Llywodraeth Cymru am gael 'gwared ar HIV o fewn wyth mlynedd'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth i geisio cael gwared ar HIV ymhen wyth mlynedd.
Mae'r cynllun 26 pwynt yn cynnwys gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar gondomau a chael profion.
Mae 'na fwriad hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr mewn ysgolion.
Y llynedd roedd yna 48 achos newydd o HIV yng Nghymru ac roedd 2,800 o bobl yn cael triniaeth ar ei gyfer.
'Pwysig addysgu plant'
Mae Christian Webb yn ymgyrchydd ac addysgwr ym maes addysg rhywedd a chydberthynas.
"Ni'n clywed llai am HIV dyddiau 'ma a mae hynny'n beth da oherwydd mae llai o bobl yn marw o'i herwydd e," meddai.
"Ond mae e dal yn bodoli ac mae e'n gallu effeithio ar unrhyw un, dim ots am eu rhywioldeb a'u rhywedd, felly mae'n bwysig fod gan blant yr addysg i amddiffyn eu hunain ac eraill."
Mae rhai o fyfyrwyr Blwyddyn 10 Ysgol Bryntawe yn Abertawe yn poeni nad ydyn nhw'n gwybod digon am y cyflwr.
"Fi'n meddwl amdano fe fel rhywbeth o'r 80au - dim rhywbeth sy'n parhau heddi," meddai Rudy.
Yn ôl Liv mae angen bod yn fwy agored gyda phobl ifanc.
"Rwy'n credu weithie bod pobl ifanc yn cael eu cysgodi o'r sgwrs, a pobl yn eu harddegau yw'r bobl sydd angen gwybod. Dyle fod mwy o addysg yn yr ysgolion."
"Does gen i ddim llawer o wybodaeth," meddai Keira. "Dwi'n cael fy ngwybodaeth o wefannau cymdeithasol neu wrth drafod gyda ffrindiau, ond ddim o'r ysgol.
"Yn fy marn i mae rhaid i bobl wybod am y ffyrdd gorau o atal lledaenu HIV ac AIDS achos does dim digon o wybodaeth am beth sydd angen ei wneud."
Mae Ryder yn teimlo'n gryf fod angen cael y wybodaeth yn ffurfiol yn yr ysgol.
"Mae angen iddo fe gael ei addysgu mewn ffordd wyddonol, dim mewn ffordd wleidyddol lle mae 'na ystrydebau ynglŷn â phwy sy'n cael HIV."
Tra bod yna bryder am ddiffyg ymwybyddiaeth, mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i adeiladu ar lwyddiant y cynllun i roi cyffur PrEP i bawb sydd ei angen.
O'i gymryd yn gyson mae'r cyffur hwnnw yn gallu atal pobl rhag cael eu heintio gyda HIV.
Yn ôl y llywodraeth fe gyfrannodd hynny tuag at ostyngiad o 75% mewn achosion newydd o HIV rhwng 2015 a 2021.
Ond mae cael diagnosis hwyr yn fwy o broblem yma nag mewn rhannau eraill o Brydain.
Mae Mark Lewis yn cynghori un o bwyllgorau San Steffan ar HIV ac yn byw gyda'r cyflwr. Mae'n dweud fod stigma ynglŷn â HIV yn atal pobl rhag chwilio am gymorth.
"Cymerodd e bedair blynedd i fi ddweud wrth fy nheulu bod HIV arna i achos o'n i ddim yn gwybod sut oedden nhw'n mynd i ddelio gyda fe a sut oedd y pentre'n mynd i ddelio gyda fe," meddai.
"Mae'r cynllun hyn yn helpu i daclo'r stigma drwy gael yr addysg mas 'na.
"Dim ond mwy o brofi, mwy o addysg am atal HIV sy'n mynd i helpu pobl ddelio gyda'r stigma a gobeithio cael gwared ar y broblem o bobl yn cael eu profi'n hwyr."
£4m i brofi ar-lein
Dyna obaith Dr Olwen Williams, ymgynghorydd mewn iechyd rhyw a HIV yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Mae dros 60% o bobl yma [yng Nghymru] yn beth 'dan ni'n eu galw'n late presenters, o'i gymharu â 42% dros Brydain i gyd," meddai.
"Os ydy pobl yn wael pan maen nhw'n dod ymlaen mae'r siawns ohonyn nhw'n byw'n holliach ymhellach ymlaen yn llai."
Bydd bron i £4m yn cael ei wario ar ddatblygu profi ar-lein ond mae'r llywodraeth yn cydnabod bod yna fwy o waith i'w wneud.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod y sefyllfa'n "mynd i'r cyfeiriad cywir" gyda gostyngiad o 75% yn nifer yr achosion dros y chwe blynedd diwethaf, "ond mae isie i ni fynd yn bellach nawr".
Pan ofynnwyd pa mor ymarferol yw ceisio cael gwared ar y cyflwr yn gyfan gwbl yng Nghymru mewn wyth mlynedd atebodd bod hi'n "bwysig bod ni yn rhoi nod".
Mae hi'n gobeithio y bydd y strategaeth newydd yn helpu cael gwared ar stigma a chodi ymwybyddiaeth i'r graddau fel bod pobl yn "peidio gadael hi yn rhy hir" cyn gofyn am gymorth meddygol.
Fe fydd yna gyfle dros y tri mis nesaf i ymateb i strategaeth y llywodraeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021