Adran Dau: Leyton Orient 1-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Fe lwyddodd Casnewydd i drechu Leyton Orient a dod â'u cyfres o fuddugoliaethau y tymor hwn i ben.
Er i'r tîm cartref ddechrau'n gryf, fe darodd Casnewydd yn ôl yn ddigon buan.
Will Evans gafodd y gôl gyntaf gyda pheniad a daeth yr ail i Omar Bogle.
Fe gafodd Leyton Orient un gôl cyn y diwedd a honno gan Aaron Drinan.