Cleifion 'ddim yn ddiogel' oherwydd prinder nyrsys

  • Cyhoeddwyd
Sandra Robinson-Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Bydd prinder nyrsys yn amharu ar gleifion, meddai Sandra Robinson-Clarke

Dyw gofal cleifion "ddim yn ddiogel oherwydd bod yna gymaint o brinder nyrsio ledled Cymru a ledled Prydain", yn ôl Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru (RCN).

Wrth agor pleidlais ynglŷn â gweithredu'n ddiwydiannol, mae'r undeb yn dweud bod eu cyflogau wedi gostwng ddwywaith gymaint â'r sector breifat, a bod nyrsys wedi cael llond bol ar ôl wynebu'r ddwy flynedd anoddaf yn eu gyrfaoedd.

Eithriad ydy hi i aelodau'r RCN fynd ar streic, ond mae'r arweinwyr yn dadlau bod cyflogau wedi gostwng i'r fath raddau bod yn rhaid i'r tâl adlewyrchu'r pwysau sydd yr nyrsys yn ysbytai Cymru.

Ond mae Llywodraeth Cymru - sydd wedi cynnig 3% o godiad cyflog - yn dweud bod cyfyngiadau ar ba mor bell allan nhw fynd heb arian ychwanegol.

Cleifion mewn perygl

Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, dywedodd Sandra Robinson-Clark, un o swyddogion yr RCN yng ngogledd Cymru: "Y gwir yw, tydi gofal cleifion ddim yn ddiogel oherwydd bod yna gymaint o brinder nyrsio ledled Cymru a ledled Prydain.

"'Di o ddim just yn ymwneud â pae, wrth gwrs mae pae yn bwysig oherwydd y sefyllfa ariannol yn y wlad.

"Ond, cleifion yw ein blaenoriaeth, a dydyn ni ddim yn gallu cadw nyrsys yn y proffesiwn oherwydd bod y cyflog mor wael a bod amodau gweithio mor ddifrifol."

Ychwanegodd: "Mae'r prinder yma yn mynd i amharu ar gleifion.

"Felly, rydyn ni wedi cael llond bol, a ma' 'na awydd mawr - rydyn ni'n credu fel Coleg Nyrsio - bod yr aelodau yn mynd i fotio yn y ballots i gymryd industrial action".

Er ei bod hi'n pwysleisio nad yw nyrsys eisiau mynd ar streic, mae hi'n credu os na fydd yna weithredu, ni fydd digon ohonynt ar ôl yn y proffesiwn i gynnal y Gwasanaeth Iechyd

"Mae cyflog nyrs yn £13 yr awr... fedrwch chi gael cyflog fel'na yn Aldi.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i gael gradd ac yn cymryd lot o gyfrifoldeb i edrych ar ôl ein cleifion - a tydi'r cyflog ddim yn reflectio be' 'da ni'n 'neud o ran ein cyfrifoldeb."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl y Coleg mae dros 1,800 o nyrsys yng Nghymru wedi gadael y proffesiwn yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd eu cyfarwyddwr Helen Whyley mai cam olaf fyddai mynd ar streic, ond eu bod wedi dilyn pob opsiwn arall, ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa.

Cyfyngiadau heb arian ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi derbyn argymhellion corff adolygu cyflogau yn llawn ynglŷn â thâl nyrsys, ond heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU fod yna gyfyngiadau ar yr hyn a allan nhw ei wneud.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU - sydd wedi cynnig codiad cyflog tebyg i nyrsys yn Lloegr - ei bod yn gwerthfawrogi gwaith nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd ond yn galw ar nyrsys i "ystyried yn ofalus" yr effaith y byddai gweithredu yn ei gael ar gleifion.

Dyma'r tro cyntaf i'r RCN gynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol drwy'r DU ers i'r undeb gael ei ffurfio 106 o flynyddoedd yn ôl.

Pe bai yna weithredu, fe fyddai rhai nyrsys yn parhau i weithio er mwyn sicrhau fod gwasanaethau brys a hanfodol yn parhau.

Pynciau cysylltiedig