'Euogrwydd' athrawon wrth bleidleisio o blaid streicio
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n teimlo'n ofnadwy, ofnadwy o euog… ond dwi'n meddwl o ran amddiffyn dyfodol ein hathrawon a'n plant, mae'n rhaid i ni streicio."
Mae Lowri Lewis Williams, athrawes yn Sir Ddinbych, yn un o filoedd o athrawon fydd yn cael y cyfle i bleidleisio ynglŷn â gweithredu diwydiannol - neu streicio - dros yr wythnosau nesaf.
Mae undebau dysgu wedi gwrthod codiad cyflog o 5%, gan ddadlau nad yw'n cyd-fynd â chwyddiant a chostau byw.
Yn ôl y Gweinidog Addysg Jeremy Miles, mae gofynion yr undebau yn "rhesymol" ond ddim yn fforddiadwy o fewn cyllideb bresennol Llywodraeth Cymru.
Mae Lowri yn fam i bedwar ac wedi bod yn dysgu am 20 mlynedd.
"Mae lot yn gadael ar hyn o bryd oherwydd pwysau gwaith a hefyd gallu fforddio mynd i'w gwaith," meddai.
Mae'n teithio 30 milltir y diwrnod i'r gwaith ac yn ôl ac yn ymwybodol o gostau disl, ond fydd cefnogi streic ddim yn ddewis hawdd ac mae'n teimlo'n euog.
"Dwi'n gwybod bod y plant yn fy nosbarthiadau i wedi cael dwy flynedd heriol iawn o ddysgu o adre, a'r peth ola' fydden i eisiau gwneud yw streicio ar gyfer unrhyw beth.
"Ond dwi'n meddwl o ran amddiffyn ein dyfodol - ein hathrawon a'n plant - mae'n rhaid i ni streicio neu fydd 'na ddim athrawon."
Beth sydd wedi'i gynnig i athrawon?
Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, a chynnig codiad cyflog o 5% eleni gyda'r posibilrwydd o godi 3.5% yn rhagor y flwyddyn nesaf.
Byddai'n golygu bod cyflogau athrawon newydd yn codi i £28,866, ac yna fyny i o leiaf £30,000 flwyddyn nesaf.
Mae'r cyflogau'n dibynnu ar eu profiad ac unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol maen nhw'n gwneud, a byddai cyflogau athrawon dosbarth mwy profiadol yn codi i £44,450.
Mae dadansoddiad gan yr economegydd Luke Sibieta o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn awgrymu ei fod yn gyfystyr â thoriad cyflog o 3% ar ôl chwyddiant - gostyngiad o 10% ers 2010.
Ond yn ôl undebau, wrth ddefnyddio mesur arall ar gyfer chwyddiant, mae'r toriad yn debycach i 20%.
Mae Tomi Rowlands, athro ym Mhowys, yn dweud y dylai cyflogau fod yn codi gyda chwyddiant, sydd ar hyn o bryd tua 10%.
Mae Tomi, fel pawb arall, wedi gweld effaith y cynnydd yng nghostau byw - mae cynlluniau i brynu tŷ mwy ar ôl cael plentyn wedi gorfod cael eu hoedi.
Ond mae'n dweud taw staff sydd newydd gymhwyso sy'n ei chael hi waethaf.
"Mae'u cyflog nhw'n llai, maen nhw'n sylwi dy'n nhw methu talu rhent, dy'n nhw methu talu costau bwyd ac maen nhw'n gadael y proffesiwn i gael swyddi sy'n talu mwy," meddai.
"Os da' ni eisiau mabwysiadu cwricwlwm newydd yng Nghymru a sicrhau bod ein dysgwyr ni'n cael y gorau maen nhw'n gallu yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ariannu staff ysgolion yn well a chadw nhw yn y swydd yn well."
Pryd mae'r pleidleisio?
Mae un undeb dysgu, yr NASUWT, yn agor y pleidleisio ddydd Iau gan ofyn i aelodau os ydyn nhw am gefnogi streic yn ogystal â gweithredu diwydiannol amgen, allai olygu glynu at ddyletswyddau craidd yn unig.
Bydd undeb NEU Cymru yn dilyn ymhen diwrnodau, cyn i eraill gynnal pleidlais dros yr wythnosau nesaf.
Yn eu plith mae undeb y penaethiaid, NAHT Cymru, sy'n wynebu'r posibilrwydd o streicio am y tro cyntaf yn ei hanes.
Os yw'r undebau'n cefnogi gweithredu, fe allai ddigwydd yn y flwyddyn newydd.
Yng Nghaerdydd, roedd un rhiant yn gobeithio y byddai yna ddatrysiad buan i osgoi streic.
"Mae gen i ferch 13 oed, a gyda'r holl amser maen nhw wedi cael bant efo Covid dwi ddim yn meddwl mai dyma'r amser gorau i fod yn gwneud hynny," meddai Andrew Couvret.
Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi bod costau byw cynyddol yn cael effaith "ond dwi ddim yn meddwl ei fod o fudd i'r plant".
Ond wrth gasglu eu plant o'r ysgol, roedd rhai rhieni yn fwy cefnogol.
"Mae'n rhaid iddyn nhw sefyll lan am beth maen nhw'n credu a beth sy'n iawn," meddai un fam.
Ysgrifennodd Jeremy Miles at undebau yn dweud bod eu disgwyliad i gyflogau godi gyda chwyddiant yn "gwbl resymol", ond yn amhosib heb gynnydd mawr yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.
"Mae'n warth fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ein gadael mewn sefyllfa mor amhosib," ysgrifennodd.
Mewn ymateb, dywedodd y Trysorlys bod cyfrifoldeb dros ariannu gwasanaethau cyhoeddus wedi'i ddatganoli.
"Ry'n ni wedi rhoi £18bn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf - y setliad uchaf o ganlyniad i'r adolygiad gwariant ers datganoli," meddai llefarydd.
Cymru 'â'r pŵer a'r arian'
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones, fod gan y Gweinidog Addysg "y pŵer a'r arian i roi rhagor o dâl i athrawon os yw eisiau".
Ychwanegodd fod "cadw athrawon yn broblem" i Lywodraeth Lafur Cymru.
"Mae'n amser i'r Gweinidog Addysg roi ei arian ar ei air, mynd i'r afael â'r problemau unigryw sy'n wynebu system addysg Cymru a pheidio pasio'r bai."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd28 Medi 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022