Adran Dau: Casnewydd 0-1 Walsall

  • Cyhoeddwyd
Aaron WildigFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynwyd fod tramgwydd wedi bod, er i Aaron Wildig gredu ei fod wedi rhoi Casnewydd ar y blaen

Gôl i'w rwyd ei hun gan Mickey Demetriou oedd y gwahaniaeth wrth i Mike Flynn sicrhau'r fuddugoliaeth wrth ddychwelyd i Rodney Parade.

Bellach yn reolwr Walsall, bydd ei dîm newydd yn teithio'n ôl i ganolbarth Lloegr gyda'r triphwynt.

Roedd Casnewydd yn credu iddyn nhw sgorio wedi peniad Aaron Wildig ar ol 12 munud - ond roedd yn camsefyll.

Daeth unig gôl y gem wedi 63 munud gyda Demetriou yn gwyro'r bêl i'w rwyd ei hun wedi i Townsend wneud arbedid da.

Yn wir roedd yn gem agos gyda far ddim ynddi.

Ond er i Taylor Allen weld cerdyn coch wedi 84 munud, llwyddodd tîm Flynn i weld allan y gêm a sicrhau'r fuddugoliaeth.