Adran Dau: Stevenage 1-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Jake Reeves, chwaraewr canol cae Stevenage, yn cipio'r bêl oddi ar James Waite o Gasnewydd
Colli wnaeth yr Alltudion nos Fawrth yn erbyn y tîm o Lundain er gwaethaf eu hymdrechion glew yn yr hanner cyntaf.
Daeth ambell gyfle annisgwyl i Gasnewydd yn hwyr yn yr hanner cyntaf ond methu manteisio wnaeth Omar Bogle na Mathew Dolan.
Ar hanner amser roedd y gêm yn parhau yn ddi-sgôr.
Tair munud gymerodd hi i Stevenage fynd ar y blaen yn yr ail hanner a hynny wedi taran o ergyd gan Alex Gilbey o du allan y blwch cosb.
Doedd fawr o siâp sgorio ar yr Alltudion ac ni lwyddodd y tîm cartref i sgorio ymhellach.
Mae Stevenage yn parhau yn ail yn y tabl a Chasnewydd bellach yn safle 17.
Gohirwyd gêm oddi cartref yr Alltudion yn Swindon dros y Sul yn sgil marwolaeth y Frenhines.