Cymro Blaenrhondda yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Nathan JonesFfynhonnell y llun, Matt Watson
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Jones, rheolwr newydd Southampton F.C

Cyhoeddwyd carfan bêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd Qatar o fro mebyd y rheolwr Rob Page ym Mhendyrus yng Nghwm Rhondda ar 9 Tachwedd.

Rygbi ydi'r gamp fyddai rhywun yn ei chysylltu gyda'r rhan yma o Gymru fel arfer - gyda'r mwyafrif o bêl-droedwyr enwog y de yn dod o Gaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd. Er hynny, mae'r ardal yma'n fwy ffrwythlon o ran ei chyfraniad i fyd y bêl gron nac y byddai rhywun yn ei ddychmygu.

Yn Nhon Pentre, sydd wedi ei leoli bum munud fyny'r lôn o Bendyrus, ganwyd y chwedlonol Jimmy Murphy - rheolwr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958.

Ond mae 'na reolwr Cymreig arall o'r un filltir sgwar yng Nghwm Rhondda sy'n cadarnhau fod pêl-droed yno o hyd.

Dim ond tair milltir o Pentre a saith milltir i'r gogledd o Bendyrus, mi ddowch ar draws pentref bach glofaol Blaenrhondda wedi ei wasgu yng nghysgod Mynydd y Bwlch a Rhigos.

Dyma bentref genedigol Nathan Jones, 49, y Cymro sydd newydd gael ei benodi yn reolwr newydd Southampton F.C yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Matt Watson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Jones wedi arwyddo cytuneb tair blynedd a hanner gyda Southampton F.C

Rheolwr Cymreig arall yn yr Uwch Gynghrair

Mae Jones wedi creu enw mawr iddo'i hun yn y byd pêl-droed yn ddiweddar wedi cyfnod llwyddiannus dros ben gyda Luton Town yn y Bencampwriaeth.

Arweiniodd y clwb i rownd gyn-derfynol y gemau rhagbrofol llynedd ble collwyd i Huddersfield Town mewn ciciau o'r smotyn.

Yn ei gyfnod gyda Luton fe ddaeth y clwb yn rhyw fath o nyth i rai o chwaraewyr Cymru gyda Joe Morrell, Rhys Norrington-Davies, a Tom Lockyer - sydd dal yno - yn chwarae rhan mawr yn nhîm y rheolwr. Bu John Hartson a Mark Pembridge yn chwarae yn Kenilworth Road am gyfnodau yn y '90au hefyd.

Ffynhonnell y llun, Nathan Stirk
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jones yn gadael Luton Town yn y 9fed safle yn y Bencampwriaeth

Wrth gymryd yr awenau gan Ralph Hasenhüttl yn Southampton bydd Nathan Jones yn ymuno â Chymro arall, Steve Cooper - sy'n rheoli Nottingham Forest, yn Uwch Gynghrair Lloegr.

A dyfalwch o ble mae Cooper yn dod? Pontypridd. Ia, enw arall i glampio cyfraniad y rhan yma o Gymru i bêl-droed, a hynny ar y lefel uchaf.

Fel Cooper, mi fydd Jones yn dilyn ôl traed rheolwyr eraill Cymreig fel Mark Hughes, Tony Pulis, Mike Walker, Chris Coleman, Ryan Giggs, Alan Curtis, a Peter Shreeves sydd wedi rheoli timau'r gynghrair yn eu tro.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sicrhaodd Steve Cooper ddyrchafiad Nottingham Forest i Uwch Gynghrair Lloegr llynedd

O Faesteg i Southampton F.C

Dechreuodd Nathan Jones ei yrfa bêl-droed gyda'i glybiau lleol fel Maesteg, Ton Pentre a Merthyr Tydfil. Chwaraeodd i Luton Town yn 1995 cyn treulio dau dymor yn Sbaen gyda Badajoz a Numancia.

Dychwelodd i Loegr i ymuno â Southend United cyn cael gyrfa lwyddiannus fel canolwr a chefnwr chwith i Brighton & Hove Albion a Yeovil rhwng 2000 a 2012.

Yn 2016 fe ail ymunodd gyda Luton Town fel rheolwr, a gyda hwythau yng ngwaelodion yr Ail Adran, roedd hi'n dasg oedd am brofi'n heriol iawn iddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O'r presenol i'r gorffennol - y ddau arwr, Rob Page a Jimmy Murphy o Gwm Rhondda sydd wedi llwyddo i arwain Cymru i Gwpan y Byd

Ond yn rhyfeddol llwyddodd y Cymro i godi Luton Town i'r Adran Gyntaf yn 2018. Mi adawodd y clwb yn ail safle'r gynghrair yn 2019 ac ymuno â Stoke City, cam mae'n ei "ddifaru" wrth edrych yn ôl.

Wedi cyfnod anodd yng ngogledd Lloegr dychwelodd i Luton i ail gynnau'r fflam. Llynedd fe ddaeth yn agos at gael dychafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ac yn sgil hynny y Cymro o Flaenrhondda gafodd ei enwi yn Reolwr y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth.

Crefydd

Un elfen o'i fywyd mae Nathan Jones yn dweud sydd wedi cadw ei draed ar y ddaear ydy Cristnogaeth, yn enwedig gyda bywyd ym myd pêl-droed yn gallu bod yn droellog ac ansefydlog.

Ar ei freichiau ac ar hyd ei gefn mae ganddo datŵs o'r groes, o Iesu Grist a darlun Michaelangelo o 'Greuad Adda'.

Ffynhonnell y llun, Alex Dodd - CameraSport
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gyrfa Nathan Jones yn dechrau gyda gêm heriol oddi gartref yn erbyn Lerpwl yn Anfield ar ddydd Sadwrn, 12 Tachwedd

Bydd cyrhaeddiad y Cymro i Uwch Gynghrair Lloegr yn cryfhau lle Cymru ar fap pêl gron y byd ac yn talu teyrnged i feithrinfa bêl-droed sgwar fach Pendyrus, Blaenrhondda, Pentre a Pontypridd yn y Cymoedd.

Wrth edrych tua'r dyfodol, pwy a ŵyr, efallai mai Jones neu Cooper fydd un o reolwyr nesaf y tîm cenedlaethol? Amser yn Uwch Gynghrair Lloegr a ymddengys.