - o ysgolheictod cyhyrog i farddoniaeth sy'n prosesu profiadau'n grefftus, o nofelau gafaelgar i straeon fydd yn dal dychymyg plant.

"Mae llamu drwy'r llyfrau wedi ailgynnau fy nghariad at ddarllen - a'u trafod â'm cyd-feirniaid wedi gwneud imi werthfawrogi o'r newydd beth sy'n gwneud llenyddiaeth dda."

Bydd enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a'r categori Ffeithiol Greadigol yn cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru nos Fawrth.

'Dau deitl pwerus'

Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Derbyniodd Megan a Marged Ysgoloriaeth Awdur gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn gweithio ar tu ôl i'r awyr a Mynd, a braf yw gweld y cyfrolau hyn a'u hawduron talentog yn dod i'r brig yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni.

"Dyma ddau deitl pwerus, sy'n cynnig cyfraniadau pwysig am iechyd meddwl a phrofiadau cymdeithas, ac sydd yn mynnu lle ar silffoedd llyfrau trwy Gymru gyfan.

"Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch Megan a Marged, a diolch i'r ddwy ohonynt am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed."

Hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr farddoniaeth oedd Dal i Fod gan Elin ap Hywel a rhwng dwy lein drên gan Llŷr Gwyn Lewis, tra mai Wal gan Mari Emlyn a Twll Bach yn y Niwl gan Llio Elain Maddocks oedd hefyd ar y rhestr fer ffuglen.

Pynciau cysylltiedig