Joe Allen a Ben Davies allan o garfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jordan James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan James wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru a Lloegr yn y gorffennol

Ni fydd Ben Davies a Joe Allen ar gael wrth i Gymru wynebu Gwlad Belg a Gwlad Pwyl yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd.

Fe wnaeth Davies anafu ei goes wrth chwarae i Tottehnam yn erbyn Sporting Lisbon ac mae disgwyl na fydd yn gallu chwarae eto am dair wythnos.

Hefyd yn absennol fydd y chwaraewr canol y cae Joe Allen ar ôl anaf i'w goes wrth chwarae i Abertawe yn erbyn Hull.

Mae'r chwaraewr canol cae Jordan James, 18 oed, o Birmingham City wedi cael ei alw i'r garfan ar gyfer y gemau ar 22 a 25 Medi.

Dyw James heb ennill ei gap cyntaf eto, ac mae wedi chwarae i dîm Lloegr dan-20, cyn iddo ymuno â charfan 21-oed Cymru.

Nid James fydd yr unig enw newydd yn y garfan, wrth i ymosodwr 17 oed Fulham, Luke Harris, gael ei gynnwys am y tro cyntaf.

Roedd rheolwr Cymru, Rob Page eisoes yn gwybod y byddai heb Aaron Ramsey, Harry Wilson ac Adam Davies oherwydd anafiadau.

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg ddydd Iau, a gartref yn erbyn Gwlad Pwyl ar y dydd Sul.