Gwrthod cais i ddymchwel capel enwog Rhydcymerau

  • Cyhoeddwyd
Capel Rhydcymerau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trigolion lleol am i'r capel fod yn gyrchfan cymunedol

Mae perchennog capel enwog yn Rhydcymerau yn Sir Gaerfyrddin wedi cael gwybod nad oes hawl ganddo i ddymchwel yr adeilad.

Mewn cyngerdd yn y capel hwn y rhoddodd y llenor a'r cenedlaetholwr DJ Williams ei anerchiad gwladgarol olaf cyn marw yn syth wedyn yn Ionawr 1970 ac mae wedi ei gladdu yn y fynwent.

Er bod y capel wedi cau ers blynyddoedd ac yn eiddo i Nigel Smith roedd nifer o bobl leol wedi gwrthwynebu gan ddweud y byddent yn hoffi i'r capel fod yn fan cyfarfod ac yn siop gymunedol.

"Mae'r pentref eisoes wedi colli tafarn, ysgol, siop a swyddfa'r post," medd Patricia Barker.

"Does yna ddim ar ôl yn y pentref - flynyddoedd yn ôl roedd festri'r capel yn cael ei defnyddio i gynnal digwyddiadau ac yn le da i bobl leol gyfarfod."

Disgrifiad o’r llun,

"Rhain oedd ein pobl a rhaid i ni barchu eu man gorffwys terfynol," meddai un o'r trigolion lleol

Dywedodd Mikala Sargent hefyd bod y pentref sydd rhwng Llanybydder a Llansawel wedi colli nifer o adnoddau a'i bod yn drasiedi os collir y capel hefyd.

Roedd yna bryderon hefyd am effaith dymchwel y capel ar y fynwent.

Mewn e-bost at Gyngor Sir Caerfyrddin dywedodd Rachel Philip o Rydcymerau: "Rhain oedd ein pobl a rhaid i ni barchu eu man gorffwys terfynol."

Mae DJ Williams, un o dri Ysgol Fomio Penyberth ac awdur Hen Dŷ Ffarm a Straeon y Tir, ymhlith nifer sydd wedi'u claddu yn y fynwent.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarfod prin rhwng Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams mewn aduniad rai blynyddoedd wedi'r Tân yn Llŷn

Cafodd y capel gwreiddiol ei godi yn 1813 a'r un presennol yn 1874.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Gwenda Jenkins, un sydd wedi byw yn y pentref am dros 50 mlynedd, ei bod hi'n bwysig gwarchod y fynwent ac y byddai'n drueni gweld y capel yn dod lawr ond nad oedd diben cael siop yn y pentref.

"Mae e lan i Mr Smith wneud be mae e eisiau 'da'r adeilad - fe biau fe bellach ac mae'r capel wedi cau ers blynyddoedd ond mae'n bwysig gwarchod y fynwent.

"Y drafferth yw nad oes fawr o le o gwmpas yr adeilad.

"Byddai'n biti gweld y capel yn dod lawr ond mae'n anodd gwybod be ddaw ohono. Nid agor siop yw'r ateb.

"Fues i'n cadw siop yn y pentref am flynyddoedd ac unwaith y bu'n rhaid i swyddfa'r post gau doedd yna fawr o gefnogaeth i'r siop - a bu'n rhaid i fi gau hi yn fuan wedi i swyddfa'r post gau ac mae hynny ryw 14 mlynedd yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llenor a'r cenedlaetholwr DJ Williams wedi ei gladdu ym mynwent Capel Rhydcymerau

Wrth wrthod cais Mr Smith dywedodd adran gynllunio'r cyngor nad oedd yna ddigon o wybodaeth wedi ei roi ynglŷn â'r bwriad i adfer y safle.

Roedd yna bryderon hefyd am ba mor agos yw'r adeilad i adeiladau cyfagos a phresenoldeb ystlumod ar y safle.

Cafodd cais blaenorol Mr Smith ei wrthod ym mis Mawrth.

Roedd arolwg o'r adeilad ar ran Mr Smith yn nodi nad oedd y capel wedi ei gadw'n dda ond bod ei strwythur yn foddhaol a bod modd ei atgyweirio.

Pynciau cysylltiedig