Cofio Terrence Higgins, un o'r cyntaf yn y DU i farw yn sgil AIDS

  • Cyhoeddwyd
Terrence yn ifanc ac yn hŷnFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Terrence Higgens
Disgrifiad o’r llun,

Mae podlediad newydd yn cofio'r "bachgen hyfryd o Hwlffordd" wnaeth orfod cuddio ei rywioldeb a symud i fyw i Lundain

Terry Higgins oedd un o'r bobl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i farw o salwch yn ymwneud ag AIDS.

Bu farw'r Cymro o Hwlffordd, Sir Benfro, 40 mlynedd yn ôl ar 4 Gorffennaf 1982 yn ysbyty St Thomas, Llundain.

Mae enw Terry yn fyd enwog heddiw trwy waith Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, yr elusen gyntaf yn y DU i gael ei ffurfio er mwyn taclo'r stigma a'r diffyg ymchwil i epidemig HIV.

Daeth Terry yn enwog am y ffordd fuodd farw, ond fe wnaeth hefyd fyw.

Ei ffrindiau a'i deulu sy'n cofio "bachgen hyfryd o Hwlffordd na gafodd fod yn rhydd adref yng Nghymru" mewn podlediad newydd sy'n adrodd straeon HIV ym Mhrydain.

'Dim ond pan fuodd e farw wnes i ffeindio allan fod e'n hoyw'

Pan oedd Terry yn tyfu i fyny yn Hwlffordd yn yr 1940au a'r 50au, ym mhendraw gorllewinol Cymru a Phrydain, roedd rhyw hoyw yn anghyfreithlon a 'buggery' yn dal yn drosedd yng ngolwg y gyfraith oedd yn gallu golygu carchar.

Dim ond yn 1967 y dechreuodd y cyfreithiau yma newid a hynny ond yn rhannol. Dechreuodd Terry ei fywyd pan roedd dod allan fel person hoyw i deulu a ffrindiau yn risg enfawr.

Roedd Angela o Bont Myrddin yn un o gyfoedion Terry yn ystod ei arddegau.

Meddai Angela: "Wnes i ddechrau mynd mas pan o'n i yn 15/16 oed ac oedd Terry yn rhywun o'n i'n gweld ar nos Sadwrn. Bydden ni'n mynd i'r neuaddau dawns lleol a byddai Terry'n dweud 'Come on girls, up you get!' a bydde'n llusgo fi a fy ffrind yr un pryd ac yn ein troelli o gwmpas y llawr, un ymhob braich.

Disgrifiad o’r llun,

Stryd Fawr Hwlffordd yn 2016. Yma byddai Angela yn gweld Terry ar nosweithiau Sadwrn ddegawdau ynghynt

"Roedd yn ddawnsiwr anhygoel... roedd e hyd yn oed gyda cherddediad dawnsiwr, yn cerdded yn ysgafn i gyd i lawr y stryd.

"I fi, jest Terry oedd e. Dim ond pan fuodd e farw wnes i ffeindio mas fod e'n hoyw.

"Alla i feddwl bod hynny wedi bod yn galed iawn iawn arno fe, achos roedd stigma difrifol bryd hynny."

'Roedd e'n wahanol ond doedden ni ddim yn gwybod pam'

Yn byw yn yr un stad â Terry yn Priory Avenue, Hwlffordd oedd Bill Yabsley. Roedd Bill yn gwneud rownd bapur ac yn dosbarthu logiau o gwmpas y stad.

Meddai: "Roedden ni'n chwarae yn y caeau efo'r bechgyn eraill a weithie bydde Terry yn dod lawr. Doedd e ddim yn cymysgu llawer gyda phlant eraill y stad. Prin iawn y byddai'n dod allan.

"Roedden ni yn blant rough and ready, pêl-droed un funud a chriced y llall a ffraeo ac ymladd y funud nesa'.

"Ond doedd Terry byth yn cynnwys ei hun yn hyn. Roedd e'n fachgen tawel.

"Roedd e'n wahanol ond doedden ni ddim yn gwybod pam. Plant oedden ni. Doedden ni ddim yn gwybod sut i drin pobl, roedd yn oes wahanol."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
Disgrifiad o’r llun,

Un o orymdeithiau Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Ni wnaeth Terry fyw i wybod am y gwaith da sydd yn cael ei wneud yn ei enw ers 1982

Roedd Terry'n fachgen peniog a chafodd ei dderbyn i'r ysgol ramadeg lle disgleiriodd mewn Ffrangeg ac fel cerddor.

Ar ôl gadael yr ysgol, gadawodd Terry Hwlffordd a chollodd y rhan fwyaf o'i ffrindiau gysylltiad ag ef.

Eglura Bill: "Y peth nesaf glywes i oedd ei fod wedi ymuno â'r llynges. Dwi ddim yn siŵr os wnaeth e hynny er mwyn dianc a chuddio ei rywioldeb..."

Atgofion ei gyfneither, Annie Oakley

Roedd Terry yn un o lawer a dyfodd i fyny yn berson hoyw mewn adeg ac ardal lle nad oedd hynny'n dderbyniol. Yn sgil hynny teimlodd yr angen i guddio llawer am ei fywyd ac amdano ei hun rhag ei deulu agosaf.

Er ei ddwyster a'i gyfrinachau, melys yw atgofion ei gyfneither ohono pan ddeuai 'nôl o'r llynges i weld ei deulu.

Meddai Annie Oakley: "Roeddwn i'n meddwl ei fod e'n olygus iawn achos roedd ganddo wallt tywyll iawn, a dwi'n cofio ei weld yn ei iwnifform morwr.

"Mae fy atgof cynharaf o Terry yn mynd nôl i pan o'n i tua wyth oed, daeth e i'n gweld ni yng Nghaerdydd ac roedd e yn yr ardd ffrynt yn ei wisg morwr, yn ein swingio ni o gwmpas a gadael i ni ddawnsio ar ei draed. Roedd e wastad yn dawnsio."

Gadawodd Terry'r llynges a threuliodd ei flynyddoedd olaf yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Bu'n gweithio fel gohebydd Hansard yn Nhŷ'r Cyffredin yn y dydd ac fel DJ ac yn y bar yng nghlwb Heaven gyda'r nos.

Ffynhonnell y llun, Rupert Whitaker
Disgrifiad o’r llun,

Terry (dde) yn mwynhau bywyd gyda'i ffrindiau yn Llundain

Hyd y gwyddai Annie, sydd yn byw yn Awstralia ers ei bod yn ddeunaw oed, wnaeth Terry erioed ddweud wrth ei deulu ei fod yn berson hoyw ond wnaeth o ddim cuddio popeth chwaith.

Eglura: "Dwi'n cofio pan o'n i'n 14 oed ac yn aros yn nhŷ Anti Marjie (mam Terry) a daeth Terry i aros gyda'i ffrind oedd yn ddyn. Doeddwn i erioed wedi meddwl am ei rywioldeb a 'nath ei fam ddweud wrtha i i fynd â phaned o de i fyny'r grisiau at Terry a'i ffrind.

"Pan es i mewn i'r stafell roedd y ddau ddyn yn y gwely gyda'i gilydd ond wnaeth hynny erioed effeithio arna i o gwbl, ro'n i yn oblivious a wnes i jest dweud, 'Dyma'ch paned o de chi!'"

Marwolaeth a chyfraniad Terry Higgins

Syrthiodd Terry un noson yng nghlwb nos Heaven a chafodd ei gludo i Ysbyty St Thomas lle bu farw o niwmonia parasitig ar 4 Gorffennaf 1982, clefyd sy'n gysylltiedig â feirws HIV.

Terry oedd un o'r bobl gyntaf ym Mhrydain i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS, a'r person cyntaf i gael ei enwi.

Yn ei flynyddoedd olaf, roedd Terry'n berson gymharol ddiarth i'w deulu yn Hwlffordd.

Eglura Annie: "Ar ôl i'w fam farw, ddaeth e nôl i'r angladd, mynd â phopeth o'r tŷ a wnaeth neb ei weld e eto.

"Wnaeth e ddiflannu am amser hi a wedyn 'nath e gysylltu efo fy mam pan o'n i draw yng Nghymru yn 1977. Gafon ni sgwrs dda ar y ffôn a wedyn wnes i erioed siarad gydag e eto.

"Es i nôl i Awstralia ac yna'r peth nesa' glywais i oedd ei fod e wedi marw."

Ffynhonnell y llun, Rupert Whitaker
Disgrifiad o’r llun,

Rhagor o fywyd Terry yn Llundain

Mae Angela, a arferai ddawnsio gyda Terry ar nosweithiau Sadwrn yn Hwlffordd, yn cofio'r sioc o glywed y newyddion.

Meddai: "Yn yr amser hynny roedden ni yn ddiniwed iawn a phan nes i ddysgu sut wnaeth Terry farw fe ges i ychydig o sioc.

"Roedd e jest yn byw ei fywyd a mwynhau popeth roedd e'n ei wneud. A'r wên yna, roedd ganddo wên hyfryd a galla i ei weld e'n gwenu nawr. Bachgen hyfryd, hynod hyfryd.

"Mae pawb yn gwybod sut oedd hoywon yn cael eu trin yn cyfnod yna, roedd e'n no-no.

"Doedd Terry ddim yn rhydd yn Hwlffordd, byddai pobl oedd yn ei 'nabod yn Llundain yn ei 'nabod yn well na neb achos roedd e'n rhydd yno."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
Disgrifiad o’r llun,

Martyn Butler OBE a Dr Rupert Whitaker OBE

Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth ei bartner Rupert Whitaker a'u ffrind Martyn Butler sefydlu Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn 1982 i godi ymwybyddiaeth o'r salwch, i gefnogi ymchwil ac i herio rhagfarnau oedd yn wynebu dynion hoyw.

Anrhydeddwyd y ddau gydag OBE ar ben-blwydd y Frenhines eleni a dadorchuddiwyd portread o Terry Higgins yn ystod ei ddyddiau ysgol yn Hwlffordd yn Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2022.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Nathan Wyburn o Gaerdydd gyda'i bortread o Terrence Higgins sydd bellach ar y wal yn Senedd Cymru

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod eisiau cael gwared ar holl achosion newydd HIV erbyn 2030 fel rhan o gynllun newydd.