Prinder dŵr yn bryder wrth i Gymru baratoi am wres llethol

  • Cyhoeddwyd
Afon Caeriw ar 11 Gorffennaf, 2022 yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryder am y diffyg glaw yn enwedig yn Sir Benfro. Dyma Afon Caeriw yn gynharach yn yr wythnos

Mae pryder ynglŷn â phrinder dŵr mewn rhai mannau o Gymru yn dilyn y cyfnod sych diweddar.

Dywed Dŵr Cymru bod y cwmni'n cadw golwg fanwl ar lefelau dŵr yn y cronfeydd a'r afonydd, ac yn pryderu am y prinder glaw dros y misoedd diwethaf.

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru hefyd wedi rhyddhau cyngor i leihau'r risg iechyd yn sgil rhybudd o dywydd poeth eithriadol yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl i'r tymheredd godi'n uwch na 32C mewn rhai ardaloedd dwyreiniol, gyda rhybudd ambr mewn grym rhwng dydd Sul a dydd Mawrth, 17-19 Gorffennaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd swyddogion yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, ysgolion a busnesau i ddiogelu'r cyhoedd drwy'r cyfnod.

'Hanner y lefel arferol o law'

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales, dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, bod y cwmni'n edrych yn fanwl ar ardaloedd sy'n boblogaidd gyda thwristiaid.

"Beth sydd wedi digwydd ydy ein bod wedi cael llai na hanner y lefel arferol o law rhwng mis Mawrth a nawr," meddai.

"Rydym yn gweld cwpwl o ardaloedd sy'n peri pryder ac un o'r rhain yw Sir Benfro," meddai.

"Rydym wedi gweld cynnydd o 25% yn y galw am ddŵr yno. Oherwydd hyn, a'r prinder glaw hefyd, rydym yn cadw golwg fanwl iawn ar y sefyllfa."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â'r tywydd poeth mae diffyg glaw dros y misoedd diwethaf hefyd wedi cael effaith, fel yr Afon Wysg yn Llangynidr (uchod)

Mae'r cwmni'n galw ar bobl i fod yn ofalus ac i sicrhau nad ydynt yn gwastraffu dŵr.

Mewn ymateb i'r tywydd mae'r cwmni'n defnyddio ei fflyd gyfan o danceri i symud dŵr o gwmpas y rhwydwaith er mwyn ceisio cadw lefelau digonol mewn ardaloedd lle mae'r galw uchel.

Dywed Dŵr Cymru bod timau hefyd yn gweithio ar draws y wlad i ganfod gollyngiadau a'u bod yn trwsio 500 i 600 ohonynt bob wythnos ar hyn o bryd.

Maen nhw'n galw ar y cyhoedd i'w hysbysu o unrhyw ollyngiadau.

Ffynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r lefelau dŵr yng nghronfa Llandegfedd, ger Pont-y-pŵl, yn isel iawn ar hyn o bryd

Cyngor y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol:

  • Yfed digon o hylif;

  • Osgoi bod allan yn ystod adeg poetha'r dydd - rhwng 12:00 a 15:00;

  • Defnyddio eli haul;

  • Cau llenni a bleindiau i gael cysgod mewn ystafelloedd;

  • Peidio â gadael plant ifanc, pobl oedrannus nac anifeiliaid anwes mewn ceir wedi'u parcio;

  • Gwisgo dillad llac a het pan yn yr awyr agored.

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Chris Jones, wedi amlygu'r risgiau iechyd, yn enwedig i'r rhai mwyaf bregus sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn sgil y tywydd eithriadol.

"Nid yw'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion am wres eithafol heb ystyriaeth ddwys ac mae angen cymryd y risgiau iechyd posib o ddifri," meddai Mr Jones.

"Gall tymheredd uchel iawn fod yn beryglus i bawb ond mae mwy o risg i bobl oedrannus, plant, pobl â phroblemau iechyd cronig a phobl agored i niwed a all ei chael yn anodd ymdopi yn y gwres.

"Mae'r galw ar y Gwasanaeth Iechyd a'r gwasanaethau brys yng Nghymru eisoes yn uchel felly drwy gymryd gofal ychwanegol i ddiogelu ein hunain a'n teuluoedd, gallwn ni gyd helpu i leihau'r pwysau ar y gwasanaethau hanfodol hyn.

"Gall gwres eithafol beri pryder i bobl agored i niwed a phobl oedrannus yn enwedig felly fe fyddwn i hefyd yn annog pobl i gadw llygad ar gymdogion a pherthnasau i wneud yn siŵr eu bod yn ymdopi wrth i'r tymheredd godi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl y llywodraeth fe allai fod "effeithiau sylweddol" ar seilwaith drafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys ffyrdd a rheilffyrdd gan fod y gwres yn golygu bod cerbydau'n fwy tebygol o dorri i lawr ar ffyrdd ac fe allai roi straen hefyd ar y rhwydwaith rheilffyrdd.

Mae gofyn hefyd ar gyflogwyr i wneud "addasiadau rhesymol" i sicrhau y gall gweithwyr wneud eu llefydd gwaith yn ddiogel.

Apêl gan elusen i'r digartref

Mae The Wallich, elusen ar gyfer pobl ddigartref a rhai sy'n cysgu allan, wedi tynnu sylw at y problemau y mae'r tywydd poeth yn ei achosi.

"Mae'r haf yn gallu bod yn heriol i'r bobl yr ydym yn gefnogi, am nad ydynt yn gallu dianc oddi wrtho," meddai Lindsay Cordery Bruce, ar ran yr elusen.

Roedd pobl eraill yn gallu cysgodi, neu brynu pethau sylfaenol i wneud bywyd yn haws, meddai, megis hylif atal pigiadau, eli haul, het, neu hyd yn oed sanau glân.

"Mae pethau fel hyn yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig